Graffiti poetry from my comic The Last Wizard of Cwmdafi, along with their amazing Cymraeg translations by Beth Lewis! It's only available until this Friday midnight with the shortbox comic fair!
seen from Malaysia
seen from China
seen from United Kingdom
seen from Russia
seen from United States
seen from United States

seen from Japan

seen from Canada
seen from Germany

seen from Italy
seen from China

seen from Italy

seen from United States

seen from Malaysia
seen from Malaysia
seen from Russia

seen from Italy

seen from Germany
seen from Mexico
seen from China
Graffiti poetry from my comic The Last Wizard of Cwmdafi, along with their amazing Cymraeg translations by Beth Lewis! It's only available until this Friday midnight with the shortbox comic fair!
Cerdd olaf Refaat Alareer, 'If I must Die,' wedi' chyfieuthu i'r Gymraeg:
Os by'n rhaid i mi farw,
mae'n rhaid i ti fyw
i adrodd fy hanes
i werthu fy mhetha'
i brynu cadach mân
ac eda,
(gwnâ fo'n wyn gyda chynffon hir)
fel gall blentyn, rhywle'n Gaza
tra'n syllu i lygaid y Nef
yn disgwyl ei dad adawodd mewn tân -
â ffarweliodd neb
dim hyd'nod ei gnŵd
dim hyd'nod ei hyn -
weld y barcud, fy marcud a wnêst,
yn uchel ei hediad
a meddwl am eiliad fod angel uwch ei ben
yn danfon cariad
Os by'n rhaid i mi farw,
gad iddo roi gobaith
gad iddo fod yn hanes.
Rhyddid i Balestina!
“I Hamelin ers talwm, Os yw'r hen stori'n ffaith, Fe ddaeth rhyw bibydd rhyfedd Yn gwisgo mantel fraith.
A'r pibydd creulon hwnnw A aeth â'r plant i gyd A'u cloi, yn ôl y hanes, O fewn y mynydd mud.
A Hamelin oedd ddistaw A'r holl gartrefi'n brudd, A mawr fu'r galar yno Tros lawer nos a dydd.
Distawodd chwerthin llawen Y plant wrth chwarae ‘nghyd, Pob tegan bach yn segur, A sŵn pob troed yn fud.
Trist iawn fu hanes colli Y plant diniwed, gwan — Yn Hamelin ers talwm, Heddiw yn Aber-fan.”
Aberfan gan T. Llew Jones
Cafodd Catherine Prichard, ‘Buddug,’ ei geni ar y 4ydd o Orffennaf, 1842, yn y Cae-crin, Ynys Môn, i Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse) a Grace Prys (née Williams). Fel bardd, defnydda Catherine y ffug enw ‘Buddug’ o 1860, ac hefyd wrth amddiffyn hawliau merched. Ysgrifennodd Catherine cerddi fel ‘Cranogwen’, ‘Neges y Blodyn’, ‘Blodyn yr Eira’, ‘Brwydr Dirwest a Bacchus’ ac ati. Cafodd ei cherddi eu cyhoeddi yn cylchgronnau, ac yn ‘Caniadau Buddug’ ar ol ei farwolaeth, gan ei gŵr.
Cafodd Catherine ei phriodi i Owen Prichard yn Ionawr 1863 ond gallwn dal gweld y cerdd hon i Sarah Jane Rees, Cranogwen, a oedd yn ysgrifennu cerddi i fenywod oedd hi yn caru, fel cerdd ‘queer’. Bu farw ar y 29 o Fawrth, 1909.
“‘Rwyf bron a'th addoli, anfarwol Granogwen, ‘Rwyt wedi fy synnu, a’m swyno yn lân, Y mae dy athrylith a'th awen ddisgleirwen, Yn twymo fy enaid - yn ennyn fy nghân. Dy ryfedd huawdledd a'th ddwys dduwiolfrydedd, A'th ddoniau gwahanol enillodd fy serch: Pwy bellach faidd wadu nas gall arucheledd A mawredd meddyliol babellu mewn merch?”
Catherine Pritchard, ‘Buddug’, was born on the 4th of July, 1842, in Cae-crin, Anglesey, to Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse) and Grace Prys (née Williams). Buddug was her bardic name, given to her in 1860, which she also used in writings defending women’s rights. She wrote poems such as ‘Cranogwen’, ‘Neges y Blodyn’ (’The Flower’s Message’), ‘Blodyn yr Eira’ (’Snowdrop’), ‘Brwydr Dirwest a Bacchus’ (’The Battle of Temperence and Bacchus’) and more. Her poems appeared in journals, including in English, and her own ‘Caniadau Buddug’ was published after her death by her husband.
Catherine married Owen Prichard in January 1863 but we can see the following poem to Cranogwen, Sarah Jane Rees, who wrote poetry to her female partners, as a ‘queer’ poem. Catherine died on the 29th of March, 1909.
“I almost worship you, deathless Cranogwen, You’ve amazed me and charmed me for so long, Your genius and your dazzling skill with the pen, Quicken my soul - and inspire my own song. Your rare eloquence and intense piety; Your many different gifts have won my admiration: For who today can claim that superiority And intellectual greatness can’t exist in women?”
Poems from Welsh Women’s Poetry 1460-2001: An Anthology, 2003.
Image source.
Then in his dream it seemed he sang,
and loud and fierce his chanting rang,
old songs of battle in the North,
of breathless deeds, of marching forth
to dare uncounted odds and break
great powers, and towers, and strong walls shake;
and over all the silver fire
that once Men named the Burning Briar,
the Seven Stars the Varda set
about the North, were burning yet,
a light in darkness, hope in woe,
the emblem vast of Morgoth’s foe.
- Beren and Lúthien
Ychydig iawn o flodau têg Y byd sydd fwy eu harddwch, Sydd burach, well eu sawr, na chwêg Flodeuyn cyfeillgarwch; Ychydig hefyd, yn ddiau, O flodau'r byd presenol, Mewn bri a harddwch, sy'n parhâu Mor hir, ac mor ragorol.
Ah! y mae hwn yn rhosyn hardd, Yn d'wysog mewn prydferthwch! A oes rhyw un o fewn yr ardd Yn fwy ei fri a'i degwch? Mae'r blodau eraill sydd gerllaw Fel yn ymgrymu iddo; A phob un genfydd oddi draw Fod gwedd urddasol arno.
Blodeuyn anwyl, tyner, yw, A swynol ei arogledd; Ond, er mor ryfedd mae yn byw, Er ‘stormydd â'u digllonedd, Yn wir ni wna y dymhestl gref, Ar ôl i hwn gael gwreiddio, Ond gwasgar ei arogledd ef, A rhoi gwell lliwiau iddo.
A oes i'w gael ragorach un? Fe dd’wedir fod, ond chwilio; Yn dlysach yn ei liw a'i lun, A gwell arogledd iddo; Ac fod y t'wysog hwn erioed Yn arfer ei gydnabod, Ac, heb ymddadlu, yn dioed Ymgrymu i'w awdurdod:
A hwnnw, meddir drwy y wlad, Yw'r pen, neu yw y brenin, Ac nad yw'r eraill flodau mâd Ond deiliaid yn ei ganlyn; A Chyfeillgarwch, rosyn cu, Medd rhai’n, yw'r pentywysog, Nodedig am ei urddawl fri, Sydd nesa’ i'r pen coronog.
Wel, bydded “Cariad” ynte'n ben, Yn frenin cain y blodau, A deued beirdd y ddae'r a'r Nen I ganu iddo odlau; Mi ganaf finau'r ganig hon Yn llawen, doed a ddelo, I d'wysog Cyfeillgarwch llon, Sydd wedi’m hollol swyno.
Ah! anwyl chawer, 'rwyt ti i mi, Fel lloer i'r lli’, yn gyson; Dy ddilyn heb orphwyso wna Serchiadau pura’m calon: Mae gweld dy anwyl, siriol wedd I mi yn hedd a gwynfyd, A chael mynydau o'th fwynhâu Yn haul ar oriau’m bywyd.
Cael edrych yn dy wyneb cu, Ac agor iti galon Orlwythog, sydd yn f'ysgafnhâu O bwysau o helbulon; A chael dy gydymdeimlad gwir Ym mhob rhyw gûr a gofid, Sydd fwy ei werth nag aur y byd, Ei fawl i gyd, a'i wynfyd.
I seren dêg dy wyneb di Ni welaf fi un gymhar, Er crwydro'n hir, - yr un mor fâd Yn wybren gwlad y ddaear: Mae miloedd eraill, sêr o fri, Yn gloewi y ffurfafen; Edmygaf hwy, ond caraf di, Fy Ngwener gu, fy “Ogwen.”
Ni wn y medr unrhyw iaith, Er bod yn berffaith ddigon, I ddweyd, i erglurhâu, mewn rhan, Mor gu wyt gan fy nghalon: Ond gwyddost ti fy nghalon oll, Fy chwaer, heb raid mynegu; Deallaist lawer gwaith cyn hyn Mor gu'r wyf yn dy garu.
Mae’m calon oll yn olau i ti, A gwn y gweli yma Dy anwyl ddelw di dy hun O'r bron yr un eglura’: Wel, dyna i gyd, bydd yma o hyd, Nes llifo’m bywyd allan; A phleser cu fy mywyd i Fydd syllu arni'n mhobman.
— ‘Fy Ffrynd’ gan Cranogwen.
'Rwyf bron a'th addoli, anfarwol Granogwen, 'Rwyt wedi fy synnu, a'm swyno yn lân, Y mae dy athrylith a'th awen ddisgleirwen, Yn twymo fy enaid - yn ennyn fy nghân. Dy ryfedd hyawdledd a'th ddwys dduwiolfrydedd, A'th ddoniau gwahanol enillodd fy serch: Pwy bellach faidd wadu nas gall arucheledd A mawredd meddyliol babellu mewn merch?
“Cranogwen” - Buddug