AWGRYMIADAU AR GYFER CONFRA LANSIO 2017
Rydym newydd lansio Cronfa Lansio / Launchpad, lle gall cerddorion ac artistiaid yng Nghymru fanteisio ar grantiau hyd at £2,000 tuag at eu cerddoriaeth. Mae’n rhan bwysig o brosiect Gorwelion, gan fod cymorth ariannol yn hwb ymarferol iawn i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru. Oherwydd y gronfa, mae llawer o'r bandiau wedi gallu recordio a chreu fideos ac mae’r gronfa hefyd wedi cyfrannu at ariannu swyddogion cyhoeddusrwydd (pluggers) i hyrwyddo’u cerddoriaeth yn y wasg neu ar y radio.
Mae artistiaid o bob cwr o Gymru wedi manteisio ar y Gronfa Lansio / Launchpad yn y gorffennol, ac maent i gyd wedi gallu defnyddio’r gronfa mewn ffyrdd ymarferol iawn. Gyda llawer o gerddorion yn ystyried gwneud cais unwaith eto eleni, roeddwn yn awyddus i ysgrifennu rhai awgrymiadau ymarferol a all helpu gyda’r cais. Bydd panel o arbenigwyr yn mynd drwy’r ceisiadau a bydd angen i chi ddangos i’r rhain y bydd y gronfa’n cyfrannu at brosiectau ysbrydoledig a fydd yn wirioneddol helpu’ch band i ddatblygu.
Beth sydd ei angen arnoch chi a sut gallwch brofi hyn?
Atebwch y ffurflen gais mewn ffordd mor syml a chlir â phosibl.
Os ydych chi angen arian i deithio i gigs, peidiwch â gwneud cais am grant i'ch helpu chi i gael gitâr newydd. Os ydy’ch gitâr chi wedi torri, peidiwch â gwneud cais am grant i deithio i gigs.
Does dim rhaid i chi gael syniad mawr, ond a fydd creu’r un peth hwn yn gwneud gwahaniaeth i’ch blwyddyn chi? Roedd Estrons eisiau gwneud fideo, ac yn sicr mi wnaethon nhw fideo gwreiddiol a gwych. Mae fideo yn ffordd wych o hyrwyddo’ch cerddoriaeth - ond cofiwch feddwl am sut y byddwch yn ei hyrwyddo, beth fydd yn digwydd iddo, ydy'r fideo yn cefnogi gwaith newydd sy’n cael ei ryddhau? Pwy fydd yn gwneud y fideo, pryd, ydych chi wedi sgwrsio â'r cyfarwyddwyr, ydych chi wedi cael amcan-bris ganddyn nhw?
“Rydyn ni eisiau recordio gyda cherddorfa ar ben yr Wyddfa”. Bydd rhaid cael llond sach o arian i ariannu hynny. Gwnewch y syniad yn un creadigol ond yn realistig hefyd.
Hyd yn oed os yw’r symiau’n syml iawn, rhowch amser i ddangos faint y bydd rhywbeth yn ei gostio a gwnewch ychydig o ymchwil. Peidiwch â thanbrisio rhywbeth a rhowch ffocws i’ch cais. Er enghraifft, mae’n debyg ei bod yn well gwneud cais am un peth yn hytrach na chael sawl math o gostau.
Llwyddodd Reuel Elijah i rannu ei gyllideb yn dair rhan i gefnogi’i amser mewn stiwdio, recordio fideo cerddoriaeth a chyhoeddusrwydd ar gyfer sengl newydd.
Mae cerddorion yn mwynhau prynu offer newydd, ac yn sicr mae’r Gronfa Lansio / Launchpad ar gael i helpu i ariannu eitemau fel hyn. Ond mae angen i chi ystyried sut y gallwch ddangos bod angen y drwm/cit/gitâr/allweddau newydd hyn arnoch chi.
Defnyddiodd Baby Queens eu gwobr i brynu microffonau newydd, er mwyn gallu mynd â nhw i gigs. A hwythau yn cynnwys 5 o gantorion, mae’n rhan bwysig o’u perfformiadau byw.
