You are so used to your features, you don’t know how beautiful you look to a stranger.

No title available
🪼
Three Goblin Art

Janaina Medeiros
I'd rather be in outer space 🛸
Mike Driver
Jules of Nature
KIROKAZE
Aqua Utopia|海の底で記憶を紡ぐ

Origami Around
Cosmic Funnies
Game of Thrones Daily
$LAYYYTER

Discoholic 🪩

⁂
occasionally subtle

Kiana Khansmith
Claire Keane
Alisa U Zemlji Chuda
wallacepolsom
seen from Malaysia

seen from United States
seen from United States
seen from United States
seen from United States
seen from Italy

seen from United States
seen from United States
seen from United States

seen from United States

seen from United States
seen from United States

seen from United States

seen from United States
seen from United States
seen from United States
seen from United States

seen from United States
seen from United States

seen from United States
@triawd
You are so used to your features, you don’t know how beautiful you look to a stranger.
Adolygiad Dianc - Bethan Gruffydd
Roedd y profiad o wneud y ffilm yma yn un wahanol iawn i'r gweddill oherwydd roedden ni wedi camu allan o’n llwybr cyfforddus ac wedi penderfynu rhoi sialens i’r grŵp ac i ffilmio mewn lle anarferol. Penderfynon ni ffilmio mewn coedwig oherwydd roedd hi’n ffitio mewn yn dda efo’r stori ac yn lle diddorol iawn i gael nifer o saethiadau hardd. Nid oedden ni wedi sylweddoli yn union faint y sialens cyn dechrau ond wrth i ni ddechrau ffilmio sylweddolon ni nid oedd y prosiect yma yn mynd i fod yn un hawdd o gwbl. Un o’r sialensiau mwyaf oedd cael yr offer i gyd fyny i’r goedwig a oedd wedi lleoli ar dop bryn consti. Roedd hyn yn broblem oherwydd cyn dechrau roedd y criw a’r actorion wedi blino felly roedd y diwrnod cyntaf o ffilmio wedi cael ei brysio oherwydd amserlen yr actorion a’r ffaith ein bod ni wedi gwastraffu amser i gyrraedd y lleoliad. Oherwydd amserlen yr actorion a phroblemau amser diwrnod cyntaf ffilmio, roedd rhaid i ni gael popeth tu fewn a thu fas mewn ychydig o oriau felly roedden ni wedi sicrhau bod pob saethiad gennym ni ond heb sicrhau bod digon o’r un saethiad i gael amrywiaeth felly roedd hi’n amlwg yn y ffilm derfynol, bod diffyg saethiadau ynddi a bod rhaid defnyddio saethiadau sigledig yn lle. Ond roedd yr her yn un ddiddorol oherwydd roedden ni wedi gwthio ein hunan ac wedi profi yn fy marn i, profiad go iawn ffilmio. Rydw i wedi dysgu llawer dros y pedwar ffilm ond roedd y profiad yma yn un wahanol yn enwedig wrth sicrhau bod y tripod yn y lle cywir ar bob saethiad oherwydd lleoliad y goedwig a deall pwysigrwydd sgript a stori board. Roedd yr actorion yn wych ac yn haeddu clod i glymu gwneud y ffilm yn ei amserlen brysur iawn
Bethan :D
Adolygiad ‘Dianc’- Sara Edwards
