Dewin yn rhyddhau sengl gynta: 'Syched Cas' (Fflach Cymunedol)
Ma rhywbeth sbesial iawn ynglyn a Dewin, mae'r sengl gynta erioed yddynt rhyddhau 'Syched Cas' yn denu dylanwad or llefydd cywir, ei bod yn ddatganiad o fwriad, ser gyda dyfodol disglair ni'n siwr.
Dau gerddor amryddawn o fryniau hudol y Preseli yw Dewin. Wedi tyfu lan yn gwrando ar jazz, corawl, cerddoriaeth glasurol a chanu Mamgu, mae Jencyn Corp a Lefi Dafydd yn barod i ddod â’u chwarae technegol i fyd pop.
Yn diffinio eu cerddoriaeth fel ‘wizard-pop’ mae’r band yn dilyn traddodiad Gorllewin Cymru o wneud pethau eu ffordd eu hunain. Ar ôl ennill Gwobr Goffa Richard a Wyn mae’r band wedi ennill lle yn rhai o wyliau Gorllewin Cymru, ac yn mynd i fod yn gigio trwy’r haf cyn mynd i’r stiwdio i recordio’u halbwm cyntaf.
Dyma sengl gyntaf y label ar ei newydd wedd, Fflach Cymunedol. Gyda gogwydd cryf ar ddarganfod a datblygu talent leol, mae Dewin yn adlewyrchiad perffaith o ethos y cwmni, ac yn nod i’r hiwmor sydd wedi bod mor ganolog at lwyddiant Fflach yn y gorffennol. Dyma’r cyntaf o gyfres o senglau gyda bandiau ac artistiaid newydd, gwaith o’r gymuned, ac enwau mwy cyfarwydd.
Mae sengl gyntaf y band gyda’r cynhyrchydd Reuben Wilsdon-Amos yn bodoli rhywle rhwng Pink Floyd, Wings a Pys Melyn, ac yn dwyn i’r meddwl sŵn y band arall ‘na o Sir Benfro, Gorky’s Zygotic Mynci. Yn cynnwys deuawd chwythbren, organ, theramin, güiro, a haenau o leisiau, ar ben rhythm section sy’n gyrru’r gân ymlaen, mae sengl gyntaf y band o Sir Benfro yn wledd i’r glust ac yn goglais yr ymennydd.
O’i ddechreuad mympwyol, mae’r trac yn tyfu trwy ei linell gytgan ailadroddus, “i lan, i lan, i lan…” gan greu teimlad breuddwydiol, os anesmwyth, o ddianc. Mae themâu’r gân o gariad a chwant yn wyneb y byd modern – ei thrychineb hinsawdd rhagweladwy, a’r dyfodol rhagdybus sy’n wynebu’r prif gymeriadau ifanc – yn cyrraedd crescendo gyda’r ddelwedd o gariadon yn gorwedd o dan dderwen, ei hun yn symbol o hirhoedledd, ac yn ein cysylltu â chyfriniaeth hynafol.
Wrth i’r gân gael ei rhoi i orffwys gyda’i allro organ angladdol, cawn ein gadael yn teimlo ein bod ni ar yr un llaw wedi cyrraedd diwedd rhyw syniad mawreddog, ac ar y llaw arall wedi dod o hyd i ddechrau rhywbeth gwych. Gath y fideo ei hariannu gan PYST a GronfaFideos Lŵp.
DEWIN'S DEBUT SINGLE: 'SYCHED CAS'
Dewin are two versatile musicians from the magical hills of the Preseli. Having grown up listening to jazz, choral, classical music and Mamgu's singing, Jencyn Corp and Lefi Dafydd are ready to bring their technical playing to the pop world.
Defining their music as 'wizard-pop', the band follows that West Walian tradition of doing things their own way. After winning the Richard and Wyn Memorial Award, the band ha won a place at some of West Wales’ music festivals, and will be gigging throughout the summer before going into the studio to record their first album.
This is the debut single of the new-look label, Fflach Cymunedol. With a strong bias towards local talent and development, Dewin is a reflection of the company's ethos, and a nod to the humour that has been central to Fflach’s success in the past. This is the first of many singles with new bands and artists, creative work from the community, and more established names.
Translating literally as ‘Nasty Thirst’ the band’s first single under the guidance of producer Reuben Wilsdon-Amos lives somewhere between Pink Floyd, Wings and Pys Melyn, with a bit of that other fantastical Pembrokeshire band, Gorky’s Zygotic Mynci thrown in. Containing a woodwind duo, organ, theramin, güiro, layered vocals, on top of a driving rhythm section, the Pembrokeshire band's first single is a feast for the ears and a tickle for the brain.
From its whimsical start, the track grows through its repetitive chorus line, “i lan, i lan, i lan…” (“upwards, upwards, upwards”), creating a dreamy, if uneasy, feeling of escape. The song’s themes of love and lust in the face of the modern world — its foreboding climate disaster, and the foretold future facing the young protagonists — reach a crescendo with the image of lovers laying beneath an oak tree, itself a symbol of longevity, and linking us to an ancient mysticism.
As the song is laid to rest with its wake-like organ outro, we are left feeling we’ve both reached the ending of some grand idea, and found the beginning of something great. The Music Video was funded by PYST x Lŵp Music Video Fund.
Manylion am y Fideo ar Gan.
Fideo Swyddogol y gân 'Syched Cas' gan Dewin, sengl cyntaf y band, ac yn ddi-os nid yr un olaf. Y Fideo Cyfarwyddo a golygu: Lleucu Elisa Gyda diolch arbennig i: Aled Victor a Twm Ebbworth Yn ymddangos yn y fideo: Jencyn Corp, Lefi Dafydd, Teilo Corp, Bronwen Corp ac Anna Dafydd Ffilmiwyd yn Stiwdio Recordio Fflach Cymunedol, Aberteifi.
Llais, allweddell, organ, ffliwt, broga: Jencyn Corp Allweddell, clarinet, llais cefndirol: Lefi Dafydd Drymiau, llais cefndirol: Dylan Sanders Swales Gitâr drydanol, llais cefndirol: Mefin Hughes Gitâr fâs a chynhyrchydd: Reuben Wilsdon-Amos.
MOONFUZZ Verdict: Watch The Stars
The aim of Fflach Cymunedol is to continue the ethos and work of Fflach Cyf as a Welsh and creative hub in Cardigan.















