Yn y blog yma rydym yn manylu ar ein sesiynau ‘Safbwynt’ newydd sbon. Cynhelir y sgyrsiau byr hyn am y tro cyntaf yn gofod3 eleni, gan roi gwahanol safbwyntiau ar y pynciau sydd o bwys i’r trydydd sector yng Nghymru
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf i’r trydydd sector yng Nghymru. Yn y ddwy flynedd diwethaf mae wedi denu pobl o bob cwr o’r wlad – gan gynnig llwyth o sesiynau diddorol, man arddangos prysur a llu o gyfleoedd rhwydweithio. Mae gofod3 yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Mawrth 2019, os ydych yn ymwneud â’r trydydd sector peidiwch â methu’r digwyddiad am ddim hwn, y mwyaf o’i fath.
Eleni, rydym yn ehangu’r rhaglen i gynnwys Safbwynt – sy’n rhoi gwedd newydd i sgyrsiau TEDx, lle mae siaradwyr yn camu ymlaen ac yn traddodi darlith bocs sebon i ysgogi’r trydydd sector i feddwl.
Rydym wedi sicrhau cyfres o siaradwyr o fri o’r sector drwyddo draw (a’r tu hwnt) i siarad ar lwyfan gofod3. Gan ymdrin â themâu yn amrywio o wyddor ymddygiad i garedigrwydd, mae theatr gofod3 yn argoeli i fod yn ferw o drafodaethau diddorol drwy gydol y dydd ar 21 Mawrth.
Dyma bytiau bach i gyflwyno’r siaradwyr – mae llefydd yn brin felly brysiwch i gadw’ch sedd cyn iddynt lenwi!
Joe Saxton, Sylfaenydd a Sbardun Syniadau, nfpSynergy
@SaxtonJoe
‘A yw hi’n bryd i Gymru gael ei rheoleiddiwr elusennau ei hun? ‘
Yn agor trafodaethau’r dydd y mae Joe Saxton, sy’n ymchwilydd arbenigol yn y sector elusennol. Joe oedd un o gydsylfaenwyr CharityComms y corff proffesiynol i gyfathrebwyr yn y sector dielw, a bu’n gadeirydd arno hefyd, ac mae e’ bellach yn arwain y cwmni ymchwil nfpSynergy. Mae e’ wedi’i enwi yn un o’r bobl fwyaf dylanwadol ym maes cyfathrebu yn y sector gwirfoddol ac wedi ennill y wobr Cyfraniad Oes gan y Sefydliad Codi Arian.
Bydd sgwrs Joe yn trafod rheoleiddio elusennau yng Nghymru mewn perthynas â’r cenhedloedd datganoledig eraill, gan ddadlau y byddai cael ein rheoleiddiwr elusennau ein hunain yn ein galluogi i gamu ymlaen a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
‘Sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad yn y sector gwirfoddol?’
Nesaf ar y rhaglen y mae Clare Delargy, Uwch Gynghorydd yn nhîm Ymchwil y Tîm Deall Ymddygiad. Mae’r tîm yn cynhyrchu ac yn defnyddio gwybodaeth ynglŷn ag ymddygiad i lywio polisïau, gwella gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau canlyniadau i gymdeithas. Mae Clare yn canolbwyntio ar ddylunio, gweithredu a dadansoddi treialon ar draws meysydd polisi gwahanol.
Bydd sgwrs Safbwynt Clare yn cyflwyno cyfranogwyr i wyddor ymddygiad drwy waith y tîm deall ymddygiad gan gynnig syniadau ar gyfer ffyrdd posib o’i defnyddio yn y trydydd sector.
Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
@CerysFurlong
‘Ar dân dros degwch: arwain yn y trydydd sector’
A hithau’n Brif Weithredwr Chwarae Teg, mudiad sy’n hybu cydraddoldeb i fenywod, mae Cerys Furlong yn gosod cyfeiriad strategol yr elusen wrth anelu at wneud Cymru’n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhywiol.
Bydd Cerys yn sôn am ei phrofiad personol o arwain yn y trydydd sector, pwysigrwydd gosod amcanion heriol i ni’n hunain a’n mudiadau, arwain ag angerdd, a bod yn barod i fethu – ond cael hwyl ar hyd y ffordd.
Zoe Amar, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Zoe Amar Digital
@zoeamar
‘Dyfodol Digidol Elusennau’
Mae Zoe Amar yn ymwybodol iawn o effaith datblygiadau digidol ar elusennau. Hi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y fenter gymdeithasol Zoe Amar Digital, sy’n helpu elusennau a mudiadau dielw eraill i arwain newid yn hyderus, gan ddatblygu strategaethau sy’n hwb i’w cadernid, eu hincwm a’u dylanwad. Hi hefyd yw cadeirydd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau, cydawdur The Charity Digital Skills Report ac mae hi’n ysgrifennu blogiau i Third Sector ac eraill.
Yn ei sgwrs, bydd Zoe yn eich arwain drwy dueddiadau digidol allweddol i elusennau, sut i baratoi atynt ac yn bwysicaf oll sut i fynd ati nawr i ddiogelu’ch mudiad at y dyfodol.
