Yma mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, yn cynnig cyngor i wirfoddolwyr ar sut i gael y gorau o wefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a lansiwyd ar 8 Mehefin.
Mae ein gwefan gwirfoddoli newydd sbon, a lansiwyd wythnos diwethaf, yn ei gwneud yn hawdd i wirfoddolwyr chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, ymuno â nhw a chadw cofnod o’u profiadau.
Mewn blogiau blaenorol canolbwyntiais ar sut y gall mudiadau ddechrau arni a chreu cyfleoedd ar y wefan newydd ac ar nodweddion eraill a all eu helpu i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Mae cyfleoedd newydd yn cael eu rhoi ar y wefan bob dydd. Nawr mae’n bryd troi ein sylw at wirfoddolwyr, neu ddarpar wirfoddolwyr, a sut y gallwch chi ddefnyddio’r wefan.
Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
Yn gyntaf, ewch i’r wefan
www.gwirfoddolicymru.net
Gallwch ddechrau chwilio ar unwaith gan ddefnyddio allweddeiriau – gweithgaredd efallai, neu enw mudiad.
Dangosir canlyniadau yn ôl eu pellter ohonoch chi. Bydd unrhyw ddigwyddiadau untro perthnasol yn ymddangos ar frig y rhestr. Os yw’r rhestr yn rhy hir, ceisiwch gulhau’r chwiliad drwy roi allweddeiriau ychwanegol yn y chwiliad.
I gael gwybod mwy am y cyfleoedd sy’n ymddangos yn eich rhestr ganlyniadau, gofynnir i chi gofrestru, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd. Mae angen cyfeiriad ebost arnoch a gofynnir i chi greu cyfrinair.
Ar gyfer rhai cyfleoedd gwirfoddoli, gallwch ymuno’n syth â’r cyfle ar sail y cyntaf i’r felin, heb broses ymgeisio na phroses ddethol. Mewn achosion o’r fath gwahoddir i chi ‘Ymuno’. Anfonir cadarnhad atoch a disgwylir i chi fod yn y man priodol ar yr amser a nodir gan y mudiad.
Mae proses ymgeisio ynghlwm wrth gyfleoedd eraill – megis sgwrs gychwynnol, ffurflen gais ac mewn rhai achosion hyfforddiant cychwynnol neu wiriadau DBS cyn y gellir cadarnhau’ch lleoliad gwirfoddoli.
Yn yr achosion hyn gofynnir i chi ‘Ymgeisio’ a dilyn y camau angenrheidiol. Mae’n bosib y bydd modd i chi lawrlwytho dogfennau perthnasol, megis ffurflen gais, o’r wefan. Fe welwch fanylion cyswllt y mudiad (a elwir yn ‘Ddarparwyr’ ar y wefan hon), fel y gallwch gysylltu â nhw os hoffech gael gwybod mwy cyn ymgeisio.
Gweld holl gyfleoedd mudiad
Ar ôl dod o hyd i gyfle gwirfoddoli efallai y byddwch am gael gwybod beth arall y mae’r mudiad dan sylw yn ei gynnig. Cliciwch ar enw’r mudiad i weld ei dudalen Darparwr, a fydd yn cynnwys manylion y mudiad a rhestr o’r holl gyfleoedd gwirfoddoli y mae’n eu hysbysebu ar y wefan.
Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog a gallwch chwilio yn Gymraeg neu’n Saesneg – ond cofiwch fod eich chwiliad wedi’i seilio ar allweddeiriau sy’n ymddangos yn y disgrifiad o’r cyfle a roddwyd ar y wefan gan y mudiad.
Tra’r ydym yn annog disgrifiadau dwyieithog yn gryf, ni allwn orfodi hyn. Rydym yn annog mudiadau i ddefnyddio’r tag ‘Cymraeg’ i ddynodi cyfleoedd lle gallwch ddisgwyl gallu siarad Cymraeg, felly rhowch ‘Cymraeg’ yn y peiriant chwilio i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg.
