Gorffen yr Prosiect Radio.
Wnes i gwblhau yr Prosiect Radio, yn y diwedd hyd y Wrap oedd 40 eiliad yn union a'r Pecyn yn 2 munud a 30 eiliad. Nes i fwynhau gwneud y prosiect yma yn fawr iawn ac yn fras dyma cynllun fy Prosiect.
seen from United States
seen from Ukraine
seen from Indonesia

seen from United States
seen from Jordan
seen from United States

seen from Türkiye

seen from Australia
seen from Türkiye
seen from United States

seen from United Kingdom
seen from United States
seen from Jordan
seen from United States
seen from United States

seen from United States
seen from United Kingdom

seen from Ireland
seen from United States

seen from United Kingdom
Gorffen yr Prosiect Radio.
Wnes i gwblhau yr Prosiect Radio, yn y diwedd hyd y Wrap oedd 40 eiliad yn union a'r Pecyn yn 2 munud a 30 eiliad. Nes i fwynhau gwneud y prosiect yma yn fawr iawn ac yn fras dyma cynllun fy Prosiect.
Cwestiynau yr Prosiect radio.
Gofynnais nifer o gwestiynau i'r bobl yn y siopau records.
Cyfweliadau Prosiect radio.
Dwi wedi cyfweld a dau o bobl i'r prosiect. Barry o Spillers records a Lucy o Catapult Records. Ges i gyfweliad hir a swmpus efo Barry, a cyfweliad eitha' byr efo Lucy. Er bod hyd y ddau gyfweliad yn wahanol, mae nhw'n gret. Pam? Oherwydd ges i yr atebion i fy nghwestiynau. Genai ddigon o glipiau i ychwanegu at y Pecyn/Wrap. Diolch byth.
Sut ydwi am wneud y prosiect Radio?
Wel, dwi am ddefnyddio offer dwi'n gallu benthyg o'r llyfrgell y yr ATRiuM. Rydych yn gallu benthyg bob math o bethau o'r llyfrgell: camerau, offer recordio sain, cyfifiaduron, cardiau cof a co' bach (USB's). Dwi am fenthyg Flash mic neu Audio Marantz gan ei bod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gyfleus (ddim yn rhy drwm a dwi'n gallu ei gario i bobman). Wedyn fyddai yn uwchlwytho'r ffeiliau dwi wedi recordio ar y cyfrifiadur a wedyn ei olygu ar Adobe Audition. Dyna darlun fras.
Project modiwl Cynhyrchu yn y Cyfryngau.
Un o prosiectau ni i'r modiwl Cynhyrchu yn y Cyfryngau ydi ein bod ni yn gorfod gwneud Pecyn a Wrap, a defnydd gweledol i gyd fynd a hwnna. Felly prosiect Radio yw e. Dwi wedi dewis gwneud fy mrosiect i ar Vinyls gan fy mod i yn hoffi gwrando arnynt a'i casglu. Rheswm arall ydi hefyd ei bod nhw wedi cael llawer o sylw gan y Cyfryngau yn ddiweddar oherwydd bod ystadegau swyddogol yn dweud bod y ffigyrau o'r vinyls sy'n cael ei gwerthu wedi codi, a bod 550,000 o wedi cael ei gwerthu blwyddyn yma yn unig. Yr rhif uchaf mewn 10 mlynedd!! Edrych 'mlaen gwneud y prosiect.