Julia Unwin CBE
@juliaunwin
‘Caredigrwydd ac emosiynau – man dall polisi cyhoeddus’
Mae’n ffasiynol ar hyn o bryd i siarad am yr angen am fwy o garedigrwydd yn ein gwasanaethau, a galw ar bobl sy’n gweithio yn y rheng flaen i fod yn fwy caredig a dangos mwy o empathi. A hithau’n un o gymrodyr Ymddiriedolaeth Carnegie, cyhoeddodd Julia Unwin adroddiad yn ddiweddar yn codi cwestiynau allweddol ac yn amlygu ‘man dall’ – rôl caredigrwydd mewn polisi cyhoeddus, a sut y gallai datblygiadau technolegol yng nghymdeithas effeithio’n uniongyrchol ar hyn yn y dyfodol.
Julia yw cyn-Brif Weithredwr Sefydliad Joseph Rowntree, ac mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar faterion yn ymwneud â dyngarwch, llywodraethu, y sector gwirfoddol a’i berthynas â llywodraeth.
Yn ei sgwrs, bydd Julie yn cymharu’r ddwy iaith yr ydym yn eu defnyddio – y rhesymegol a’r perthynol – ac yn dadlau na fyddwn yn cyflawni’r newid yr ydym ei eisiau os nad ydym yn cydnabod yr emosiynau sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
Mrs Uzo Iwobi OBE, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Hil Cymru
@UzoIwobi
‘Rôl y trydydd sector yn herio hiliaeth’
I nodi 21 Mawrth sef Diwrnod y Cenhedloedd Unedig i Ddileu Gwahaniaethu ar Sail Hil byddwn yn clywed gan Mrs Uzo Iwobi OBE, un o ffigyrau mwyaf blaenllaw Cymru ym maes cydraddoldeb hiliol. Yn ei sgwrs, bydd Uzo yn tynnu ar ei phrofiad ei hun i amlygu sut y gallwn ni fel sector drechu hiliaeth.
Uzo yw Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru – corff trosfwaol strategol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, integreiddio a chyfiawnder hiliol yng Nghymru.
O amrywiaeth ymysg aelodau’r bwrdd a’r gweithlu i’r rhaniadau cynyddol yng nghymdeithas, bydd hi’n codi’r materion allweddol ynglŷn â hil y mae llawer ohonom yn cilio rhagddynt ac yn ein herio i ysgwyddo cyfrifoldeb dros drechu anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth yng Nghymru.
I gadw’ch lle yn gofod3, ac yn y sesiynau uchod, ewch ar wefan gofod3. Mae llefydd yn brin yn y sgyrsiau Safbwynt ac yn llenwi’n gyflym – ond ceir llwyth o ddigwyddiadau eraill i chi gadw lle ynddynt hefyd, yn ogystal â chyfle unigryw i rwydweithio a chyd-ddysgu ag eraill yn y trydydd sector. Cadwch eich tocynnau am ddim nawr.
Annibendod Brexit: y sefyllfaoedd gwaethaf posib a chreu gweledigaeth bositif
Yn sgil y datblygiadau diweddaraf yn Senedd San Steffan a Chiparolwg diweddar WCVA, mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector yn WCVA, yn edrych ar y rhagolygon i’r trydydd sector yng Nghymru.
Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn San Steffan ddydd Llun (14 Ionawr), disgrifiodd Tom Brake AS (Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd) lefel yr ansicrwydd fel annibendod sy’n ddigynsail yn ystod yr 20 mlynedd y mae ef wedi bod yn y Senedd.
Mae’r bleidlais i wrthod cytundeb y llywodraeth ddoe (15 Ionawr) yn ein gadael ni gyd yn dal i nofio mewn llif cyflym o ansicrwydd. (Mae podlediad y Fforwm yn trafod rhai o’r ffactorau hysbys ac anhysbys, a’r goblygiadau i’r sector).
Rôl WCVA yw deall y goblygiadau i’r sector, sicrhau bod lleisiau’r trydydd sector yn cael eu clywed, darparu gwybodaeth a helpu mudiadau i baratoi at bob posibilrwydd...
Rydym wedi canfod pryderon mawr ynghylch effaith negyddol Brexit Heb Gytundeb ar 29 Mawrth. Mae angen i ni fod yn glir y byddai hyn yn achosi canlyniadau difrifol, nid yn unig i fudiadau trydydd sector, ond yn bwysicach, y bobl a’r cymunedau maent yn gweithio gyda nhw. Gobeithiwn y bydd y neges hon yn cael ei chlywed yn y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod.
Heddiw rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein ciparolwg Brexit, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2018. Mae’n dilyn arolwg tebyg yn 2017 i gasglu barn pobl sy’n gweithio i fudiadau sy’n aelodau o WCVA. Mae’r canfyddiadau yn rhoi negeseuon cryf i ni.
Llai na 3% o ymatebwyr oedd yn credu mai Brexit ‘Heb Gytundeb’ fyddai’r canlyniad gorau yn y trafodaethau ar gyfer y bobl maent yn gweithio gyda nhw neu eu mudiadau. Dywedodd wyth o bob deg ymatebydd mai’r canlyniad gorau ganddynt yn y trafodaethau fyddai aros yn yr UE.
Ffigwr 1: ‘Pa ganlyniad fyddai orau gennych yn y trafodaethau Brexit?’
Mae wyth o bob deg ymatebydd yn credu y bydd Brexit yn cael effaith negyddol ar y cyfan ar Gymru ac mae tri chwarter yn credu y bydd Cymru yn waeth yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ar ôl gadael yr UE. Mae dros hanner yn meddwl y byddwn yn ‘llawer gwaeth’ yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ni ddywedodd yr un ymatebydd y byddai gadael yr UE yn cael effaith bositif iawn ar y trydydd sector.
