Dyma beth ni'n meddwl am yr ail ffilm!
Gan ffilmio’r ail ffilm roedd llawer mwy o gynllunio wedi mynd mewn iddo, o’i gymharu gyda’r ffilm gyntaf. Y tro yma roedd rhaid i ni greu sgript, bwrdd stori a rhestr saethu ar gyfer y prosiect. Roedd rhaid i ni ddarganfod actorion ei hun. Roedd y proses o gynllunio yn deimlad gwahanol iawn yn lle neidio syth mewn i’r ffilmio. Roedd ffilmio’r ail ffilm yn deimlad gwahanol iawn ac rydw i wedi mwyhau fe mwy. Roedd datblygu sgiliau creu ffilm wedi dechrau yma. Roedd y grŵp wedi gweithio gyda gilydd i greu popeth oedd angen i saethu ffilm newydd. Roedd yr amser ffilmio wedi mynd yn dda gyda ni mewn rheolaeth lwyr o’r sain, ffilmio a’r golau. Roedd y grŵp wedi penderfynu cymryd mewn tro i newid ein dyletswyddau i roi pawb yr un cyfle i gael profiad mewn pob darn o’r ffilm. Roedd hyn wedi galluogi imi ddatblygu pob darn o greu ffilm. Y broblem fwyaf oedd y goleuo. Wrth i ni ffilmio roedd y goleuo yn edrych yn iawn ond wrth edrych ar y ffilm wrth olygu roedd yna broblemau mawr. Roedd amser y ffilm yn gynnar yn y bore doedd dim angen llawer o golau. Ond gan dyma’r tro cyntaf i ni ddefnyddio golau yn iawn, rydyn ni wedi dysgu i oleuo wynebau’r actorion. Roedd hyn wedi datblygu fy nealltwriaeth o oleuo ffilm. Wrth wylio’r ffilm problem arall oedd y defnydd o saethiadau freehand. Roedd y saethiadau ni yn newid o saethiadau Freehand i saethiadau dripod. Roedd hyn wedi gwneud y saethiadau edrych yn sigledig iawn. Ond rheswm roedd y grŵp wedi penderfynu defnyddio saethiadau Freehand oedd arbrofi saethiadau agos ac uwchben yr actorion. Roedd hyn wedi datblygu fy sgiliau ffilmio gan sicrhau rydw i’n dewis naill ai freehand neu saethiadau dripod. Wrth edrych yn ôl sylweddolon ni bod angen defnyddio’r un fath yn unig. Roedd y sain i gyd yn glir a dealladwy iawn. Roedd rhaid imi wneud y golygu ar ben fy hun y tro yma oherwydd roedd Bethan a Sara yn dost ar y dydd. Roedd y golygu yn dda, ond y tro nesaf mae rhaid cofio am y gerddoriaeth ddim yn drysu gyda’r llais yr actorion. Roedd hyn wedi datblygu fy nealltwriaeth o olygu gyda cherddoriaeth gefndirol. Ond am ei’n ail ffilm, rydw i’n falch iawn o sut mae’r grŵp wedi creu unwaith eto ffilm dda ac arbrofol. Rydw i’n meddwl bod y grŵp cyfan wedi dysgu llawer o bethau newydd wrth feddwl am greu ffilm. Unwaith eto mae pawb o’r grŵp methu aros am greu’r ffilm nesaf.