Defnyddiodd y Samoans arian y gronfa i brynu allweddellau gan eu galluogi i symud i gyfeiriadau newydd gyda’u gwaith cyfansoddi caneuon.
Ystyriwch, ai dyma’r peth pwysicaf mae’r band ei angen? Ydy hyn yn datblygu’ch cerddoriaeth neu a fyddai hyrwyddo/recordio mewn stiwdio yn fwy gwerthfawr yn eich sefyllfa?
5. Swyddogion Cyhoeddusrwydd (pluggers)
Os ydych chi wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn barod gyda’ch cerddoriaeth, dyma rywbeth da i’w ystyried ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei ryddhau nesaf. Pan ddewch o hyd i’r hyrwyddwr neu’r swyddog cyhoeddusrwydd iawn i gydweithio ag ef, gall eich helpu i gael rhywfaint o sylw yn y wasg neu ar-lein a allai eich helpu i lunio portffolio o adolygiadau, neu fe all ‘swyddog cyhoeddusrwydd radio’ (radio plugger) eich helpu i gael mwy o amser ar yr awyr y tu allan i Gymru. Ceisiwch ddod o hyd i swyddog cyhoeddusrwydd a fydd yn hoffi’ch cerddoriaeth, oherwydd eich bod yn edmygu’i restr o gleientiaid. Nid ydynt i gyd yn derbyn pob math o gerddoriaeth, gan y bydd ganddynt sioeau y maent yn cydweithio â nhw ac yn ymddiried ynddyn nhw ac felly mae angen iddynt gadw’u safonau cerddoriaeth eu hunain.
Gwnaeth grant Ellie Makes Music ariannu swyddog cyhoeddusrwydd cenedlaethol o safon uchel yn y maes recordio , a chafodd ei gwaith ei chwarae am y tro cyntaf ar yr awyr ar Radio 2 a BBC 6Music. Bu hefyd yn Artist yr Wythnos ar BBC Radio Wales.
Pwy sy’n hoffi'r band ar hyn o bryd? Faint o bobl sy’n dod i’ch gigs; pa mor bell oddi cartref fyddwch chi’n chwarae; pwy sydd wedi bod yn ysgrifennu amdanoch chi, yn chwarae’ch cerddoriaeth, yn cefnogi’ch gigs, yn mynd â chi ar daith fel band cefnogi? A gafodd y tocynnau eu gwerthu i gyd ar gyfer sioe yn y dref lle rydych yn byw? Os gallwch chi ddangos eich bod wedi cael cefnogaeth gan wahanol bobl yn y diwydiant cerddoriaeth, dyfynbris efallai oddi wrth hyrwyddwr gigs, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, blogiwr, bydd hyn i gyd yn helpu’ch cais.
Rydym wrth ein bodd yn darllen am syniadau creadigol a diddorol. Yn ogystal â'r enghreifftiau uchod, dyma syniadau eraill am sut y gallai’r grant eich helpu chi:
Pecyn hyrwyddo proffesiynol neu ‘epk’
Logo/gwaith celf gan artist penodol ar gyfer cerddoriaeth newydd yr ydych am ei rhyddhau
Decor llwyfan ar gyfer gigs a gwyliau
Deunydd gweledol mewn gigs byw
Cymysgu gyda pheiriannydd proffesiynol
Llogi lleoliad ar gyfer ysgrifennu
Cerddorion ychwanegol ar gyfer recordio neu berfformiad
Recordio neu drefniannau cerddorfaol
Hyrwyddo a threfnu gig lansio arbennig
8. Rhaid i'r cais fod amdanoch chi neu eich band
Rhaid i'r cais ddod oddi wrth yr artist ar gyfer yr artist. Caiff pobl broffesiynol, cwmnïau, stiwdios neu labeli wneud cais ar ran yr artist ond nid ar gyfer y cwmni rheoli/stiwdio/label yn gyffredinol.
Gobeithio bod hyn wedi helpu ryw ychydig wrth i chi ystyried eich cais – gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau a’r telerau ac amodau yn llawn. Maent ar gael ar wefan Gorwelion. www.bbc.co.uk/horizons