Ffigwr 2: 'Pa mor dda ydych chi’n meddwl y bydd Cymru’n ei wneud ar ôl gadael yr UE?'
Y tri phwnc sy’n achosi’r pryder mwyaf i ymatebwyr yw economi Cymru, arian cyhoeddus a cholli grantiau a chymorthdaliadau. Mae hyn yn newid clir ers 2017, pan hawliau ac amddiffyniadau dynol, cymdeithasol ac amgylcheddol ddaeth i’r brig.
Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu y bydd Brexit yn effeithio’n negyddol ar eu gallu i gyflawni amcanion, darparu gwasanaethau, cael at grantiau, cynhyrchu incwm a dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth.
Mae Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit, sef cynghrair o elusennau, mudiadau gwirfoddol a mudiadau ymgyrchu ledled y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi ei phryderon ynghylch effaith Brexit Heb Gytundeb ar hawliau, safonau, llywodraethu a thryloywder wrth ddeddfu.
Mae’r ffaith mai Brexit Heb Gytundeb yw’r canlyniad cyfreithiol awtomatig yn niffyg dim arall yn peri pryder. Ond ceir materion y dylid eu hystyried ni waeth i ba gyfeiriad y mae’r trafodaethau yn mynd. Adlewyrchir y rhain yn nogfen y Fforwm sy’n nodi materion a gofynion allweddol y sector. Yn eu mysg y mae egwyddorion trawsbynciol megis datganoli a chraffu yn ogystal â phryderon penodol ynghylch cyllid, yr amgylchedd a lles anifeiliaid, hawliau dynol a chydraddoldeb a mudo a dinasyddion yr UE.
Ond mae hyn yn ehangach na dim ond yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan. Mae angen i fudiadau ystyried beth allai hyn ei olygu i’r bobl maent yn gweithio gyda nhw a’u mudiadau. Mae un o ddogfennau eraill y Fforwm, Paratoi at Brexit: canllawiau i fudiadau trydydd sector mawr a bach yng Nghymru, yn cynnig cymorth gyda hyn.
Yng nghanol yr annibendod presennol, mae angen i ni ddelio gyda’r sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd yn ogystal â throi ein sylw at y dyfodol. Pa fath o gymdeithas yr ydym am ei gweld yn y blynyddoedd nesaf? Mae’r dadleuon ynghylch Brexit wedi amlygu materion mawr y mae angen i ni edrych arnynt fel cymdeithas. Rydym wedi clywed bod cymunedau yn teimlo nad oes ganddynt rym na rheolaeth ac yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Rydym wedi gweld rhaniadau cynyddol ynglŷn â materion mawr ym mhob rhan o gymdeithas.
Mae nawr angen i ni ystyried sut y gallwn greu dyfodol positif i’n cymdeithas a’r hyn sydd ei angen i wireddu hynny. Mae gan elusennau a mudiadau gwirfoddol ran hanfodol i’w chwarae yn arwain ac yn siapio’r dadleuon hyn, gan gynorthwyo pobl a chymunedau ledled Cymru i gyfrannu atynt a dweud eu dweud.
Mae rhai o’r trafodaethau hyn wedi dechrau. Mae gwahanol fudiadau trydydd sector wedi bod yn edrych ar ba ddyfodol rydym am ei greu i’n plant a’n pobl ifanc a pha ddeddfau y gall y Cynulliad eu pasio i sicrhau hynny. Mae sgyrsiau tebyg yn cael eu cynnal ynglŷn â mudo a hawliau dynol. Yn Lloegr, mae sgyrsiau wedi’u sbarduno drwy ymchwiliad o’r enw Civil Society Futures. Bydd WCVA yn chwarae ei ran yn arwain y ddadl genedlaethol hon yng Nghymru.
Ciparolwg Brexit
Heddiw mae WCVA wedi cyhoeddi canlyniadau ein Ciparolwg Brexit, a gasglodd farn bersonol gweithwyr proffesiynol mewn mudiadau sy’n aelodau o WCVA. Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael yma.
Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit
Mae WCVA, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, wedi ffurfio prosiect i helpu'r trydydd sector i ymwneud yn well â'r ddadl ynglŷn â Brexit ac i ddylanwadu arni.
Yn y blog yma, mae Simon Dowling o WCVA yn rhoi syniadau moesegol i chi wrth siopa i’ch anwyliaid dros gyfnod yr Ŵyl.
Mae’r Nadolig ar ddod ac efallai fod y rheini sydd, fel fi, yn gadael pethau tan y munud olaf yn dal i chwilio am yr anrheg berffaith i’w hanwyliaid. Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o effaith plastig ar yr amgylchedd, ac yn wir ein diwylliant ‘taflu i ffwrdd’, gall siopa Nadolig deimlo weithiau fel pe bai’n gwneud mwy o niwed na daioni.
Y llynedd fe es i ati’n fwriadol i geisio prynu o leiaf rhai anrhegion o lefydd sy’n rhoi’n ôl i gymdeithas. Os hoffech chithau gefnogi pobl sy’n gwneud pethau gwerth chweil dros ein cymunedau yna dyma restr o anrhegion Nadolig o Gymru â chydwybod gymdeithasol i’ch cynorthwyo!
