Rhyfel Annibyniaeth i Iwerddon
Yn y 18fed ganrif roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun o ryw fath. Yna bu gwrthryfel yn 1798 gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn 1801, gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, Daniel O'Connell, ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "Y Newyn Mawr" (Gwyddeleg: An Gorta Mór). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn 1911. Yn rhannol oherwydd hyn, a hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd. Mudodd nifer fawr i America, gan gynnwys Gwyddelod oedd yn gweld bai ar lywodraeth Lloegr ac yn cefnogi ymgyrch yr IRA nes ymlaen.
Bu ymgyrchoedd am hunanlywodraeth o dan frenhiniaeth Lloegr trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion Charles Stewart Parnell. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig William Ewart Gladstone ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn 1910 roedd y Blaid Seneddol Wyddelig dan John Redmond mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 derfyn ar y mesur am y tro.
Yn 1916 bu gwrthryfel arall, Gwrthryfel y Pasg, gydag ymladd ffyrnig yn ninas Dulyn dros wythnos y Pasg. Meddiannodd y gwrthryfelwyr nifer o adeiladau o gwmpas canol Dulyn, gyda'u pencadlys yn Swyddfa'r Bost. Wedi chwe diwrnod o ymladd, ildiodd y gwrthryfelwyr i'r fyddin Brydeinig. Lladdwyd 64 o'r gwrthryfelwyr yn y brwydro, tra lladdwyd 140 ac anafwyd 318 o fyddin Prydain. Lladdwyd 17 aelod o'r heddlu a thua 220 o bobl eraill.
Rhoddwyd yr arweinwyr ar eu prawf gan y fyddin, a dienyddiwyd 16 ohonynt yn ystod hanner cyntaf mis Mai, yn eu plith Séamus Ó Conghaile (James Connolly), oedd wedi ei anafu mor ddrwg fel na allai sefyll ac ac fe'i saethwyd yn eistedd mewn cadair. Ym mis Awst, crogwyd Ruairí Mac Easmainn (Roger Casement), a aethai i'r Almaen i geisio cefnogaeth i'r gwrthryfel ac a ddychwelodd i Iwerddon mewn llong danfor ychydig ddyddiau cyn dechrau'r gwrthryfel. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys Padraig Pearse a James Connolly. Gyrrwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i wersyll carchar yn Fron-goch ger Y Bala. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Roedd y farn gyhoeddus yn America wedi mynegi cydymdeimlad dwfn â merthyron y Pasg fel y’u gwelid.
Yn Ethloliad Cyffredinol 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i Sinn Féin (1917 newidodd polisi’r blaid yn weriniaethol), oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Gwrthododd aelodau Sinn Féin gymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin, yn hytrach, ar 21 Ionawr 1919, cyfarfu 30 yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - Dáil Éireann a arweiniodd at sefydlu Gweriniaeth Iwerddon. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y Dáil hwn, yn eu plith Éamon de Valera a Michael Collins. Cyflwynodd Llywodraeth Brydain Fesur Iwerddon yn gyntaf ym Mawrth 1919 ond ni ddaeth yn ddeddf hyd 23 Rhagfyr 1920. Ei brif nodweddion oedd sefydlu dwy Senedd yn Iwerddon i’w cysylltu gan gyd-bwyllgor, gyda rhai cyfrifoldebau i’w cadw gan Senedd San Steffan.
Datblygodd rhyfel rhwng Byddin Weriniaethol Iwerddon (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans” o 1919 hyd 1921. Cynigiodd David Lloyd George gadoediad a thrafodaethau a ddecheuodd yng Nghorffennaf 1921. Ar 6 Rhagfyr 1921 arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, Arthur Griffith a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig. Pasiwyd y Cytundeb yn y Dail yn Nulyn, 64 o blaid, 57 yn erbyn. Roedd y Cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu Gweriniaeth Iwerddon, ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Beth bynnag, roedd nifer yn erbyn y Cytundeb a mawr fu’r tyndra rhwng y ddwy ochr, Michael Collins ar ochr o blaid y Cytundeb, de Valera ar yr ochr yn erbyn. Roedd etholiadau 16 June 1922 yn cryfhau'r ochr o blaid y Cytundeb. Bu'r rhan fwyaf o bobl Iwerddon eisiau mynd ymlaen â'u bywydau ar ôl y rhyfel. Yna saethwyd Syr Henry Wilson gan ddau Wyddel y tu allan i'w dŷ yn Llundain. Roedd Wilson wedi bod yn allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf; yn sicr fe wnaeth ei benderfyniadau ei fyrhau. Roedd Wilson hefyd yn rhan o ddigwyddiad Curragh pan wrthododd y fyddin orfodi Ulster i ildio’u harfau. Ar ôl gadael y fyddin aeth yn AS Unoliaethol. Mae nifer yn amau i Michael Collins drwy’r IRB roi’r gorchymyn i ladd Wilson ac nid yr IRA. Ar y llaw arall, roedd Lloyd George yn meddwl bod lluoedd Gwrth-Gytundeb (a oedd wedi cipio'r Pedwar Llys yn Nulyn yn ddiweddar) yn gyfrifol – nid oedd hyn yn wir mewn gwirionedd – ac roedd y Cabinet o'r farn y dylid "pwyso ar Lywodraeth Dros Dro Iwerddon i ddelio â'r mater", hynny yw, bygwth anfon Byddin Brydain i mewn. Felly bu a Collins orchymynodd Frwydr y Pedwar Llys ar 28 June 1922, gweithred cyntaf yn Rhyfel Cartref Iwerddon, 1924-1924. Saethwyd Collins ei hun yn 1924.
Wedi methiant y Rhyfel Cartref i newid polisi y wladwriaeth newydd, fe sefydlodd de Valera blaid weriniaethol newydd, Fianna Fáil a ddaeth fewn i rym yn 1932. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y Taoiseach cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon.