R.T. Williams (Trebor Môn) Rhosneigr yn ‘Enwau Lleoedd ym Môn’(1908)
“Rhosneigr : sydd bentref bywiog yn mhlwyf Llanfaelog, ar fìn y môr, ar ochr arall i Lyn Maelog, ac yn ddiweddar, ar gyfrif lluosogrwydd ei ymwelwyr haf wedi cael gorsaf fechan ar fin 'Towyn trewan’. Tybiaf fod y lle yn dwyn enw Eneigr Santes, a merch Cadrod Calchfynydd o'i wraig Gwrgon, ferch Brychan, yn nech-reu y 5ed ganrif. Ceisia ereill wel'd yr ystyr oddiwrth y gair niger — duwch naturiol ac arhosol rhyw ranau allanol am y lle noethlwm hwn.”
Roedd Trebor Môn (g.1846) yn byw ym Mhencarnisiog fel plentyn ac fe aeth i’r ysgol yn Llanfaelog, felly mae hwn yn ffynhonell eithaf diddorol dwi’n meddwl.
Diolch eto i Charles Stephenson am dynnu fy sylw at hwn ar Facebook.
https://archive.org/stream/enwaulleoddynmo00willgoog/enwaulleoddynmo00willgoog_djvu.txt