Cymorth i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir
Os hoffech gymorth personol i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli addas bydd cyfle i chi ddweud hynny wrth gofrestru ar y wefan. Bydd eich canolfan wirfoddoli leol wedyn yn cysylltu â chi gan gynnig cymorth neu gyngor drwy ebost, dros y ffôn neu drwy drefnu cyfweliad wyneb yn wyneb.
Eich proffil arlein
Fel arall, gallwch ddechrau arni drwy glicio ar y botwm ‘Rhoi Cynnig ar Wirfoddoli’ ar y dudalen gartref i gofrestru fel gwirfoddolwr newydd ar y wefan a dechrau creu’ch proffil arlein.
Ar dudalen eich proffil gallwch gadw cofnod o ba sesiynau gwirfoddoli rydych wedi ymrwymo iddyn nhw, a faint o oriau o wirfoddoli rydych wedi’u gwneud. Byddwch yn cael bathodynnau gwirfoddoli digidol pan fyddwch yn cofnodi 50, 100, 200, 500 neu 1000 awr. Mae cofnodi oriau yn hawdd – bydd y wefan yn eich atgoffa pan rydych yn debygol o fod ag oriau i’w cofnodi. Os lawrlwythwch ap Teamkinetic o siop apiau Google neu Apple yna gallwch wneud hyn ar eich ffôn ble bynnag ydych chi.
Mae angen i’r mudiad rydych yn gwirfoddoli iddo gadarnhau’r oriau rydych yn eu cofnodi cyn iddynt gyfrif tuag at eich bathodynnau digidol – felly atgoffwch nhw’n garedig os nad ydynt yn gwneud hyn!
Gallwch lanlwytho manylion cymwysterau a hyfforddiant rydych wedi’u gwneud, gan gynnwys tystysgrifau, i dudalen eich proffil. Dim ond mudiadau sy’n gyfrifol am gyfleoedd gwirfoddoli yr ydych yn ymuno â nhw a all weld y wybodaeth yn eich proffil.
Gallwch adael adborth ar eich cyfleoedd gwirfoddoli, i roi gwybod i eraill sut hwyl cawsoch arni.
Gallwch gysylltu’ch proffil â’ch cyfrif Facebook neu Twitter ac yna gallwch bostio’n awtomatig pan fyddwch yn ymuno â chyfle newydd neu’n cofnodi oriau gwirfoddoli. Fel hyn gallwch roi’r diweddaraf i’ch ffrindiau ynglŷn â’r hyn rydych yn ei wneud.
Os ydych eisoes yn gwirfoddoli, efallai y bydd y mudiad rydych yn ei gefnogi yn eich annog i gofrestru ar y wefan newydd fel y gallant ei ddefnyddio i drefnu rotas, cyfathrebu â gwirfoddolwyr, rhoi a derbyn adborth ac olrhain oriau gwirfoddolwyr.
Mwynhewch!
Sut bynnag rydych yn defnyddio nodweddion newydd y wefan newydd hon, y peth pwysicaf yw’ch bod yn dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gwerth chweil a’ch bod yn mwynhau’r profiad.
Os hoffech unrhyw gymorth wrth ddefnyddio’r wefan, neu os yw’n well gennych siarad â rhywun i ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli rydych yn chwilio amdano, mae croeso i chi gysylltu â’ch canolfan wirfoddoli.
Rwyf ar lwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - beth nawr?
Yn ei hail flog ar y pwnc, mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli yn WCVA, yn cynnig rhagor o awgrymiadau ar ddefnyddio gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a fydd yn cael ei lansio ddechrau mis Mehefin.
Yn fy mlog blaenorol soniais am gofrestru eich mudiad ar y llwyfan a sut i greu cyfleoedd gwirfoddoli. Dewch i ni edrych ar nodweddion eraill a all fod yn ddefnyddiol i chi.
Yn ddiweddar prynais gamera newydd sy’n gwneud llawer mwy nag ydwi’n gallu’i wneud gydag ef, ar y funud - er dwi’n dysgu. I fod yn onest mae’n gwneud llawer mwy na fydda’ i’n debygol o fod eisiau ei wneud fyth. Ond mae’n tynnu lluniau gwell na mae fy ffôn yn ei wneud, a dwi’n hapus gyda hynny.
