Dyma chi! Ein ffilm cyntaf. Diolch yn fawr i bawb nath helpu. Roedd hi'n broses ddiddorol iawn. Fe gawsom ddewis o dri thema gwahanol - yr helfa; pigwr pocedi; hwyr eto! Fe ddewsiom ni fel grwp y thema hwyr eto. Ein actorion oedd Lora Thomas a Katie Grills, roedd Philippa Ashcroft yn cyfarwyddo ac mi roeddwn i (Mared Elin Dafydd) yn gwneud y gwaith camera. Cyn mynd ati i ddechrau ffilmio fe benderfynom eistedd i lawr i feddwl am ba fath o bethau yr oeddem am eu ffilmio a hefyd am y stori yr oeddem am bortreadu i'r gynulleidfa. Penderfynom ein bod am ffilmio ein dwy actores yn rhedeg yn hwyr i ddosbarth oedd ganddynt yn adeilad Parry Williams. Felly fe gawsom amrywiadau o saethiadau gwahanol. Dechreuom gyda nhw yn rhedeg lan yr allt, yna'n cyrraedd yr adeilad, rhedeg o amgylch yr adeilad yn chwilio am yr ystafell ac yna o'r diwedd yn darganfod yr ystafell ond roeddent yn hwyr! Gan nad oedd hawl gennym i ddefnyddio sain o ran geiriau yr actorion roedd hi'n hynnod o bwysig ein bod yn trosglwyddo'r neges a'r wybodaeth i gyd drwy gyrff a mynegiant wynebol y ddau gymeriad. Ar ol bod yn ffilmio am ddwy awr bron roeddem wedi gorffen y gwaith ffilmio a'r actio. Ond nawr oedd y gwaith caled i gyd yn dechrau gyda'r golygu. Fe ddaethom i mewn y diwrnod canlynol ac roeddem wedi penderfynu na fysem yn gadael yr ystafell olygu nes i ni weld y darn gorffenedig! Yn ffodus nid oedd gormod o anghytuno rhwng y pedair ohonom felly roedd y broses yn un syml a chlir. Roedd gennym hawl i roi cerddoriaeth yn y cefndir ac roedd gan y pedair ohonom syniad go-lew o'r math o gerddoriaeth yr oeddem am gael. Cawsom y gerddoriaeth oddi ar y we-fan Audio Network ac roedd yn ffitio i mewn gyda'r ffilm yn berffaith. Ar ol oriau o waith caled roeddem wedi gorffen y ffilm ac roedd y bedair ohonom yn hapus iawn gyda'r canlyniad.
Ymlaen at y ffilm nesaf nawr! Hwyl am y tro!
Mared







