Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, ar wersi o’r rownd gyntaf o Arloesi i Arbed, cronfa sy’n cefnogi mudiadau sector cyhoeddus a mudiadau trydydd sector i archwilio syniadau newydd i gynhyrchu arbedion i wasanaethau cyhoeddus Cymru ac i wella ansawdd ac effaith gwasanaethau.
Darparodd y rhaglen Arloesi i Arbed (I2S) gyfleoedd gwych ar sawl ffrynt i’r trydydd sector.
Roedd y mudiadau a ymunodd â’r garfan hon yn amrywiol iawn o ran profiad, daearyddiaeth ac o ran pa ran o’r sector yr oeddynt yn gweithio ynddi. Roedd ganddynt oll fan cychwyn gwahanol a disgwyliadau gwahanol ac maent oll wedi elwa i raddau mwy neu lai mewn gwahanol ffyrdd.
Mae Arloesi i Arbed ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ail rownd o gynigion ac mae nawr yn cynnig hyd at £30,000 i brosiectau – Dewch i wybod mwy yma.
Datblygu syniadau yn sydyn
Os oes un peth nad yw’r sector yn brin ohono, syniadau ar sut i wella’r byd yw hynny. Yn aml er hynny beth sydd ar goll yw’r adnoddau i brofi’r syniadau hynny yn gywir ac ar yr un pryd i’w datblygu’n brosiectau gweithredol.
Mae’r cyllid sydd ar gael yn rhan o gyfnod ymchwilio a datblygu I2S wedi rhoi’r cyfle i fudiadau symud eu syniad gorau yn nes at frig y ‘rhestr o bethau i’w gwneud’. Mae’r cyllid yna wedi bod ar gael i’w galluogi i fuddsoddi amser ac ymdrech i ddatblygu a phrofi.
Y canlyniad yw bod pethau yn cael eu gwneud na fyddant yn cael eu gwneud fel arall, neu a fyddai ar y gorau wedi cael eu hoedi am lawer o amser.
Cyngor ac arweiniad
Mae ffrind beirniadol wastad yn ychwanegiad defnyddiol i unrhyw dîm, yn enwedig pan maent yn dod â sgilliau, profiadau a safbwyntiau newydd. Mae’r cwestiynu, a’r arweiniad a’r gefnogaeth gan Nesta a’r Lab wedi cynhyrchu prosiectau gwell a chryfach gan roi mwy o siawns o lwyddo.
Mae hyn wedi bod yn arbennig o nodedig wrth ddatblygu ffyrdd o fesur a monitro effaith, gan herio sefydliadau i ganfod pa effeithiau y bydd eu prosiectau yn eu cael. Yn fwy na dim mae wedi mynd ati i geisio sicrhau arbedion ariannol gwirioneddol i’r pwrs cyhoeddus a dyna union bwrpas I2S.
Adeiladu partneriaeth
Mae creu partneriaeth weithiol rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau newydd wedi bod yn ganolog i athroniaeth I2S. Mae’r argymhellion wedi cael eu datblygu gyda’i gilydd yn y rhan fwyaf o achosion ac wedi golygu prosiectau llawer cryfach a mwy cydlynol o ganlyniad.
Mae wedi helpu i newid y ddeialog a’r cydbwysedd rhwng y sectorau. Mae cefnogaeth y cyllid i brosiectau wedi caniatáu i fudiadau trydydd sector weithio ar sylfaen llawer tecach gyda’u partneriaid yn y sector cyhoeddus.
Cael gwared â’r crychau
Nid yw popeth wedi mynd fel y cynlluniwyd! Mae’r hen gylch cynllunio, gweithredu, adolygu wedi cael ei ddefnyddio’n dda mewn amgylchedd diogel. Mae cael ‘bocs tywod’ i gael rhoi cynnig ar bethau wedi bod o fudd mawr ac mae rhai prosiectau nawr yn edrych yn wahanol iawn o’i gymharu â sut yr oeddent yn edrych ar bapur ar y dechrau.
Mae’r gallu i gymryd risgiau wedi bod o fudd enfawr a dydi rhai syniadau yn syml heb weithio. Tra bod hynny wedi bod yn siomedig i rai, mae’r dysgu wedi bod o fudd mawr a fydd yn helpu i siapio cynlluniau a chyfeiriad yn y dyfodol. Mae’r diogelwch o fedru rhoi cynnig ar bethau heb brofi colled arwyddocaol wedi bod yn rhan bwysig o I2S.
Gwobr am lwyddiant
Un o fanteision mawr I2S yw nad yw’n ymarfer academaidd neu’n gwrs hyfforddiant heb unrhyw beth ar ei ddiwedd. Roedd yna bob amser gymhelliant y byddai arian ar gael i weithredu’r syniadau a brofwyd yn llawn ac ehangu’r cynllun peilot. Dyna ble mae’r garfan gyntaf wedi cyrraedd nawr ac mae rhai cynlluniau cyffrous eraill yn dod at ei gilydd ar gyfer cyllid.
Rydym yn edrych ymlaen at weld y rhain ar waith, helpu i gryfhau’r mudiadau eu hunain, cael effaith bositif ar fywydau pobl ac arbed arian i’r pwrs cyhoeddus.
Os oes unrhyw un yn dal i feddwl am ymgeisio ar gyfer yr ail garfan, stopiwch feddwl yn unig ac ewch amdani!
Ynghylch Arloesi i Arbed
Mae ail rownd o gynigion ar agor ar hyn o bryd ar gyfer y gronfa Arloesi i Arbed, sy’n fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Nesta, Prifysgol Cymru a WCVA.
Mae Arloesi i Arbed yn cefnogi mudiadau cyhoeddus a mudiadau trydydd sector i archwilio syniadau newydd sydd â’r potensial i gynhyrchu arbedion i wasanaethau cyhoeddus Cymru a gwella ansawdd ac effaith gwasanaethau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Gorffennaf 2018. Ewch ar dudalen we Arloesi i Arbed i gael gwybod mwy am y rhaglen a sut i ymgeisio.
Sgyrsiau Arloesi
I gael pobl i feddwl yn wahanol ynglŷn â'r hyn sy'n bosib mae Y Lab yn cynnal cyfres o sgyrsiau ar hyn o bryd gan arloeswyr profiadol i ysbrydoli ac annog mudiadau ac unigolion i fod yn uchelgeisiol, gan ddangos gwir esiamplau ac astudiaethau achos o bob cwr o’r byd.
Cynhelir y sgyrsiau am ddim ledled Cymru drwy gydol Mehefin a Gorffennaf. Dewch i wybod mwy ac i gadw’ch lle yma.
Dwi wedi mapio cyllidebau cynghorau Cymru o’r blaen (linc), ond nawr bod y llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau cyllidebau cynghorau Cymru ar gyfer 2016/17, dwi am edrych eto yn sydyn ar bwy sy’n colli a phwy (os unrhyw un!) fydd yn ennill.