Yn yr un modd, mae nifer o nodweddion ar y llwyfan newydd na fyddwch chi’n teimlo’n barod i’w defnyddio, yn gallu eu defnyddio neu angen eu defnyddio, ac mae hynny, wrth gwrs, yn berffaith iawn. Byddwch er hynny, efallai’n darganfod eich bod eisiau meddwl am sut y byddwch yn defnyddio’i nodweddion yn llawnach yn y dyfodol ac i wneud hynny’n nod yn y tymor canolig i’r hirdymor.
Mae’r cyfleuster wedi’r cyfan, ar gael i chi am ddim yn rhan o seilwaith Gwirfoddoli Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae yno i’w gwneud yn haws i wirfoddolwyr gael at gyfleoedd gwirfoddoli ac i’ch helpu i reoli gwirfoddolwyr.
Felly, rydych wedi creu ychydig o gyfleoedd, beth nawr?
Ymateb i wirfoddolwyr
Gwahaniaeth pwysig o gymharu â’r hen system yw pan fydd gwirfoddolwyr yn gofyn i ‘ymuno’ neu ‘ymgeisio’ (pa bynnag un rydych chi wedi’i ddewis - gwelwch y blog blaenorol sy’n egluro’r gwahaniaeth) bydd hysbysiad e-bost yn mynd yn syth atoch chi ac nid, fel yn flaenorol (yn y rhan fwyaf o achosion), i’r ganolfan wirfoddoli.
Afraid dweud bod ymateb i’r hysbysiadau hyn yn brydlon o bwysigrwydd mawr. Mae gwirfoddolwyr eisiau system recriwtio sy’n sydyn, hawdd ac uniongyrchol. Gall y llwyfan hwn alluogi hynny’n union, ond mae’n gofyn am berson cyswllt y mudiad i fod yn barod ac yn gallu ymateb yn briodol.
Mae canolfannau gwirfoddoli weithiau wedi bod yn gyfryngwr yn y broses recriwtio, yn dewis ac yn gyrru ymgeiswyr argymelledig i gael eu hystyried gennych. Pe byddai hyn yn ddefnyddiol yna cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol; efallai y gallant reoli rhai agweddau ar y broses recriwtio ar eich rhan.
Creu tudalen broffil darparwr
Pan fyddwch yn cofrestru fel ‘darparwr’ cyfleoedd gwirfoddoli, byddwch yn cael eich tudalen we unigryw eich hun a chyfeiriad gwe ble gallwch ychwanegu eich logo, delwedd clawr a gwybodaeth am eich mudiad. Pan fydd gwirfoddolwr yn chwilio ac yn dod o hyd i gyfle yr ydych wedi’i bostio, gallant glicio ar enw eich mudiad i fynd ar eich tudalen broffil. Yno byddant yn gweld yr holl gyfleoedd yr ydych yn eu cynnig.
Drwy gyhoeddi URL/ cyfeiriad gwe eich tudalen broffil gallwch arwain pobl yn syth bin at eich tudalen broffil. Gallant weld ac ymuno â chyfleoedd, neu gallant gysylltu â chi, o’r dudalen hon.
Gallwch ddod o hyd i help i greu tudalen darparwr yma: http://guide.teamkinetic.co.uk/provider-profile-page
Cofnodi oriau gwirfoddolwyr
Gallwch gofnodi oriau gwirfoddolwyr ar y system. Mae’n rhoi adborth gweladwy o’r cyfraniad y maent yn ei wneud. Unwaith maent wedi gwneud 50, 100, 200, 500 a 1,000 o oriau, bydd bathodyn lliw Gwirfoddoli Cymru yn ymddangos ar eu proffil yn gydnabyddiaeth.
Gall gwirfoddolwyr gofnodi eu horiau eu hunain ar eu dangosfwrdd. Bydd y system yn ‘cyfrif’ yr oriau hyn pan fyddant yn cael eu gwirio gennych fel darparwr. Gall gweinyddwyr hefyd gofnodi neu gymeradwyo oriau ar ran darparwr. Os yw hyn yn rhywbeth na allwch ei wneud am ba bynnag reswm, efallai gall eich canolfan wirfoddoli helpu.