Dydw i ddim yn dweud na fydd yna ddim deunydd pacio nac y byddwn yn datrys problemau’r byd dros nos, ond os ydych am brynu pentwr mawr o anrhegion eleni beth am gefnogi’r rheini sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth tra ydych wrthi? Os nad dim arall, gallaf eich sicrhau y bydd yn gwneud i chi deimlo’n gynnes tu mewn wrth herio’r tywydd mawr y gaeaf hwn...
Anrhegion Nadolig o Gymru â chydwybod gymdeithasol
Anrhegion tymhorol gan Vision 21
Menter gymdeithasol yw Vision 21 sy’n cynnig ‘cyfleoedd hyfforddiant realistig yn y gweithle i bobl ag anghenion dysgu’. Caiff holl gynhyrchion Vision 21 eu gwneud gyda chyfraniad llawn hyfforddeion ac mae’r elw i gyd yn mynd yn syth yn ôl i’r elusen.
Yn ogystal ag anrhegion tymhorol mae Vision 21 hefyd yn gwerthu cynhyrchion pren, crochenwaith a chardiau, yn ogystal â phlanhigion, perlysiau a llysiau. Mae siop Vision Made ar Heol Albany yng Nghaerdydd, ac ewch ar wefan Vision 21 i gael gwybod mwy am eu cynhyrchion eraill.
Pecyn gwau’ch het eich hun
Ar ôl llwyddiant ysgubol yr ymgyrch ‘One Knit Wonder’ yn 2017, mae’r elusen o Gymru The Wallich yn cydweithio unwaith eto â John Lewis i fynd i’r afael â digartrefedd i’w atal rhag ‘gwau-thygu’!
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i wau het ac mae’n cynnwys lliwiau newydd megis mwstard a gwyrddlas. Mae’r pecyn ar gael am £13.50, yn John Lewis & Partners yng Nghaerdydd am gyfnod penodol yn unig, a bydd yr holl elw o One Knit Wonder yn mynd i The Wallich i helpu pobl sy’n cysgu allan ledled Cymru.
Ar ôl gorffen eich het, cewch ddewis ei gwisgo eich hun, ei rhoi’n anrheg neu fynd allan a’i rhoi i rywun mewn angen. Ewch i siop John Lewis yng Nghaerdydd i gael gwybod mwy neu ewch i https://thewallich.com/oneknitwonder/.
Cynhyrchion ‘molchi moethus o Gymru
Menter gymdeithasol o Gymru yw Good Wash sy’n rhoi ei helw i brosiectau lleol sy’n gwella bywydau anifeiliaid a phobl. Mae gan wefan Good Wash lawer o gynhyrchion ‘molchi moethus o’r radd flaenaf (gan gynnwys ‘Woof wash’ i’ch ci!) sydd wedi’u gwneud o’r cynhyrchion naturiol gorau posib sy’n rhydd rhag creulondeb.
Mae elw Good Wash yn cynorthwyo elusennau, grwpiau neu unigolion i gynnal prosiectau sy’n gwneud pethau fel; cynorthwyo’r digartref i ddod o hyd i gartref, a gwella eu rhagolygon bywyd; cynorthwyo’r rheini sy’n wynebu tlodi neu allgáu cymdeithasol i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli; gwella lles anifeiliaid; darparu atebion iechyd a llesiant arloesol, sydd ar gael i bawb; hyrwyddo hylendid, a rhoi mynediad at ddŵr glân a glanweithdra; a gwarchod a hybu bywyd ar y tir ac yn y môr.
Mae cynhyrchion Good Wash ar gael mewn sawl siop ac arlein.
Canhwyllau o waith llaw gan Beacons Creative
Mae Beacons Creative yn gwmni cymdeithasol unigryw sy’n cynhyrchu canhwyllau a chynhyrchion cysylltiedig wrth roi cyfleoedd gwaith i bobl ag anawsterau dysgu a’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur.
Mae’r fenter gymdeithasol ym Mannau Brycheiniog yn gwerthu llu o gynhyrchion cwyr megis canhwyllau hyfryd a thanwyr moch coed moethus, ac mae’n defnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu pryd bynnag bosib. Ewch ar wefan Beacons Creative i gael gwybod mwy.
Crysau-t a hwdis wedi’u dylunio a’u cynhyrchu’n lleol
Menter gymdeithasol ddielw yw Antur 'Stiniog a sefydlwyd yn 2007 i ‘ddatblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog’ mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol. Mae’r crysau-t a’r hwdis a wneir yn lleol yn arbennig o dda i feicwyr brwd ac mae’r elw yn cefnogi’r llwybrau beicio mynydd a’r cynllun llogi beic yn Eryri.
Gallwch brynu cynhyrchion Antur ‘Stiniog yn y siop, y ganolfan wybodaeth, y tŷ coffi a’r oriel gelf yng nghanol Blaenau Ffestiniog, neu arlein ar: https://antur-stiniog.myshopify.com/
Rhowch ymweliad â ‘Rhyfeddod Cymru’ yn anrheg i rywun
Elusen yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi’i hymrwymo i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad ymwelwyr.
Dyma’r ardd sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru ac mae llwyth o bethau i’w gweld a’u gwneud y tu hwnt i’r gerddi bendigedig gan gynnwys gweithgareddau amrywiol a’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig.
