Mae'n dradoddiadol i fwyta hagis ar ben-blwydd y bardd Robert Burns, ar y pumed ar hugain Ionawr.
Mae'r rysáit hon yn dod o'r llyfr Y Pumed Chwarter gan Anissa Helou. Mae'n hanner ffordd rhwng coginio a llawdriniaeth, a dweud y gwir, ond mae'n flasus.
Sai'n hollol siwr am y Gymraeg yma, ond dw i wedi dysgu sawl gair newydd. Mwynhewch, a slanj!
'Pluck' dafad (calon, ysgyfaint, ac afu)
250g gweren eidion, wedi briwio
250g blawd ceirch, wedi tostio mewn ffwrn canolig am tua hanner awr
1/4 llwy de nytmeg, wedi gratio
2 lwy de llysieuynau wedi sychu
Halen môr a phupur wedi malu yn ffrês
Stumog ddafad mawr, wedi glanhau yn dda iawn, neu 'Ox bung' (ond peidiwch â gofyn o ble mae'n dod)
Taflwch y bibell wynt. Rinsiwch yr ysgyfaint o dan dŵr oer. Rhowch mewn sospan a gorchuddiwch gyda dŵr. Ychwanegwch y ffon sinamon, a thipyn o halen, a rhowch ar wres canolig. Wrth yr dŵr yn dechrau berwi, sgimiwch. Gorchuddiwch a choginio am 45–50 munud, neu erbyn i'r cig yn ei goginio. Byddwch chi'n sylwi'r lliw newid o binc ffres i lwyd braidd yn hyll. Peidiwch a poeni, bydd e'n iawn.
Rhowch y pluck i gyd i mewn sospan fawr a berwi am awr a hanner, neu erbyn iddo fe yn hollol meddal. Codwch y pluck o'r pan, wrth cadw'r dŵr coginio. Trimiwch y gwythi bant wedyn torrwch y lleill.
Rhowch y pluck wedi torri mewn powlen gymysg fawr. Ychwanegwch y gweren, winwns a blawd ceirch. Ychwanegwch y pupur Cayenne, nytmeg a llysieuynau wedi sychu. Sesnwch gyda halen a phupur. Cymysgwch yn dda, yn ychwanegu digon o'r dŵr coginio pluck i gael cymysgedd llyfn. Dylai'r cymysgedd fod yn cael ei sesno yn uchel.
Llwywch y cymysgedd i mewn y stumog ddafad erbyn iddi hi yn dri-chwarter llawn. Cau'r pen a rhowch mewn sospan fawr. Gorchuddiwch gyda dŵr. Ychwanegwch y llaeth, a rhowch ar wres canolig. Pan mae'r stumog yn cwyd, pigio fe yn sawl lle, wedyn lleihewch y gwres a chrychferwi am dair awr.