Mwy na recriwtio yn unig
Mae yna sawl rheswm da pam y dylech fynd ati i annog eich gwirfoddolwyr presennol i gofrestru ar gyfer y llwyfan.
Byddai’n eich galluogi i greu cyfleoedd caeedig, y gallwch eu cyfyngu i’ch grŵp gwirfoddoli. Gall y rhain fod yn sesiynau gwirfoddoli fel eich bod yn gallu cwblhau eich rota ar-lein, gallant yn ogystal fod yn hyfforddiant neu’n sesiynau gwybodaeth yr ydych eisiau i bobl gofrestru ar eu cyfer.
Os ydi gwirfoddolwyr wedi cofrestru ar eich system gallwch fonitro oriau gwirfoddoli - a all fod yn ddefnyddiol i gefnogi ceisiadau cyllid, ynghyd â’ch galluogi i roi adborth positif i wirfoddolwyr a rhanddeiliaid.
Creu a rheoli grwpiau gwirfoddoli
Os ydi gwirfoddolwyr wedi cofrestru ar eich system gallwch greu a rheoli grwpiau gwirfoddoli a gyrru e-byst grŵp.
Gallwch, er enghraifft, greu grŵp a’i alw yn ‘myfyrwyr’ (y mae’n debygol y bydd eu hargaeledd yn cael ei gyfyngu i gyfnodau gwyliau). Gallwch anfon dolen arbennig at wirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr a phan fyddant yn cofrestru byddant yn cael eu rhoi’n awtomatig yn y grŵp gweinyddol hwn.
Mae creu grwpiau yn hwyluso cyfathrebu. Gallwch e-bostio’r holl wirfoddolwyr am gyfle penodol, neu efallai eich bod eisiau e-bostio gwirfoddolwyr mewn grŵp penodol yr ydych wedi’i greu. Gallwch hefyd wrth gwrs e-bostio gwirfoddolwyr unigol hefyd.
A ydych wedi cofrestru ar y llwyfan newydd eto?
Cofiwch mai’r cam cyntaf pwysicaf yw rhoi cyfleoedd arno cyn i’r llwyfan fynd yn fyw, ddechrau mis Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwnnw, ni fydd unrhyw gyfleoedd fydd gennych ar hen wefan Gwirfoddoli Cymry yn cael eu hyrwyddo.
Dechrau Arni
Ewch i’r cyfeiriad gwe dros dro https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk/ i gofrestru ac i greu cyfleoedd. Gallech hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr prawf, chwilio am eich cyfleoedd gwirfoddoli eich hun ac ymuno â nhw er mwyn ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae’n gweithio. Ar ôl y dyddiad lansio, bydd y wefan ar gael ar www.volunteering-wales.net.
Gobeithiwn y bydd y system newydd o gymorth i chi wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes, bydd y system a’n defnydd ohoni, yn broses esblygol. Yn y cyfamser byddwn yn awyddus i glywed sut hwyl rydych yn ei chael arni, beth sy’n ddefnyddiol a gwnawn ein gorau i helpu gydag unrhyw anawsterau a gewch chi.
Llwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - Help! Lle dwi’n dechrau?
Yma mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, yn cynnig cyngor ar ddefnyddio gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a fydd yn cael ei lansio ddechrau Mehefin.
Mae newid yn hoff beth gan rai ohonom ac yn gas beth gan eraill. Gall gwefan newydd godi ofn ar y rheini ohonom sydd ddim yn meddu ar athrylith dechnolegol naturiol.
Pam felly, dwi’n clywed chi’n gofyn, yr ydym yn newid gwefan Gwirfoddoli Cymru a ddefnyddir ar hyn o bryd (yn ddidrafferth gan y mwyafrif) i recriwtio gwirfoddolwyr gan tua 2,000 o fudiadau yng Nghymru?
Mae rhan o’r ateb yn ymwneud â chadw gyda’r oes ddigidol yr ydym yn byw ynddi a disgwyliadau darpar wirfoddolwyr - yn enwedig, ond nid dim ond, y rhai iau.