Cynhyrchion ‘molchi ac anrhegion moethus gan Myddfai Trading Co
Menter gymdeithasol yw Myddfai Trading Company Limited sy’n darparu cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned leol yn Sir Gâr. Mae eu cynhyrchion ‘arloesol, ecogyfeillgar a gwreiddiol’ yn cynnwys persawr cartref, sebon, jel cawod, siampŵ a sebon llyfnu, hylif golchi dwylo, hylif golchi’r corff, bomiau bath a chynhyrchion sba, sydd hefyd ar gael mewn setiau anrheg.
Defnyddir yr elw o’r siop arlein a masnach i adfywio cefn gwlad yn lleol gan gynnwys gweithio’n agos gyda Phrosiect yr Arfordir a Choleg Elidyr yn Rhandirmwyn i roi profiad gwaith i oedolion ag anawsterau dysgu.
Pwy ydym wedi’i anghofio? Yn gwybod am anrhegion â chydwybod gymdeithasol o Gymru sydd ddim ar y rhestr? Rhowch wybod i ni drwy ebostio [email protected].
Ydych chi’n rhan o fenter gymdeithasol? Mae WCVA yn ariannu Mentrau Cymdeithasol drwy dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, cysylltwch i gael gwybod mwy.
Bydd Llywodraeth Agored yn helpu i gyflawni ein Nodau Llesiant
Blog gan Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth yn WCVA, ynglŷn â’i phrofiad o’r Uwchgynhadledd Llywodraeth Agored yn Tbilisi, Georgia, a sut y gallai egwyddorion Llywodraeth Agored helpu Cymru i gyflawni ei Nodau Llesiant o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
[uchod: sesiwn ar ‘Cyllidebu Cyfranogol: Rhwystrau a Thrafodion’ c-d: Kristina Reinaslu, José Manuel Ribeiro, Miguel Arana Catania, Dmytro Khutkyy, Liia Hänni]
Mae’n teimlo fel pe bai’r heriau sy’n wynebu cymdeithas yn cynyddu bob dydd. Gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwegian dan y pwysau, plastig yn gwenwyno’r moroedd, neu delio gyda Brexit, gall y cwbl deimlo’n ormod. Mae’r Nodau Llesiant o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod amcanion i ni weithio tuag atynt gyda’n gilydd i sicrhau cymdeithas well, ond yr hyn sy’n llai eglur yw sut am fynd o yma i fanno.
Mae’r Bartneriaeth Llywodraeth Agored (OGP) yn darparu casgliad o offer ymarferol i’n helpu i sefydlu systemau, cysylltiadau a diwylliant newydd a all helpu i gyflawni’r Nodau Llesiant. Mae hefyd yn darparu rhwydwaith bywiog o unigolion, llywodraethau, mudiadau cymdeithas sifil, academyddion, newyddiadurwyr a seneddau, sydd i gyd yn mynd i’r afael â materion tebyg o amgylch y byd. Mae’n gyfle i rannu, dysgu a meincnodi ein llwyddiannau.
Felly beth yw Llywodraeth Agored?
Mae Llywodraeth Agored yn golygu gwneud llywodraethau’n fwy agored er mwyn cefnogi mwy o dryloywder, atebolrwydd a chyfranogi.
Mae pobl wedi bod yn defnyddio’r egwyddorion hyn i greu newid ar draws y sbectrwm o weithgareddau lle mae llywodraethau yn cyffwrdd â’n bywydau. Mae hyn yn amrywio o gyd-greu gwasanaethau cyhoeddus a chynnwys dinasyddion wrth osod cyllidebau cyhoeddus, i ddatrysiadau digidol dan arweiniad cymdeithas sifil er lles y cyhoedd. Mae newid yn cael ei roi ar waith drwy gontractio’n agored, llunio polisïau’n agored a data agored. Canolbwyntir fwyfwy ar lywodraeth leol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod mwy yn cyfranogi mewn seneddau ac i fynnu bod gwleidyddion yn atebol yn fwy cyffredinol.
Roedd Uwchgynhadledd Fyd-eang OGP (#OGPGeorgia) yn gyfle i ystyried sut hwyl rydym yn ei chael arni yng Nghymru (ac i weld pa syniadau y gallem eu bachu o wledydd eraill!)
Gwersi allweddol o #OGPGeorgia
Mewn rhai meysydd, rydym ar y blaen. Nid oes gan lawer o wledydd fecanweithiau ar gyfer deialog gynhwysol rhwng y llywodraeth a’r trydydd sector. Yng Nghymru, cyflwynwyd y rhain yr un pryd â datganoli ac fe’u hamlinellir yng Nghynllun y Trydydd Sector. Ond hyd yn oed yma, wrth edrych ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud nawr, sylweddolais fod angen adfywio rhai rhannau o’n modelau presennol.
Mae angen i ni ailddatgan pam maent yn bwysig, adfer yr ymrwymiad gwleidyddol, ailganolbwyntio fel y byddant yn arwain at newid go iawn ac ystyried a allwn fanteisio ar offer digidol newydd i fod yn fwy cynhwysol ac yn wirioneddol gyfranogol. Mae rhannu syniadau ac offer drwy’r Bartneriaeth Llywodraeth Agored yn ddechrau da.
Rhannu gwybodaeth
Mae dwy ddeddfwriaeth ddiweddar yng Nghymru yn cefnogi cyd-greu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ill dwy’n rhoi dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i gynnwys dinasyddion a chyd-greu gwasanaethau. Ond mae’n llai eglur a yw hyn yn digwydd yn ymarferol eto (gweler blog diweddar gan Sally Rees o WCVA ynglŷn â hyn).
