Isosgeles yn cyflwyno...ELFENNAU
Ar hyn o bryd gallech gyfri nifer o gynhyrchwyr electronig/dawns Cymraeg ar un llaw, sydd yn dorcalonnus. OND ar nodyn positif penderfynom ni i gwrdd ag un o gynhyrchwyr mwyaf newydd y sin cerddorol Gymraeg, Elfennau er mwyn ffeindio mas mwy amdano fe a'i gerddoriaeth.
(Wrth ddarllen, be am wrando ar hon ar yr un pryd: 'Ti a Fi' trac ecscliwsif i Isosgeles fydd ar ei EP gyntaf 'Heddiw' fydd mas hwyrach yn y flwyddyn.)
Helo Elfennau, diolch am gytuno i wneud cyfweliad gyda Isosgeles. Cwestiwn amlwg a diflas i agor (sori) ond un sydd yn bwysig...Pwy yw Elfennau?
Elfennau ydy'r project newydd gan fi, Martyn Kinnear. Dwi wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer o flynyddoedd. Ar gyfer y dwy flynedd ddiwethaf dysgais i Cymraeg yn y gwaith, felly fi eisiau estyn allan i gynulleidfa Gymraeg.
Sôn wrthym ni am dy gerddoriaeth! Wrth wrando ar dy EP rydyn ni'n clywed amryw o arddulliau a synau gwahanol o fyd dawns. Lle mae'r ysbrydoliaeth a'r awydd yma wedi dod o i greu cerddoriaeth ddawns?
Dechreuais ysgrifennu cerddoriaeth electronig pan roeddwn yn y coleg (gyda help o fy fiancé Emma). Gwrandawais ar gymaint o steiliau gwahanol o gerddoriaeth a roeddwn yn awyddus i ddysgu sut i greu gwahanol genres. Cariodd hwna ymlaen ym Mhrifysgol wedyn lle roedd cerddoriaeth dawns yn dechrau dod yn fwy boblogaidd, fel y roc ‘n rol newydd. Dechreuais DJio ym Mhrifysgol wedyn gyda fy ffrind Koncept a cyflwynodd e gwhahanol fathau o gerddoriaeth dawns i fi fel Dubstep, Moombahton, Deep House, Drumstep Glitch Hop a mwy. Ysgrifennom ni llwyth o diwns Dubstep, a gyda’n gilydd a cynhyrchom ni lot fawr o mashups roedd yn cael ei ddefnyddio yn ein set byw. Dwi’n caru DJio y fath yna o gerddoriaeth felly roedd symud at gynhyrchu cerddoriaeth yn cam hawdd i gymryd.
Dw i ddim wedi clywed llawer o cerddoriaeth dawns yn Cymru, ac ers i fi ddysgu Cymraeg yn y gwaith, dwi wedi clywed lot o gerddoriaeth pop, indie a gwerin felly roeddwn yn awyddus i ddechrau ailgymysgu cerddoriaeth Cymraeg.
Sut mae Elfennau yn mynd ati i gynhyrchu trac newydd?
Mae pob trac yn gwahanol. Os ydw i wedi bod yn gwrando ar lot o artistiaid tebyg, dwi’n dechrau tynnu arddulliau a synnau o’r artistiaid yna. Dwi fel arfer gyda rhywfath o curiad neu alaw yn fy mhen a dwi’n canu hi mewn i fy iphone a pan gai’r cyfle nai drio eistedd lawr am gwpwl o oriau a cyfansoddi hi yn iawn ar Logic ar fy Macbook. Os na allai cyfansoddi hi o fewn un sesiwn cyfansoddi dwi fel arfer yn scrapio’r syniad. Dwi rili angen mwynhau’r trac os ydy hi am fynd ym mhellach a does dim byd gwaeth na dod nol i drac sydd hanner gorffen.
Nid jyst cynhyrchu cerddoriaeth dy hun wyt ti ond rwyt ti'n ailgymysgu hefyd. Oes well gen ti gynhyrchu gwaith dy hun? Neu ailgymysgu cerddoriaeth pobl eraill?
Dwi'n caru'r ddau. Os dwi'n ailgymysgu trac dwi erioed 'di clywed o'r blaen dwi'n hoffi cael y tracs lleisiau yn unig achos dwi'n cael neud be bynnag dwi moyn i'r gerddoriaeth wedyn a trin hi fel cyfansoddiad fy hun.
A fydden ni'n gweld Elfennau yn fyw rhyw ddydd?
Gobeithio, Dwi'n gweithio fel DJ ar pob penwythnos yn Caerfyrddin a dwi'n dysgu llawer mwy o Gymraeg felly efallai blwyddyn nesa nai chwarae cwpwl o wyliau gerddorol, efallai Maes B?
Pa gynlluniau sydd gen ti ar gyfer y dyfodol? Lle bydd Elfennau amser yma blwyddyn nesaf?
Gobeithio fyddai'n rhugl yn y Gymraeg amser yma blwyddyn nesaf. Hoffwn greu albwm a cysylltu gyda rhagor o artistiaid er mwyn creu rhagor o ailgymysgiadau. Dwi'n sicr moyn bod yn rhan o gigs a gwyliau cerddorol Cymraeg. Dwi'n caru gwylio Y Stiwdio Gefn felly falle perfformiadau teledu?
Un peth sydd yn sicr yw bod Elfennau yn llenwi gwagle mawr yn y sin cerddorol Gymraeg ar hyn o bryd. Gydag arddulliau dawns ryngwladol efallai welwn Elfennau yn mynd tu hwnt i'r ffin a theithio i wledydd eraill i ddilyn yn ôl traed rhai o gewri dawns fodern fel Calvin Harris, Avicii a Tiesto. Mae ei gerddoriaeth wir yn gweddi i dorf o filoedd felly, peidiwch chi a synnu i weld Elfennau ar dop boster gŵyl gerddorol Cymraeg yn y dyfodol.