Mae rhan arall yn ymwneud â photensial technoleg i gynorthwyo staff prysur drwy leihau’r baich gweinyddol sydd ynghlwm wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, gan roi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar dasgau o bwys. (Rydym yn ymwybodol nad yw pob gwirfoddolwr eisiau defnyddio gwasanaeth digidol ac felly’n parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn ogystal drwy ein canolfannau gwirfoddoli).
Mae’n cymryd amser i ymgyfarwyddo ag unrhyw system newydd a chyrraedd y pwynt lle mae’n teimlo’n fuddiol yn hytrach nag yn rhwystredig.
Dyma rai o’r nodweddion ar y wefan newydd sy’n wahanol i’r hen un. Wrth gofrestru’ch mudiad ar y wefan newydd (y cyfeiriad dros dro yw https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk) fe fydd hi’n ddefnyddiol i chi fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau hyn o’r dechrau.
Cofrestru
Os oes gennych gysylltiad â Chyngor Gwirfoddol Sirol neu ganolfan wirfoddoli leol yna chwiliwch am y sir briodol o brif dudalen y wefan a chofrestrwch yno. Mae hyn yn golygu bod eich cymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu o’r sir honno. Nid oes ots i raddau helaeth ble rydych yn cofrestru, serch hynny, ac os yw’n teimlo’n anghywir gallwn sortio’r peth yn ddigon hawdd.
Dim ond un enw cyswllt ac un cyfeiriad ebost y gellir eu rhoi ar gyfer mudiad (a elwir yn y system hon yn ‘ddarparwr’). Dyma’r person a fydd yn cael hysbysiadau gan ddarpar wirfoddolwr.
Os oes gennych fwy nag un person cyswllt allweddol mae dau ddewis gennych: naill ai defnyddio cyfeiriad ebost cyffredinol y gall y ddau gael ato, neu, os ydych yn gyfrifol am rolau gwirfoddoli gwahanol neu ardaloedd gwahanol, cofrestrwch fel 2 (neu fwy) o ddarparwyr ar wahân, gydag enwau gwahanol megis Mudiad (Gogledd) a Mudiad (De); yna gall y ddau fod ag enw cyswllt a chyfeiriad ebost eu hunain.
Creu cyfleoedd
Rhaid i chi benderfynu a ydych am i wirfoddolwyr ‘ymuno’ neu ‘ymgeisio’. Os ydych am iddynt gofrestru a ‘throi lan’, ar sail y cyntaf i’r felin, dewiswch ‘ymuno’. Gallwch ddynodi faint o lefydd sydd gennych ar gael i wirfoddolwyr; dyweder bod angen 10 gwirfoddolwr arnoch, bydd y system yn rhoi gwybod i’r unfed person a’r ddeg sy’n mynegi diddordeb fod y cyfle yn ‘llawn’.
I lawer o rolau gwirfoddoli ceir gwahanol gamau yn y broses recriwtio; efallai ffurflen gais ac yna sgwrs anffurfiol a sesiwn brawf neu sesiwn gynefino, cyn derbyn gwirfoddolwr. Os felly, dewiswch ‘ymgeisio’ bob tro. Gallwch lanlwytho ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall rydych am i wirfoddolwyr ei gweld ar yr adeg hon.
Os oes unigolion yn ymgeisio sy’n anaddas i’r hyn sydd gennych mewn golwg, gallwch ddewis ‘dileu’ i ddileu eu henw o’r rhestr ymgeiswyr a bydd ebost yn cael ei greu’n awtomatig yn cadarnhau eu bod wedi bod yn aflwyddiannus. (Gallwch hefyd anfon ebyst personol i gadw mewn cysylltiad ac efallai gynnig dewis arall a all fod yn fwy priodol).