Mae cyfle i wella’r hyn rydym yn ei wneud drwy rannu ag eraill sy’n mynd i’r afael â’r un materion mewn llefydd eraill. Dyma rai enghreifftiau
e-lywodraethu yn Estonia
profiadau o brosiect States of Change Nesta;
y canolfannau cymunedol sy’n cynnig pwyntiau lluosog i ddarparu gwasanaethau, rhywbeth a ddeilliodd o broses cydgynhyrchu polisi yn Georgia;
a thrafodaethau ynglŷn â sut y gallai Deallusrwydd Artiffisial helpu i wireddu hyn, gyda Sophia y Robot Dynolffurf.
Mae cyllidebu cyfranogol hefyd wedi’i gyflwyno gyda llwyddiannau a methiannau y gallwn ddysgu ohonynt mewn sawl gwlad yn y Bartneriaeth Llywodraeth Agored. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi prawf ar Gyllidebu Cyfranogol ac eisoes yn tynnu ar dystiolaeth o lefydd eraill.
Mae’r rhwydwaith yn cynnig cyfle i drafod gwersi a phrofiadau ymarferol o wahanol fathau o ddulliau gweithredu sy’n cael eu rhoi ar waith heddiw. Clywsom am yr hyn a weithiodd i Gyngor Dinas Madrid, yn Tartu yn Estonia ac ar lefel leol a chenedlaethol ym Mhortiwgal. Dengys yr enghreifftiau hyn i gyd nad yw rhoi hyn yn ei le yn hawdd, ond mae’n bosib a gall gyflawni canlyniadau rhagorol i bobl.
Nawr yw’r amser…
Wrth i Lywodraeth Cymru lunio ei hail Gynllun Gweithredu Llywodraeth Agored, mae angen i ni gymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â hyn yng Nghymru. Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru wedi bod yn annog ac yn hwyluso mudiadau trydydd sector i gyfrannu at hyn am y tro cyntaf. Mae’r Gymdeithas wedi defnyddio platfform digidol i gasglu syniadau a fydd yn sail i faniffesto cymdeithas sifil ar gyfer llywodraeth agored.
Os hoffech fod yn rhan o ymdrechion i adfywio tryloywder, atebolrwydd a chyfranogi – sydd i gyd yn hanfodol i sicrhau’r gymdeithas well a ragwelir yn ein Nodau Llesiant – ymunwch â Fforwm Llywodraeth Agored Cymru heddiw a chyfrannwch.
Mae WCVA yn rhan o brosiect Arloeswyr Llywodraeth Agored, a arweinir gan SCVO ac a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Rhoddir y prosiect ar waith yng Nghymru ar y cyd â’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol a Cynnal Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â phrosiect Arloeswyr Llywodraeth Agored yng Nghymru ar gael yma a gallwch ymuno â Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru yma.
Yn y blog yma, mae Menai Owen-Jones, un o Ymddiriedolwyr ACEVO a Phrif Swyddog Gweithredol The Pituitary Foundation, yn sôn am rai o’r heriau sy’n wynebu arweinwyr y trydydd sector heddiw, a syniadau i arwain mudiadau drwy’r heriau i ddod.
Un o’r prif bynciau sy’n wynebu arweinwyr cymdeithas sifil heddiw yw newid. Ac yn bwysicach, cyflymder y newid hwnnw.
Rydym yn byw mewn oes sy’n cael ei diffinio gan ei natur gyfnewidiol ac ansicr yn ogystal â’i chymhlethdod a’i hamwysedd.
Nawr, tra mae hyn yn rhoi sawl her i arweinwyr cymdeithas sifil, ni allwn anwybyddu’r cyfleoedd newydd sy’n eu cynnig eu hunain oherwydd ein hamgylchedd presennol.
Ac er mwyn i gymdeithas sifil nid yn unig oroesi, ond ffynnu, ynghanol y newidiadau hyn, mae angen i ni arwain mewn ffordd wahanol i’r ffordd rydym wedi arwain o’r blaen.
Beth yw rhai o’r heriau ariannol, gwleidyddol a rheoleiddiol sy’n wynebu arweinwyr cymdeithas sifil?
Yn yr oes hon o newid, mae yna lawer iawn o ffactorau allanol sy’n creu heriau anrhagweladwy, cymhleth ac ansicr, ac mae’r ffactorau hyn ar gynnydd.
Gall yr heriau hyn ddeillio o’r canlynol:
Ansicrwydd gwleidyddol
Mae’r ansicrwydd sy’n parhau ynghylch Brexit a’i effaith ar ein heconomi yn debygol iawn o gael effaith fawr ar y cyllid sydd ar gael i lawer o fudiadau cymdeithas sifil; gan gynnwys y rheini yng Nghymru.
Bydd y rheini sydd wedi dibynnu’n helaeth ar gyllid yr UE yn ceisio amrywio eu ffrydiau incwm i ddisodli’r golled bosib mewn arian. O ganlyniad, mae’r amgylchedd cyllido’n mynd yn gynyddol gystadleuol, a all olygu bod mudiadau’n rhoi blaenoriaeth i godi arian ac yn canolbwyntio ar godi arian.
Newid economaidd
Mae llawer o fudiadau wedi gweld galw cynyddol am wasanaethau, ac yn rhagweld y bydd yn parhau i gynyddu. Mae hyn, ynghyd â diffyg cynnydd yn eu hincwm neu ostyngiad yn eu hincwm, wedi effeithio’n niweidiol ar arian wrth gefn elusennau.
