Government of Guyana to open land-rights talks with Wapichan thanks to Welsh support
Cymraeg isod
An indigenous group based in the forests of Guyana, South America are hopeful that their land will be officially recognised by the government thanks to the support of the people of Wales.
The Wapichan people have been living in and using their forests sustainably for generations, yet the government only officially recognises the group’s legal rights to a small portion of their ancestral home. The community have called for fair and effective actions to title the full extent of their collective land since Guyana’s independence in 1966.
Their forest territory, made up of beautiful primary rainforest, is 1.4million hectares (3/4 the size of Wales at approx. 2 million hectares). Size of Wales, a unique Welsh climate change charity, has been supporting work to secure legal rights for this land. Once recognised the group wish to establish a large community owned Wapichan Conserved Forest to protect the precious eco-system.
Now the government may be listening. The President of Guyana has agreed to hold formal discussions with Wapichan representatives on the next steps to legally secure their territory. This action has been applauded and preliminary discussions with the government are expected to happen in the coming weeks.
Elizabeth Andre, an elder of Aishalton Village, said “Since I was a little girl I used to hear my daddy talking about the land… (and) the need to have our land rights respected. I never believed that after all this time, which is nearly 60 years now, that nothing would have been done to properly protect our territory.”
“My mother is very elderly. I want her to see our territory legally recognized so she may die peacefully, knowing that our people and our future generations are secure on our collective land. We look to our new government to take action now. We have waited long enough.” she continued.
Welsh support through Size of Wales has been vital for this project. Since 2011 it has helped the community map their traditional lands, develop plans for a large community conserved forest, and create sustainable management plans. New technology is supporting this endeavour; the group recently built a drone to monitor threats of illegal logging and mining within their lands, and are currently developing a community managed website.
International pressure has helped push for a change of stance from the Guyanese government. Nicholas and Faye Fredericks from the community recently raised awareness for their plight by attending the UN’s climate conference COP21 in Paris last December.
Whilst there the group were awarded the UN’s Equator Prize which recognises outstanding local community initiatives and solutions to climate change. Size of Wales also attended the COP21 conference to raise awareness for tropical forests and highlight Wales’ positive impact on climate change.
Tropical forests are crucial in the fight against the changing climate – they absorb nearly a fifth of the world’s man-made CO2 emissions every year. Size of Wales helps protect these precious environments by supporting an area of tropical forest the size of Wales as part of a national response to climate change.
Size of Wales supports the work of Forest Peoples Programme and South Central Peoples Development Association. You can support this project by visiting sizeofwales.org.uk. Any donations made will be doubled by Size of Wales’ generous match fund.
Llywodraeth Gaiana yn agor trafodaethau ar hawliau tir gyda’r bobl Wapichan diolch i gefnogaeth o Gymru
Mae grŵp brodorol sy’n byw yng nghoedwigoedd Gaiana, De America, yn obeithiol y bydd eu tir yn cael ei gydnabod yn swyddogol gan y llywodraeth diolch i gefnogaeth pobl Cymru.
Mae’r bobl Wapichan wedi bod yn byw yn eu coedwigoedd a’u defnyddio’n gynaliadwy am genedlaethau. Serch hynny, dim ond hawliau cyfreithiol y grŵp dros ran fach o’r goedwig fu’n gartref i’w hynafiaid y mae’r llywodraeth yn ei gydnabod yn swyddogol. Mae’r gymuned wedi bod yn galw am weithredu teg ac effeithiol i sicrhau eu hawliau llawn dros eu holl diroedd ers i Gaiana ennill ei hannibyniaeth yn 1966.
Mae eu tiriogaeth goedwigol, sy’n cynnwys coedwigoedd glaw gwyryfol prydferth, yn 1.4miliwn hectar (3/4 maint Cymru, sydd tua 2 miliwn hectar). Mae Maint Cymru, elusen unigryw o Gymru sy’n ymgyrchu yn erbyn newid hinsawdd, wedi bod yn cefnogi gwaith i sicrhau hawliau cyfreithiol i’r brodorion dros y tir hwn. Unwaith y caiff yr hawliau eu cydnabod, mae’r grŵp yn dymuno sefydlu Coedwig Wapichan Warchodedig fawr, a fydd yn eiddo i’r gymuned, i ddiogelu’r ecosystem werthfawr.
