Ofn Caru Pethau Bach
Wyt ti erioed Wedi bod ofn gymaint ti'n caru rhywbeth? Wirioneddol, bob hyn a hyn dwi'n gorfod eistedd mewn gwewyr ar ôl sylwi mod i'n caru mhlant gymaint. Ei fod y peth mwyaf brawychus yn fy mywyd.
Mae'r eiliad na lle mae dy ddychymyg yn rhedeg yn gyflymach na dy feddwl deallus yn meddu ar y fath fraw. Yr eiliad lle ti'n gweld eu pennau'n torri. Yr eiliad lle ti'n gweld y corff bach yna'n gelain - a ti'n credu be ti'n gweld yn dy feddwl.
Mae dy gorff yn ymateb yn reddfol, yn hyrddio sŵn anifeilaidd o fan tyfnaf cyntefig dy berfedd. Sdim anadl ar ôl yn dy gorff. Ti'n gweld dy ddyfodol yn rhwygo'n ddarnau mân. Ti'n teimlo’r erchylltra fel pydredd trwy dy gnawd.
Yna, o fewn eiliad arall mae dy reswm yn taenu cwrlid tew i fygu'r braw, a gadael i ti gario mlaen i blygu crysau-t bach ar y gwely.
Ond mae drain bach wedi gweithio eu ffordd o dan dy groen, yn pigo dy gydwybod y gall y lluniau ddod yn wir.












