FFILM WYTHNOS 3 - Dadansoddi Persona Y Pysgod Aur.
Wel, dyna ni wedi gorffen ein trydydd ffilm yn barod! Roedd briff y ffilmio yr wythnos hon yn un diddorol iawn i'w gyflawni dros ben, wrth ceisio lynnu at siotiau a goleuo nodweddiadol y ffilm "Persona" gan Ingmar Burgman ond ei newid i fewn i gynhyrchiad bach ni ein hunain. Cafon ni dipyn o sialens gyda'r ffilm yma, ond mae'n debyg fod ein cymhelliant i lwyddo wedi orfodi iddom ni feddwl ar ein traed ac i weithio'n galetach fel tim i allu gorffen y prosiect mewn pryd - gan ddiolch o galon i'n ffrindiau agos Megi Williams a Beca Glyn, a wnaeth cytuno i'n helpu a fod yn amyneddgar dros ben gyda'n cyfarwyddwraig Lora yn osod y golau a finnau'n cymeryd siot ar ol siot er mwyn ei gal yn iawn. Roedd y gweithdy meistr gyda Gareth Owen wedi fy nghynorthwyo dipyn wythnos yma, yn enwedig gyda'r oleuo a gosod y siotiau. Cafon ni drafodaethau gyda Gareth ynglyn a ddyfnder y ffocws ymysg nifer o dechnegau eraill wnaeth helpu'n wirioneddol gyda'r gwaith camera, ac wedi gwir rhoid cynhelliant ac ysbrydoliaeth i mi wrth gweithio tu ol i'r camera. Yn sicr, yr her mwyaf yr wythnos yma oedd y goleuo. Ond, er ein fod wedi gorfod defnyddio goleuadau desg yn fyr-rhybydd, dwi'n credu fod yr un naws wedi llwyddo i'w greu yn ogystal a'r pethau bach fel goleuo'r cefndir heb gysgodion a goleuo'r llygaid yn unig mewn rhai siotiau. Yr wythnos yma, cymeron ni ofal i gynllunio bob siot yn ofalus fel ein bod yn gallu cyflawni yr gwaith ffilmio a golygu yn fwy rhwydd, ac yn wir roedd hi'n lot fwy o bleser i'w wneud. Mae'r prosiect wythnos yma wedi ddysgu iddym ni gyd fod gweithio fel tim yn hanfodol i allu gyflawni gwaith o safon dda, a fod rhaid paratoi yn drylwyr ym mhob agwedd a phob modd posibl er mwyn allu weithio'n effeithlon gyda'r amser sydd gennym ni. Ymlaen a ni i'r prosiect nesa! Pippa x













