Ffilm 4 - Pantycanlyn
Roedd y grwp yn gytun mai fy nyletswydd i oedd y gwaith camera, dyletswydd Philippa oedd y sain a’r ddwy ohonom i rhannu y swydd o gyfarwyddo y darn, tra roedd Mared yn ffilmio beth sy’n mynd ymlaen tu ol i’r camera. Roeddwn wedi cael profiad o fod yn gyfrifol o’r gwaith camera yn ystod ffilm dau felly roeddwn yn gobeithio dysgu o fy ngangymeriadau o beidio gwneud “cover shots” yn amlach ac i ddilyn mwy ar y rhestr siot. Ond wrth edrych ar y ffilm credaf bod amrywiaeth o siotiau sydd yn cyfoethogi y ffilm. Wrth olygu yn enwedig sylweddolom faint o siotiau oedd ar gael i ni, oherwydd roedd rhaid mynd drwy pob siot i weld beth oedd yn dda, a beth oedd ddim. Roedd hyn yn ychwannegu at y trafferthion golygu oedd i ddod. Ar ol gwneud y ffilm yw ei’n gallu i ddangos yn Canolfan y Celfyddydau wythos dwethaf, roeddem wedi cynllunio mynd nol i olygu y darn yn well, ond darganfyddom nes mlaen yn y dydd bod ei’n ffilm wedi cael ei ddileu o’r hard drive mewn cangymeriad!!! Ond yn lwcus i ni, roedd y technegwyr wedi galllu arganfod y timeline gwreiddiol, ond roedd yn rhaid cychwyn or dechrau i roi cerddoriaeth, newid lefelau sain a rhoi efeithiau i mewn. Ar ol dangos ei’n ffilm, roeddem wedi derbyn sylwadau lle i wella ei’n ffilm. Ar ol newid cyflymder Catrin yn cerdded, cael gwared o’r ‘jumpcut’s” a chwarae gyda lefelau sain, roedd ei’n ffilm yn edrych yn well yn barod! Cawsom help gan un o’r technegwyr er mwyn creu yr effaith breuddwyd, drwy roi y gwyn o amgylch y ffram yw wneud y amlwg mai breuddwyr yr oedd, A hefyd newidiom y sain, fel y bod ddim mor “cheesy” ar tro blaen gyda swn telyn. Llwyddom i roi cerddoriaeth dros weddill y ffilm a oedd ddim y cynnwys geiriau a oedd hefyd gan artist Cymraeg a oedd yn bwysig iawn i ni! Rwyf yn hapus iawn gyda’r “timelaps” ac wedi cael llawer o sylwadau da amdano ar Facebook ynghyd a gweddill o’r ffilm yn gyffredinol. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo bod ei’n holl waith caled wedi talu i ffwrdd, ac yn gwenud i mi deimlo yn flach o’i alw yn ffilm ganddom ni! Yn ychwanegol i’r ffilm, gwnaethom ffilm bach “tu ol i’r camera” sydd yn rhoi syniad i’r gwilwyr beth oedd yn mynd ymlaen. Roeddem yn awyddus i wneud y darn yn ddoniol ac yn nol y sylwadau ar Facebook, rydym wedi llwyddo i wneud hyn! Wrth weld y ddau ddarn ar ol ei gilydd, y ffilm terfynnol a’r ffilm tu ol i’r camera, mae’n dangos yr hwyl y cawsom yn creu ffilm sydd gyda gwynebau syth ynddo! A coeliwch chi fi, roedd llawer o ail wneud siotiau oherwydd bod gymaint o chwerthin! Rwyf yn hapus iawn gyda’r ffilm yma, a wedi mwynhau yn arw ei greu! Diolch i bawb y cymerodd rhan a helpu tu ol i’r camera! Lora.x







