Dyma dair cerdd dwi wedi ysgrifennu i rai o fy ffrindia yn eithaf diweddar! Tri cymeriad rhaid deud!
Monty
Pryd y deuaist ddiwethaf Sion Dafydd I rhoi troed ar dir dy wlad? Eistedd yn dy gadair ydwyt Yma'n nhref y Sais a'i brad Tyrd yn nol am adre Sion Dafydd Ymhell o'r ddinas fawr a'i strach Tyrd yn ol i dref y Porthladd Tyrd yn nol i Gymru fach.
Iw Tom
Pan af am dro i Ben y Cei Gan oglau halltni'r heli Mae curiad yn fy nghalon i Dros ardal a thros Gymru Mae briwsion llechi yn fy ngwaed Ond tra byddai i'n dragywydd Mae mwy na hyn, yn bwysig im Rwy'n fachgen mor a mynydd
Wingnut
Mi grwydrais unwaith am Awstralia draw Gan adael teulu da a ffrindiau ffôl, Ac er fod traethau hardda'r byd gerllaw Mi ddof rhyw ddydd i lethrau Cymru nol; Cans dim ots ble y byddaf dros y lli Mae nghalon i ym mhentref bedd y ci.













