Barclodiad y Gawres #3
http://www.landoflegends.wales/location/barclodiad-y-gawres#
seen from Netherlands
seen from Türkiye

seen from United States

seen from Spain
seen from United Kingdom

seen from Brazil
seen from China
seen from United States
seen from United Kingdom
seen from United Kingdom

seen from Canada

seen from United States
seen from Austria

seen from United Kingdom
seen from Syria

seen from United Kingdom

seen from Syria

seen from United Kingdom
seen from United States
seen from United States
Barclodiad y Gawres #3
http://www.landoflegends.wales/location/barclodiad-y-gawres#
Barclodiad y Gawres #2
Barclodiad y Gawres #1
"Dywed traddodiad lleol [Nant Gwynant] fod cawres, a gollodd ei mab trwy iddo gael ei ladd gan gawr twyllodrus a gasâi ei thad, wedi penderfynu na fyddai’n claddu ei mab yn nhir ei chartref mabwysiedig, yr hwn a gasâi, ac roedd wedi mynd i wlad ei mebyd i gael pridd i’w orchuddio. Nid oedd arni eisiau ei gladdu ymhell o’i chartref, felly gwell oedd ganddi gario’r pridd o fro ei mebyd i’w chartref mabwysiedig na’i gladdu ymhell o’i golwg. Roedd yn cario’r barclodiad o bridd drwy Nant Gwynant pan dorrodd y llinynnau’n sydyn a gollwng y llwyth lle y saif Bryn Diweddu yn awr..." (D.E. Jenkins, Bedd Gelert, 1899 yn Gwyn Thomas) Y Mabinogi: Sylwadau Rhagymadroddol.)
R.T. Williams (Trebor Môn) Rhosneigr yn ‘Enwau Lleoedd ym Môn’(1908)
“Rhosneigr : sydd bentref bywiog yn mhlwyf Llanfaelog, ar fìn y môr, ar ochr arall i Lyn Maelog, ac yn ddiweddar, ar gyfrif lluosogrwydd ei ymwelwyr haf wedi cael gorsaf fechan ar fin 'Towyn trewan’. Tybiaf fod y lle yn dwyn enw Eneigr Santes, a merch Cadrod Calchfynydd o'i wraig Gwrgon, ferch Brychan, yn nech-reu y 5ed ganrif. Ceisia ereill wel'd yr ystyr oddiwrth y gair niger — duwch naturiol ac arhosol rhyw ranau allanol am y lle noethlwm hwn.”
Roedd Trebor Môn (g.1846) yn byw ym Mhencarnisiog fel plentyn ac fe aeth i’r ysgol yn Llanfaelog, felly mae hwn yn ffynhonell eithaf diddorol dwi’n meddwl.
Diolch eto i Charles Stephenson am dynnu fy sylw at hwn ar Facebook.
Mae’r testun yn fyma:
https://archive.org/stream/enwaulleoddynmo00willgoog/enwaulleoddynmo00willgoog_djvu.txt
Rhos yn Eigur
Mae Edward Pugh, yn ‘Cambria Depicta’ (1816) yn sôn ei fod, ar ôl teithio o gyfeiriad Cymyran, wedi dod yn agos at le o’r enw ‘Rhos yn Eigur’. Felly, debyg bod ddim enw swyddogol ar y pentref ar gychwyn y 19g a bod Pugh wedi gofyn i rywun am enw’r lle. Mae’n swnio i fel bod hwn yn debyg iawn i’r ynganiad o ‘Yneigr’ ond pwy fathodd yr enw? Rhywun efo gwybodaeth dda o hanes yr ardal? Canlyniad o ganrifoedd o gof werin?
(Diolch Charles Stephenson am gyfeirio fi at Pugh.)