Ar ddiwedd eich proses recriwtio, pa mor hir bynnag y mae’n ei gymryd, byddwch yn dewis ‘cadarnhau’ i anfon ebost wedi’i greu’n awtomatig at wirfoddolwyr ‘llwyddiannus’ yn cadarnhau eu bod wedi’u derbyn. Ni allwch newid testun y negeseuon sy’n cael eu creu’n awtomatig ond gallwch bob amser anfon eich ebyst eich hun, naill ai at unigolion neu at grŵp o wirfoddolwyr. Mae rhagor o gymorth ar greu cyfle ar gael yma: http://providerguide.teamkinetic.co.uk/introduction-2
Denu gwirfoddolwyr
Fel o’r blaen, mae’n bwysig rhoi teitl clir ac atyniadol i’ch cyfle ynghyd â disgrifiad llawn. Nid yw’n orfodol rhoi gwybodaeth yn ddwyieithog ond anogir hynny’n gryf. Cofiwch y gall darpar wirfoddolwyr fod yn chwilio am gyfleoedd ar y wefan yn y naill iaith neu’r llall ac os nad yw’r allweddeiriau cywir yn eich cyfle ni fyddant yn dod o hyd i chi. Gallwch ddefnyddio tagiau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i helpu pobl i ddod o hyd i chi’n haws.
Mae angen rhoi lleoliad penodol ar gyfer pob cyfle er mwyn mesur pellter, gan fod canlyniadau chwilio yn cael eu dangos yn ôl pellter o’r chwiliwr. Gall hyn fod yn broblem i rai cyfleoedd, efallai gan fod modd eu gwneud unrhyw le ac rydym wrthi’n ymchwilio i ffyrdd gwell o reoli hyn.
Am y tro, y peth gorau i’w wneud yw ei gwneud yn glir yn y disgrifiad ei fod yn gyfle y gellir ei wneud gartref, ledled y wlad, neu beth bynnag, a chreu copïau eraill o’r cyfle fel y gall pobl mewn lleoliadau gwahanol ddod o hyd i chi. Efallai hefyd y bydd defnyddio tagiau ar gyfer rhanbarthau neu drefi yn helpu.
Pa fath o gyfle gwirfoddoli yr ydych yn ei gynnig?
Ar waelod y dudalen ‘Creu Cyfle’ gofynnir i chi benderfynu a yw’ch cyfle yn un sy’n ailadrodd, ddim yn ailadrodd neu’n hyblyg. Os yw’n gyfle untro, megis glanhau traeth neu ŵyl ar benwythnos, dewiswch yr opsiwn ddim yn ailadrodd. Os oes gan y cyfle sesiynau rheolaidd, ac rydych angen rota o wirfoddolwyr, dewiswch ailadrodd. Fel arall, mae’ch cyfle yn debygol o fod yn un hyblyg, h.y. dim oriau gosod, neu bydd y mudiad a’r gwirfoddolwr yn trafod yr oriau. Os nad ydych yn siwr, dewiswch y categori hwn.
Hyd yn oed ar gyfer cyfle parhaus mae angen i chi ddynodi dyddiad gorffen - gallai hwn fod yn flwyddyn neu fwy yn y dyfodol os mynnwch a bydd yn sicrhau’ch bod yn adolygu ac yn diweddaru cyfleoedd yn rheolaidd.
Gallwch hefyd reoli gwiriadau DBS a geirdaon a threfnu sesiynau cynefino i’ch gwirfoddolwyr - ond rhaid i ni beidio â rhedeg cyn y gallwn gerdded. Y cam cyntaf pwysicaf yw rhoi cyfleoedd ar y wefan cyn iddi fynd yn fyw, ddechrau mis Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd cyfleoedd sydd gennych ar hen wefan Gwirfoddoli Cymru yn cael eu hysbysebu mwyach.
Sut i ddechrau arni
Ewch i’r cyfeiriad gwe dros dro https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk i gofrestru ac i greu cyfleoedd. Gallech hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr prawf, chwilio am eich cyfleoedd gwirfoddoli eich hun ac ymuno â nhw er mwyn ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae’n gweithio. Ar ôl y dyddiad lansio, bydd y wefan ar gael ar www.volunteering-wales.net.
Gobeithiwn y bydd y system newydd o gymorth i chi wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a byddwn yn awyddus i glywed sut hwyl rydych yn ei chael arni, beth sy’n ddefnyddiol a gwnawn ein gorau i helpu gydag unrhyw anawsterau a gewch chi. Bydd y system a’n defnydd ohoni yn broses esblygol, heb os.