Mae’n bosib bod y llywodraeth nawr yn gwrando. Mae Arlywydd Gaiana wedi cytuno i gynnal trafodaethau ffurfiol gyda chynrychiolwyr y Wapichan ynglŷn â’r camau nesaf sydd angen eu cymryd i ddiogelu eu tiriogaeth yn gyfreithlon. Mae’r cam hwn wedi cael ei gymeradwyo, a disgwylir y bydd trafodaethau cychwynnol gyda’r llywodraeth yn dechrau yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Elizabeth Andre, un o henuriaid Pentref Aishalton, “Ers fy mod yn ferch fach, roeddwn yn arfer clywed fy nhad yn siarad am y tir… (ac am yr) angen i sicrhau bod ein hawliau drosto yn cael eu parchu. Chredais i byth, ar ôl yr holl amser – bron i 60 mlynedd nawr – na fyddai unrhyw beth wedi cael ei wneud i ddiogelu ein tiriogaeth yn iawn.”
“Mae fy mam yn hen iawn. Hoffwn iddi weld ein tiriogaeth yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol fel bod modd iddi farw yn dawel ei meddwl gan wybod bod ein pobl a chenedlaethau’r dyfodol yn ddiogel ar ein tir. Gofynnwn i’n llywodraeth newydd weithredu nawr. Rydym wedi aros yn hen ddigon hir” dywedodd.
Mae cefnogaeth o Gymru trwy Maint Cymru wedi bod yn hanfodol ar gyfer y prosiect hwn. Ers 2011 mae wedi helpu’r gymuned i fapio eu tiroedd traddodiadol, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer coedwig warchodedig fawr i’r gymuned, ac i greu cynlluniau rheoli cynaliadwy. Mae technoleg newydd yn cynorthwyo’r ymdrechion hyn; yn ddiweddar, adeiladodd y grŵp drôn i fonitro bygythiadau torri coed a mwyngloddio anghyfreithlon o fewn eu tiroedd, ac maent ar hyn o bryd yn datblygu gwefan a reolir gan y gymuned.
Mae pwysau rhyngwladol wedi helpu i wthio llywodraeth Gaiana i newid ei safbwynt. Yn ddiweddar, cododd Nicholas a Faye Fredericks (dau o aelodau’r gymuned) ymwybyddiaeth am eu sefyllfa drwy fynychu cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, COP21, ym Mharis mis Rhagfyr diwethaf.
Tra eu bod yno, enillodd y grŵp Wobr Cyhydedd y Cenhedloedd Unedig, sy’n cydnabod syniadau a mentrau cymunedol lleol eithriadol sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd. Aeth Maint Cymru i gynhadledd COP21 hefyd i godi ymwybyddiaeth am goedwigoedd trofannol ac i amlygu’r effaith gadarnhaol y mae Cymru’n ei chael ar newid hinsawdd.
Mae coedwigoedd trofannol yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd – maent yn amsugno bron i bumed rhan o’r allyriadau CO2 a grëir gan ddyn bob blwyddyn. Mae Maint Cymru yn helpu i ddiogelu’r amgylcheddau gwerthfawr hyn drwy gynnal ardal o goedwig drofannol yr un maint â Chymru fel rhan o ymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.
Mae Maint Cymru yn cefnogi gwaith Forest Peoples Programme a’r South Central Peoples Development Association. Gallwch gefnogi’r prosiect hwn drwy ymweld â sizeofwales.org.uk. Bydd unrhyw gyfraniadau yn cael eu dyblu gan gronfa arian cyfatebol hael Maint Cymru.
For more information / Am fwy o wybodaeth: [email protected]