Roedd proses y ffilm yma yn broses hir iawn. Y peth cyntaf wnaethom oedd mynd ar ben ein hunain i gael syniadau a datblygu’r syniad yna gyda chymeriadau, plot ac offer. Wedyn ar ôl i Elin drafod y tri syniad gyda ni mewn cyfarfod daethant i gytundeb taw syniad Nathan fyddai’r syniad mwyaf rhwydd a syml i’w greu a hefyd i’w wneud yn effeithiol. Penderfynom ar yr actorion profiadol Lisa Fflur a Lucy Andrews. Dros wyliau’r Pasg roedd angen gwneud sgript, oherwydd taw syniad Nathan roeddwn wedi defnyddio, penderfynem fyddai Nathan yn gwneud y sgript ac yna i fi a Bethan edrych dros y sgript ai ddatblygu er mwyn cae sgript derfynol. Es i ati wedyn i greu’r siot list, ceisio bod yn eithaf manwl er mwyn i ni beidio cael llawer o drafferth ar y dydd. Diwrnod cyn y ffilmio, penderfynom y byddai’n syniad da mynd i’r lleoliad a ffilmio o amgylch ychydig er mwyn gwybod beth fyddwn yn ffilmio’r diwrnod nesaf a hefyd gwneud ffilm fach i roi pwt bach o’r hyn i ddod. Daeth y diwrnod cyntaf o ffilmio, yn anffodus roedd hi’n ddiwrnod amhleserus gyda glaw a gwyntoedd, roeddwn wedi cerdded i fyny consti ac yna i lawr i’r goedwig fawr yr ochr arall. Yn anffodus, nid oedd y stori board ar siot list yn ddigon manwl, felly roeddwn ddim yn medru cael digon o siotiau yn yr amser prin roedd ganom. Felly, aeth Nathan ati i greu stori board a siot list llawer yn fwy manwl i ni ddilyn drwy gydol y dydd. Gweithiodd hyn llawer gwell ac roedd y ffilmio wedi gweithio yn llawer gwell. Trwy gydol y broses fy hoff beth i’w wneud yw ffilmio, felly penderfynom am y ffilm olaf y byddwn ni yn ffilmio, Bethan gyda’r sain oherwydd i ni’n dwy gyd-weithio yn dda gydag ein gilydd ac yna Nathan yn cyfarwyddo ond hefyd yn gwneud ambell i siot fan hyn a fan draw. Yn bendant, dyma’r ffilm rwyf wedi mwynhau ei greu mwyaf oherwydd y dwyster a hefyd y cymhlethdodau gyda’r ffilmio ar olygu yn ein gwneud yn fwy o sialens. Roedd y ffilmio yn y goedwig yn brofiad gwych, er ein bod wedi ein cyfyngu i le eithaf bach yn y goedwig roedd yn rhaid i ni newid y siotiau i fod yn rhai gwahanol oedd ddim yn ailadrodd ond cael rhai effeithiol iawn. Yn amlwg roedd rhai or siotiau ddim yn llonydd, a dyma beth roeddwn wedi sylwi wrth edrych yn ôl ar y ffilm oedd bod angen i ni ffilmio llawr mwy o siotiau er mwyn cael y rhai perffaith. Gweithiodd y sain yn wych, roeddwn yn teimlo’r tensiwn, gyda’r dail yn crensian a hefyd llais Lisa yn y cefndir. Roedd yr ol-flachiadau wedi rhoi math arall o olwg ar bethau wrth i ni wir fynd i mewn i’r ffilm a bywyd y ferch ifanc yma. Rwyf yn hapus iawn gyda sut mae’r ffilm olaf yma wedi gweithio ac yn bendant credaf i ni fel grŵp weithio yn dda iawn gyda’n gilydd.
Adolygiad Ffilm Dianc - Nathan Aviss
Roedd creu'r ffilm yma yn sialens fawr ond dwi’n falch roedd y grŵp wedi gweithio trwy’r sialens yma ac wedi creu ffilm dda. Roedd creu’r sgript, bwrdd stori a rhestr saethu wedi cymryd bach mwy amser y tro yma oherwydd roedd y ffilm angen fod yn fwy hyr. Roedd hyn wedi datblygu fy sgiliau o greu’r ffilm. Roedd rhaid imi ddeall y llinell stori yn fwy sydd wedi gwneud imi newid cwpl o bethau. Roedd rhaid imi greu pwynt pŵer i esbonio i bawb ei’n stori heb daflu gormod i bawb. Roedd hyn wedi helpu llawer ac wedi gwneud imi newid cwpl o bethau yn y sgript. O ddiwedd roeddwn i’n hapus gyda’r sgript ac roedd y ffilm yn dechrau cael parod i greu. Roeddwn i wedi creu bwrdd stori a rhestr saethiadau manwl i sicrhau fod ar ddiwrnod ffilmio mae popeth yn mynd yn iawn. Roedd ffilmio ar leoliad y goedwig yn wahanol iawn. Roedd hyn yn her fawr i’r grŵp. Roedd rhaid i ni gerdded i fyny bryn consti gyda’r offer i gyd ond hefyd roedd y ffilmio