Nathan :D
Roedd ffilmio a chreu yr ail ffilm yn wahanol iawn i gymharu efo’r ffilm gyntaf. Y pethau mwyaf amlwg oedd roedd llawer o gynllunio wedi mynd mewn i’r ail ffilm oherwydd roedd rhaid i ni greu sgript ar gyfer actorion roedd rhaid i ni ffeindio ein hunan ac i greu siot list a oedd rhaid i ni ddilyn yn ystod y ffilmio. Yn y ffilm gyntaf, neidio ni syth mewn i’r ffilmio felly roedd cynllunio ffilm yn broses ddiddorol a wahanol iawn. Roeddwn i wedi mwynhau ffilmio’r ail ffilm yn fwy oherwydd ni oedd mewn rheolaeth llwyr o’r sain, ffilmio a’r golau yn hytrach na bod yn rhan o’r ffilm. Roedden ni wedi cymryd hi mewn tro i newid ein dyletswyddau fel bod pawb yn cael cyfle i gael brofiad o weithio ar wahanol bethau. Un o’r problemau mwyaf oedden ni wedi sylwi ar oedd y goleuo. Roedden ni eisiau cyfleu ei bod hi yn fore felly nid oedd y golau angen fod yn olau iawn ond gan dyma’tr tro gyntaf i ni defnyddio golau yn iawn, sylweddolon ni bod goleuo gwynebau yn enwedig yn anodd iawn. Roedd hyn yn amlwg iawn yn y ffilm ond rydyn ni wedi dysgu pwysigrwydd o gael y golau ar wynebau yr actorion. Problem arall oedd, roedden ni wedi defnyddio siots ‘freehand’ a siots ar dripod ac roedd y newid yn amlwg iawn yn y ffilm gan fod nife ro siots eitha ‘shakey’. Y rheswm roedden ni wedi defnyddio ‘freehand’ oedd oherwydd roedden ni eisiau cael siots o uwchben yr actorion ac arbrofi efo siots gwahanol, ond wrth aneleiddio’r ffilm, sylweddolon ni bod angen defnyddio’r un neu’r llall, yn hytrach na’r ddau ffordd o ffilmio. Fel grŵp roedden ni’n falch iawn o’n sain oherwydd roedd y lleisiau yn glir ac roedden ni wedi gweithio yn galed i gael y sain yn iawn. Hefyd roedden ni wedi aros yn agos at y sgript a’r siot list sydd yn dangos ein bod ni yn gwybod beth oedden ni eisiau ond ar y diwrnod, roedd amodau yn gwneud i ni newid ychydig o bethau. Hefyd gawson ni problem efo’r golygu gan fod fi a Sara yn dost felly dim ond Nathan oedd yn golygu. Tro nesaf mae hynny’n digwydd bydd rhaid i ni ffeindio amser i mynd drosti cyn i ni rhoi’r ffilm ar y we i sicrhau bod pawb yn cytuno ar beth sydd wedi ei olygu. Ond ar y cyfan, rydw i’n meddwl bod ni fel grŵp yn dysgu pethau newydd bob un tro rydyn ni’n ffilmio ac yn gwybod beth sydd angen gwella arni ar gyfer ein ffilm nesaf.
Bethan :D
Aethom ar drywydd wahannol iawn yn ein ail ffilm! Gyda actorion a llinellau. Cawsom Lisa Fflur a Gutun Lake or flwyddyn gyntaf i rhoi oi hamser i ein helpu ni allan. Wedi llwyddiant ein ffilm gyntaf, aethom at y ffilm yma yn hyderus iawn. Efallai rhy hyderus. Yn anffodus maen anodd ffeindio rhywle gyda digon o le o ran lle i ffilmio a hefyd lle i ddefnyddio y golau. Erbyn y ffilm yma roedd ganddom gamera, tripod ond hefyd golau a sain oedd yn bendant rhywbeth roedd rhaid i ni ddod i delerau gyda. Er mwyn i bawb gael Chwarae teg roedd y tri ohonom wedi newid ein rol llawer o weithiau er mwyn i ni gyd ddatblygu ein sgiliau. Camera oedd fy hoff rhan i wrth greu y ffilm yma ond hefyd hoffais y profiad o wneud y sain. Roedd yn brofiad cael rhoi yr ynarfer yn y dosbarth i mewn i rhywbeth byw. Serch yr hwyl a gaethom ar y diwrnod, wrth edrych yn ol ar y ffilm roedd llawer iawn o gamgymeriadau y dylsem fod wedi sylwi arnynt. Un peth tyngedfennol gwnaethom anghofio oedd y golau, a sut i beidio cael cysgodion ar y wal wrth ffilmio. Roedd cysgodion bron ymhob siot felly nid oedd hyn yn dda o gwbl. Yn anffodus nid oeddwn ni wedi gallu bod yn y golygu oherwydd salwch, felly cedais wybod arol ffilmio am y nam. Yn bendant rwyf yn cynryd cyfrifoldeb am beidio sylwi ar y cysgodion oherwydd fel ffilwmiwr ddylswn sylwi ar bethau mor dyngedfennol. Camgymeriad arall oedd rhoi cerddoriaeth a geiriau fel cefndir ir ffilm, roedd yn cymryd i ffwrdd or deialog. Ond roedd sain y lleisiau wedi gweithio yn wych, ac roeddwn yn medru clywed y ddeialog yn dda iawn. Fel frwp rydyn wedi dysgu llawer ac yn bendant yn mynd i feddwl a datblygu pethau am y ffilm nesa.
Sara :D


