Bydd llai o arian wrth gefn yn gorfodi elusennau i benderfynu p’un ai i leihau eu gwasanaethau presennol neu ohirio buddsoddi yn eu strategaethau mwy hirdymor eu hunain. Gallai’r ddau gael effaith niweidiol ar ddyfodol ein sector yn wyneb y galw cynyddol a roddir arnom.
Newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y deddfwriaethau, rheoliadau, codau ymarfer a safonau cydymffurfio yn y sector drwyddo draw. Mae gennym bellach Reoleiddiwr Codi Arian newydd, sawl Gweinidog newydd a newid wrth y llyw yn y Comisiwn Elusennau. Mae mwy o ofynion llywodraethu yn golygu mwy o gostau, a daw hyn ar adeg pan fo gan lawer o fudiadau lai o adnoddau ac arian, gan greu her gymhleth.
Mae elusennau bychain yn enwedig wedi ei chael yn anodd mynd i’r afael â’r rheoliadau GDPR cymhleth er enghraifft; o ran deall yn union beth mae angen iddynt ei wneud, yn ogystal â meddu ar yr adnoddau i weithredu’r rheoliadau hyn yn eu helusennau. Fel arfer, mae mudiadau eisiau cydymffurfio ond mae’n her iddynt ddeall sut i gydymffurfio a ble i ddechrau, pan fo llwyth o alwadau a blaenoriaethau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Modelau cyllido gwahanol
Mae nifer y grantiau elusennol sydd ar gael yn lleihau ac mae’n mynd yn fwy cyffredin i’r rheini sy’n weddill fod â fframweithiau canlyniadau ynghlwm wrthynt, gan eu gwneud bron â bod yr un fath â chontractau mewn llawer o achosion.
Gall contractau eu hunain ymddangos yn ddeniadol ond yn aml mae ganddynt amserlenni tymor byr, ychydig iawn o gyd-ddylunio a defnydd gwael o daliadau yn ôl canlyniadau.
Sut mae heriau technoleg, pobl a ffydd y cyhoedd wedi cynyddu?
Mae yna rai heriau, megis Brexit, nad oes gennym lawer o reolaeth neu ddim rheolaeth o gwbl dros eu heffaith, ond mae yna sawl her y gallwn ddewis eu croesawu fel sector gyda’n gilydd, neu o fewn ein mudiadau unigol, drwy ddiwylliant, arloesedd a’n perthynas â’r cyhoedd.
Gall yr heriau hyn gynnwys:
Technoleg
Bydd dyfeisiadau newydd megis cadwyn bloc, deallusrwydd artiffisial a roboteg yn cael effaith ddofn ar ein cymdeithas, ein mudiadau a’n gweithlu, mewn ffyrdd nad ydym hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt eto.
Gall llawer o fudiadau wrthod rhai o’r newidiadau technolegol hyn am y tro, a bydd llawer yn gwneud hynny, am sawl rheswm megis: diffyg arian; diffyg sgiliau; diffyg amser. Serch hynny, wrth i gymdeithas ddatblygu a derbyn y datblygiadau hyn, bydd y rheini nad ydynt yn croesawu’r newidiadau hyn nawr, neu nad ydynt yn cynllunio atynt, yn cael eu gadael ar ôl.
Pobl
Recriwtio staff a dal gafael arnynt yw un o’r materion sy’n peri’r pryder mwyaf i ni.
Er nad yw hon yn her unigryw i gymdeithas sifil, mae ein ‘pwynt gwerthu unigryw’ blaenorol lle’r oedd ymroddiad i’r achos yn gallu gwneud iawn am gyflogau is, bellach yn cael ei erydu gan ymddangosiad busnesau a arweinir gan bwrpas a chenhedlaeth sy’n gynyddol agnostig tuag at y sector. Mae hyn wrth gwrs yn effeithio ar wirfoddoli hefyd, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
Ffydd a hyder y cyhoedd yn amrywio
Rydym yn gweithredu mewn amgylchedd lle mae ffydd y cyhoedd yn amrywio. Mae achosion gofidus diweddar ynglŷn â chodi arian a llywodraethu wedi cael effaith niweidiol ar farn pobl o elusennau.
Mae newid cymdeithasol amlwg wedi bod yn y ffordd y mae’r cyhoedd yn ystyried “sefydliadau”; o’r blaen roedd ymddiriedaeth yn cael ei chymryd yn ganiataol.
A oes cyfleoedd o’n blaenau?
Gall yr oes hon o newid ymddangos fel pe bai’n rhoi mwy o heriau i arweinwyr nag erioed o’r blaen.
Serch hynny, nid yw pethau’n ddrwg i gyd. Yn wyneb cymhlethdod ac ansicrwydd o’r fath, mae yna sawl cyfle cyffrous y gall arweinwyr cymdeithas sifil ddechrau eu hystyried o ganlyniad.
Ymysg y rhain y mae:
Pwyslais o’r newydd ar ffocws
Mae llai o adnoddau yn golygu bod angen i ni ganolbwyntio’n fwy nag erioed ar y gweithgareddau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac sy’n cael yr effaith fwyaf.
Mae llai o adnoddau hefyd yn golygu angen cynyddol i gydweithio, amrywio a dod o hyd i ddulliau blaengar newydd.