yn y goedwig yn anodd. Gan fod y lleoliad ar oleddf roedd fe’n anodd defnyddio’r tripod. Roedd y diwrnod cyntaf o ffilmio gyda’r criw heb yr actorion wedi helpu ni llawer. Roedd y grŵp wedi arbrofi gyda nifer o saethiadau gwahanol. Yr ail ddydd o ffilmio gyda’r actorion wedi gwneud i’r grŵp penderfynu ddim ond defnyddio saethiadau dripod gan fod yn wneud y saethiadau edrych yn sigledig iawn. Roedd y ffilmio yn well gyda’r rhestr saethiadau ac wedi gwneud y grŵp ffilmio yn gyflymach. Yn ystod ffilmio yn y goedwig roeddwn i wedi cymryd rôl fel cyfarwyddo. Roedd hyn wedi datblygu fy sgiliau cyfarwyddo ac wedi rhoi siawns i mi weld y ffilm o lygaid y cyfarwyddo am unwaith. Pan oedd y grŵp yn ffilmio yn ystafell Lucy roeddwn i fod gwneud goleuo a ffilmio. Roedd hyn yn sialens fawr ac wedi datblygu fy sgiliau yn y ddau a hefyd sgiliau amldasgio. Roeddwn i wedi golygu’r ffilm yma. Roedd yna digon o saethiadau o’r actorion ond doedd yna ddim digon o luniau llonydd o’r goedwig. Roedd hyn wedi gwneud imi ailfedyddio’r saethiadau. Roedd rhaid imi ymchwilio ar-lein am dechnegau golygu newydd i dangos gwahaniaeth rhwng y ol-flachiadau a normal. Roedd hyn wedi datblygu fy sgiliau golygu a Avid. Roeddwn i wedi mwynhau'r ffilm yma fel cyfan. Roeddwn i wedi dangos y ffilm i’r grwp pentycelyn production a chlywed i’r adborth. Roedden nhw wedi dweud fod y diweddglo angen mwy o esboniad. Felly penderfynais i esbonio gyda droslais. Roedd rhaid i ni dangos ei’n ffilmiau yn y sinema. Roedd rhaid i ni wrando ar adborth y tiwtoriaid i wella’r ffilm. Roedd y tiwtoriaid wedi dweud mai’r troslais ar y dechrau ar ddiwedd yn gor-esbonio felly penderfynais i dynnu'r rhain mas. Dwi’n falch iawn o’r ffilm yma. Gobeithio rydych yn mwynhau.
Nathan :D
Stori drist am ferch ifanc yn dianc o'i hofnau. Mae'r stori yma yn neidio yn ôl ac ymlaen mewn amser ac rydw i wedi gweithio yn galed i dangos y gwahaniaeth. Mae Alex o ddiwedd yn rhydd o'i hofnau ond beth yw ofnau go iawn hi?
FFILM WEDI GORFFEN!
Roedd heddiw yn ddiwrnod anodd iawn. Golygu drwy'r dydd i sicrhau fod y ffilm yn gwneud synnwyr. Roedd y grŵp wedi golygu ddoe, ond roedd yn anodd iawn i orffen y cyfan i ffwrdd. Roedd yr draft cyntaf wedi cael ei chyflawni i dangos Elin Morse. Ond roedd yna bethau i wedi newid fel y sain, y diwedd a'r sut i dangos yr ôl fflachiadau. Felly heddiw penderfynais i olygu, ond doedd Bethan na Sara medru dod lawr i helpu felly dim ond fi heddiw! Roedd effaith ôl fflachiadau yn anodd neud a dim wir yn hapus gyda'r effaith ond mae'n wneud y swydd. Mae'r sain yn gweithio yn dda nawr gan lifo i mewn i gilydd heb naid nawr o wahaniaeth. Mae'r diweddglo wedi newid cymaint ond dwi falch i ddweud fod y diweddglo wedi gwella llawer.
Nathan :D
Dyma brosiect bach ar yr ochr i ddenu mwy o gynulleidfa am ei'n waith. Mae'r ffilm derfynol bron a gorffen cael ei golygu felly dyma fach o 'teaser trailer' chi!
Mwynhewch!
Nathan :D
Amser golygu wedi cyrraedd!
Triawd :D
