Mae Joe Champion, Swyddog Cyfathrebu a Chyfranogaeth gyda Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn (ECLP), yn ystyried rôl grwpiau ffocws i estyn at rannau o’r gymuned
Mae Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn (ECLP) yn benderfynol o sicrhau bod y prosiectau mae’n eu cynnal wedi’u teilwra i anghenion y cymunedau mae’n eu cynrychioli. Mae hyn yn digwydd yn gyson wrth i staff siarad drwy’r adeg ag aelodau o’r gymuned ynglŷn â’r hyn mae arnynt ei eisiau a’i angen, yn ogystal â thrwy werthuso ei weithgareddau i gyd. Ond roeddem yn teimlo’r awydd i fynd cam ymhellach ac estyn at y rheini a ystyrir yn draddodiadol yn anos eu cyrraedd, ac yn enwedig y rheini sy’n disgyn i’r categorïau hynny sydd heb ymwneud â ni o gwbl dros y ddwy flynedd diwethaf.
Dim ond drwy siarad â phobl newydd y gallwn ddirnad ffyrdd y gallwn estyn at wahanol rannau o’r gymuned a’r ffordd y gallwn deilwra eu gweithgareddau i weddu i anghenion ffyrdd gwahanol o fyw. Er mwyn cael yr adborth hwn penderfynodd ECLP lansio rhaglen ‘grwpiau ffocws’ uchelgeisiol, lle gall pobl ddod at ei gilydd i rannu eu barn ar fater penodol neu gyfres o faterion, gan dargedu gwahanol garfannau o bobl. Gadawyd arolygon papur hefyd mewn cyfleusterau cymunedol yn y clwstwr drwyddo draw i gael adborth ychwanegol.
Er mwyn cynnal y grwpiau yn briodol buom yn cydweithio â Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Gyda’u cymorth a’u cyngor nhw llwyddom i lansio Prosiect Dod i Adnabod eich Cymuned. Llwyddodd WCVA i wneud y cysylltiadau a dod â’r arbenigedd cywir i’r prosiect, ar ffurf yr ymchwilwyr a’r hwyluswyr profiadol Katherine Hughes a Sarah Jones, i ddylunio rhaglen grwpiau ffocws, gan ategu ymdrechion tîm ECLP, sy’n gyfarwydd â’r ardal ar lawr gwlad. Mae ein partneriaid eraill hefyd wedi gwneud cyfraniad pwysig drwy recriwtio cyfranogwyr i’r grwpiau ffocws, mae’r rhain yn cynnwys; Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf SOVA, y Ganolfan Byd Gwaith, Eglwys y Bedyddwyr Siloam, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a bydd llawer o’r partneriaid hyn yn rhan o hwyluso’r grwpiau ffocws eu hunain. Bydd y grwpiau ymlaen rhwng March 19eg - Ebrill 15fed, a gallwch ddilyn y diweddaraf am y rhaglen grwpiau ffocws ar twitter yma: www.twitter.com/ECLPCF.
Ar ddiwedd y prosiect bydd adroddiad yn cael ei gynhyrchu, a fydd ar gael i bob partner, gan ddangos canfyddiadau’r ymchwil yn glir a bydd staff ECLP yn ei ddefnyddio i lywio eu ffordd o ddarparu prosiectau o fis Ebrill 2015.