Arddangosfa: #EwrOlwg 11 Gorffennaf – 27 Medi
ARDDANGOSFA: EwrOlwg: Cymru drwy lygaid ymwelwyr o Ewrop, 1750–2010
Mae pobl o gyfandir Ewrop wedi bod yn ymweld â Chymru ers canrifoedd, am amrywiaeth o resymau. Yn y cyfnod Rhamantaidd daw rhai i chwilio am baradwys wledig, a daeth ysbiwyr diwydiannol i’r parthau hyn yn oed Fictoria; yn adeg rhyfel daeth llawer o ffoaduriaid i Gymru i geisio lloches rhag erledigaeth. Mae’r gwaith celf gan amrywiaeth o artistiaid o Ewrop yn dangos sawl agwedd ar Gymru, yn amrywio o dirluniau rhamantus i ganolfannau diwydiannol, a phortreadau o’r bobl oedd yn byw yng Nghymru.
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
DIGWYDDIADAU: EwrOlwg: Noson gyntaf Nos Wener 10 Gorffennaf 7.30yh
Estynnir gwahoddiad twymgalon ichi ymuno â ni ar gyfer noson gyntaf EuroVisions, Cymru drwy lygaid ymwelwyr o Ewrop, 1750–2010.
Am Ddim
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
DIGWYDDIADAU:‘Gwlad Belg a Ferthyrwyd’ Nos Fawrth 21 Gorffennaf 7yh
‘Gwlad Belg a Ferthyrwyd’: Gŵyl Genedlaethol y Belgiaid ar 21 Gorffennaf 1915
Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog, yn rhoi darlith â lluniau ynglŷn â’r cerddorion o fri a ddaeth fel ffoaduriaid i ganolbarth Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Union gan mlynedd yn ôl fe gynhaliwyd un o’u cyngherddau mwyaf nodedig yn Theatr y Coliseum yn Aberystwyth, sef Amgueddfa Ceredigion, bellach.
Am Ddim
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
DIGWYDDIADAU: Ffiesta Fwyd Fach EwrOlwg Dydd Gwener 14 Awst
Ffiesta Fwyd Fach EwrOlwg
Wrth eich bodd â bwyd y cyfandir? Boed yn basta neu’n schnitzel, mae digonedd o amrywiaeth i’w gael!
Dyma gyfle i ddod i wybod mwy am fwyd y cyfandir, yng nghwmni arbenigwyr o Aberystwyth a’r cylch. Gweithdai bwyd, danteithion i’w blasu a’u prynu yn awditoriwm yr amgueddfa.
Am Ddim
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
DIGWYDDIADAU: Ffilm Sleep Furiously Sesiwn Holi Dydd Gwener 4 Medi
Ffilm sy’n rhoi portread o gymuned amaethyddol fechan yng nghanolbarth Cymru, yn dangos tirlun a phoblogaeth sy’n newid yn gyflym wrth i’r hen ffyrdd o fyw fynd yn angof gyda diflaniad cenedlaethau’r gorffennol. Mae’r ffilm farddonol a dwys yn bwrw golwg ar fyd sy’n cyrraedd diweddglo a dechreuad o’r newydd; byd yn llawn tylluanod wedi’u stwffio, defaid a thân.
£7 (Consesiwn £6)
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
DIGWYDDIADAU: Gwragedd Tai Tafarn, Telynorion a Thywyswyr Dydd Sadwrn 12 Medi 2yp
Gwragedd Tai Tafarn, Telynorion a Thywyswyr: Gwasanaethu Twristiaid yng Nghymru, 1770-1870
Darlith gan Michael Freeman.
Er bod twristiaid yn dod i Gymru yn bennaf i fwynhau’r dirwedd, roedd arnynt hefyd angen llety, cludiant, tywyswyr, adloniant a swfenîrs, ac roedd y Cymry’n barod i’w darparu, er budd pawb.
Am Ddim