Diolch i dduw roedd heddiw yn ddiwrnod grêt am ffilmio. Roedd y tywydd yn grêt ac roedd y criw cyfan yn gweithio yn dda fel tîm i gyflawni popeth am heddiw. Yn gyntaf roedd rhaid ni mynd i ystafell Lucy Andrews I ffilmio'r flashbacks. Doedd Sara na Lisa ar gael tan 10 o gloch. Felly penderfynodd fi a Bethan I ffilmio'r saethiadau gyda jyst Lucy ynddo felly bydd dim gwastraff amser. Roedd gyd o saethiadau Lucy wedi cael ei chyflawni mewn tua hanner awr. Roeddwn i’n gweithio pennaf ar gamera a Bethan ar sain yn ystod y ffilmio yma. Roedd hyn wedi gweithio yn dda. Roedd y ddau ohonom ni wedi setio’r goleuadau cyn dechrau ffilmio pob siot. Yna roedd Sara a Lisa wedi cyrraedd ac wedi galluogi i ni ffilmio’r gweddill. Roedd Sara wedi galluogi ni gyd cael darn o offer. Roedd y grŵp cyfan wedi cyfarwyddo pob siot i sicrhau fod y ffilm yn syniad pawb. Am tua 11 o gloch roedd y criw wedi gorffen am ginio. Roedd rhaid i ni bacio popeth i ffwrdd yn y car a theithio i’r goedwig. Roedd y grŵp wedi cyrraedd y goedwig am tua 11:45. Roedd hyn yn meddwl dim ond 45 munud o ffilmio yn y goedwig oeddem ni’n cael. I ddechrau i ffwrdd roeddwn i ar y camera a Bethan ar y sain. Yna roedd Sara wedi cymryd dros ar y camera wrth imi gyfarwyddo. Roedd hyn yn hwyl ac wedi sicrhau fod rydyn ni’n cael pob saethiad roedden ni angen. Yna ar ôl ychydig o amser roedd Bethan wedi cael go ar gyfarwyddo wrth imi wneud y sain. Roedd hyn yn galluogi’r grŵp cymryd mewn troi i wneud pob rhan o greu ffilm. Gan ddilyn y rhestr saethiadau roedd popeth wedi cael ei chyflawni jyst mewn amser. Rydw i’n hapus iawn a sut mae Triawd wedi gweithio heddiw and diolch mawr i’r actorion Lucy Andrews a Lisa-Fflur am yr amser maen nhw wedi rhoi lan i ni ffilmio. Edrych ymlaen i golygu Dydd Mawrth.
Nathan :D
Dyma plan am Dydd Gwener : yn y goedwig!
Nathan :D
Lwc ddrwg yn taro unwaith eto!
Rydym yn cael gwybod oriau mân y bore yma fod na allai Lucy Andrews wneud y ffilmio heddiw oherwydd y cyfleoedd gweithredu eraill. Felly difetha ein hamserlen unwaith eto. Gofynnodd Triawd Lucy ba adegau ar ddydd Gwener y byddai hi'n gallu i ffilmio. Rydym wedi ei archebu o 09:00 tan 1. Yn anffodus bydd yn rhaid i ffilmio'r olygfa y tu mewn a thu allan mewn un diwrnod, sy'n golygu diwrnod llawn straen unwaith eto. Y gobaith yw y bydd ein lwc yn troi o gwmpas yn fuan!
Nathan :D
Roeddwn i wedi creu plan bach pa saethiadau mae'r grŵp angen cyfleu yfory. Bydd hyn yn sicrhau fod Triawd yn cael digon o saethiadau i bara 5 munud. Byddai'n wneud yr un peth am ffilmio dydd Gwener.
Nathan :D
Roedd y diwrnod yn achosi llawer o straen ar gyfer y grŵp. Doedd yr actorion methu aros am hir a dim ond gallu gwneud ychydig oriau. Ond erbyn i ni gyrraedd y goedwig a sefydlu dim ond tua hanner awr oedd ar ôl. Roedd hyn yn gwneud y lluniau i ruthro ac yn anwastad. Mae'r grŵp yn sylweddoli hyn tra ar leoliad felly gofynnon ni i’r actorion a allem ffilmio golygfeydd hyn unwaith eto ar fore Dydd Gwener. Trwy edrych ar y saethiadau heddiw roeddwn i wedi sylweddoli y mae angen llawer mwy o amser i wneud y ffilm hon yn dda. Mae angen mwy saethiadau i egluro bod Alex wedi bod yn teithio am amser hir drwy roi llwyth o gerdded, rhedeg a rhuthro. Bydd hyn yn galluogi i gymeriad i gael mwy o gefndir. Mae angen i'r grŵp feddwl sut i wneud Tanwen yn fwy brawychus gyda gwahanol saethiadau. Rydym yn arbrofi heddiw gyda chamera ar y llawr, ond roedd yn anodd aros yn llonydd, felly rydym yn mynd i ymarfer hyn. Hefyd mae rhaid i ni bwysleisio llais Tanwen mwy fel sibrwd i bwysleisio thema o ofnus. Roedd yn anodd iawn i gael yr holl offer i fyny'r allt ac i'r goedwig. Cymerodd hyn lawer o amser, felly mae'r grŵp wedi penderfynu ar Ddydd Gwener y tîm ffilmio, Triawd, yn mynd i fyny at y lleoliad yn gynharach na'r actorion i'w sefydlu. Y gobaith yw bydd hyn yn ei gwneud y proses ffilmio yn fwy llyfn. Rydyn ni eisiau cael mwy o saethiadau o’r goedwig i bwysleisio fod Alex yn teithio rhywle lle mae’r amgylched yn edrych yr un peth. Roedd ffilmio yn anodd gwneud yn y goedwig gan fod y lleoliad ar fach o brŷn ac anodd i gael yr tripod yn syth, gwifrau sain i ddilyn i gamera a hefyd ddim yn llithro lawr y bryn.
Heddiw roedd y grŵp yn dechrau meddwl am effeithiau bydd yn edrych yn dda am y ffilm derfynol. Roedd syniad o saethiadau du a gwyn wedi dod i fyny. Dwi’n credu bydd hyn yn syniad da i bwysleisio teimlad tywyll ac ar goll Alex. Mae Triawd nawr yn gwybod pa mor anodd yw hi i ffilmio ar leoliad mor wahanol nag ystafell. Ond dydy heddiw heb stopio ni rhag gwneud y ffilm. Rydyn ni nol lan yr allt Dydd Gwener I ail ffilmio saethiadau a gwella’r ffilm yn gyfan gwbl. Diolch am ddarllen
Nathan :D
Roedd y tîm cyfan wedi cymryd trip lan bryn consti i'r goedwig. Roedd y grŵp eisiau dechrau arbrofi gyda'r lleoliad. Roedd y grŵp wedi cael hwyl gan wneud hyn a dyma rhai o olygfeydd hwyl roedd y grŵp wedi gwneud. Dwi'n gobeithio rydych yn mwynhau'r promo bach yma.
Diolch yn fawr
Nathan :D
O na!! Mae bod bwrw yfory a dydd Iau! Gobeithio bydd y tywydd yn aros yn sych i ffilmio tu fas! Bysedd wedi ei chroesi!
Nathan :D
O ddiwedd! Mae'r sgript a bwrdd stori wedi gorffen! Mae'r ffilmio yn dechrau yfory. Ond mae'r grŵp cyfan yn mynd mas heddiw i weld y lleoliad a dechrau ysgrifennu lawr syniadau am saethiadau ar y lleoliad! Diolch byth roedd popeth wedi gorffen mewn amser!
Roedd y sgript wedi cael ei chreu ac addasu gan bob aelod o'r grŵp. Roedd hyn yn rhoi cyfle i'r grŵp deall beth yn union sydd digwydd yn ystod y ffilm a chyd-destun. Roedd y sgript derfynol wedi cael ei danfon i'r actorion. Roedd hyn yn rhoi siawns i'r actorion darllen dros y sgript cyn dechrau ffilmio.
Roedd y bwrdd stori wedi cael ei chreu gennyf i. Y tro yma roeddwn i wedi trio fy ngorau i dangos yn glir beth oedd pob sgwâr yn dangos. Roeddwn i wedi sicrhau fod y stori yn llifo a hawdd i ddarllen. Rydw i'n credu bydd hyn yn sicrhau fod y diwrnod ffilmio yn llifo hefyd.
Nathan :D
Roedd rhaid i ni greu a dangos pwynt pŵer yn pwysleisio ei'n film newydd ni mynd i ffilmio. Roedd Triawd eisiau creu naws ofnus felly penderfynais gael cefndir gyda gwaed arno a cherddoriaeth ofnus yn chwarae. Rheswm am hyn oedd pwysleisio naws arswyd y film. Roedd Elin Morse wedi rhoi awgrymiadau i ni am y sgript fel lleihau a faint o siarad sydd ynddo a hefyd creu storiboard. Mae'r grŵp nawr yn newid y sgript a chreu bwrdd stori am ddydd Iau i dangos i Elin. Roedd y pwynt pŵer wedi cael ei chreu gennyf i. Roedd y pwynt pŵer yn dangos popeth ni wedi neud hyd yma fel sgript, poster, rhestr saethiadau a.y.b. Mae'r grŵp cyfan yn edrych ymlaen at greu'r ffilm hon.
NATHAN :)