Pwyslais o’r newydd ar yr ardal leol
Wrth i’r wladwriaeth encilio o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, mae’n ymddangos yn debygol y bydd pobl yn troi at y gwasanaethau lleol o’u cwmpas i gael y cymorth mae arnynt ei angen.
Hefyd, mewn byd mawr sy’n cael ei globaleiddio, mae angen cynyddol ar bobl i deimlo bod ganddynt wreiddiau yn eu cymuned leol.
Mae cyfle yma hefyd i elusennau lleol bwysleisio eu gwreiddiau a’u perthnasedd lleol ym mroydd eu cefnogwyr. Mae rhoi lle amlwg i’r Gymraeg a chefnogi diwylliant Cymru yn gyfle arall i fudiadau sydd ar waith yma.
Cyfle i fanteisio ar dechnoleg
Mae modd defnyddio technoleg i arwain ffyrdd mwy holistaidd o wasanaethu buddiolwyr. Gall fod yn gosteffeithiol a helpu gwasanaethau’ch elusen i fod yn fwy hygyrch i wahanol gynulleidfaoedd a chenedlaethau. Yn ogystal â chymryd drosodd llawer o’r agweddau di-wobr ar waith, gall technoleg roi mwy o amser i bobl ar gyfer gweithgareddau creadigol a rhyngbersonol.
Y cyfle i ddarparu “gwrthgyffur” i dechnoleg
Un ymateb i dechnoleg sy’n datblygu’n gyflym yw mwy o duedd i werthfawrogi rhywbeth symlach – rhywbeth sy’n teimlo’n lleol, yn analog, neu’n ddynol.
Gall elusennau gynnig ‘lle i enaid gael llonydd’ er mwyn i bobl gofio’r ddynoliaeth rydym yn ei rhannu a gweithredu arni – gyda’u ffonau wedi’u diffodd.
Wyth syniad i ni arwain ein mudiadau drwy’r oes hon o newid cymhleth
Croesawu amrywiaeth a chydraddoldeb, ac arweinyddiaeth sy’n cael ei llywio gan werthoedd. Gyrrwch yr agenda ar gyfer newid yn ei blaen.
Hybu datrysiadau digidol ar lefel arweinwyr a’r Bwrdd, ac integreiddio technoleg ddigidol yn eich mudiad drwyddo draw.
Mae llywodraethu yn sicr o dan y chwyddwydr ar hyn o bryd ac mae llywodraethu da wrth wraidd unrhyw fudiad effeithiol.
Cynhyrchu strategaethau ymatebol: profwch, addaswch a dysgwch. Symudwch i ffwrdd oddi wrth fodelau strategaethau traddodiadol.
Parhau i edrych tuag allan a gwrthsefyll y dyhead i droi’n fewnblyg, ni waeth pa mor heriol y gall pethau fod ar adegau.
Rhaid bod yn hyblyg ac yn agored. Dylid croesawu newid a newid o’r naill genhedlaeth i’r llall e.e. cenhedlaeth y mileniwm, cenhedlaeth Z.
Helpu i newid canfyddiadau. Dylai’r sector ailystyried costau craidd fel buddsoddiad hirdymor sy’n hwyluso arloesi a datblygu.
Buddsoddi ynoch chi’ch hun fel arweinydd, ac yn eich timau, i feithrin cydnerthedd.
Sut y gall ACEVO helpu arweinwyr cymdeithas sifil i arwain yn llwyddiannus yn yr oes hon o newid?
Mae angen i arweinwyr cymdeithas sifil arwain mewn ffordd wahanol i sicrhau y gallwn ddelio gyda beth bynnag sy’n cael ei daflu atom. Mae gennym rinweddau sy’n ein rhoi ar y blaen wrth addasu i’r galwadau newydd hyn – hyblygrwydd, cydnerthedd, angerdd ac ymroddiad.
I aros ynddi mewn amgylchedd sy’n newid drwy’r amser, rhaid i arweinwyr cymdeithas sifil ddatblygu a dysgu sgiliau newydd yn barhaus, helpu eraill i dyfu a newid eu hymddygiad. Gall ACEVO eich helpu. Mae’n elusen ei hun ac mae ACEVO yn buddsoddi yn arweinwyr cymdeithas sifil – boed hynny drwy annog arweinwyr i’w cefnogi ei gilydd a rhannu arfer da, drwy gynnig cyfleoedd i ddatblygu’ch arweinyddiaeth, neu drwy atgyfnerthu iechyd meddwl a chydnerthedd arweinwyr. Mae arweinyddiaeth dda mewn cyfnod cythryblus yn dibynnu ar eich perthynas ag eraill, cysylltiadau, diffuantrwydd, twf, ymroddiad, dibynadwyedd a’r dyhead i wella; mae’n deillio o’r pen yn ogystal ag o’r galon.
Does dim llawer y gallwn ei wneud ynglŷn â natur gyfnewidiol, ansicrwydd, cymhlethdod nag amwysedd y byd sydd ohoni – ond drwy arwain yn wahanol, arwain yn ddigidol ac arwain i gael mwy o effaith, gallwn fod yn barod amdani.
Diben ACEVO yw helpu arweinwyr cymdeithas sifil i wneud y gwahaniaeth mwyaf posib. Mae’n ysbrydoli ac yn cefnogi rhwydwaith o dros 1,000 o arweinwyr yng Nghymru a ledled Prydain, gan ddarparu cysylltiadau, eiriolaeth a sgiliau gwerthfawr iddynt. I gael gwybod mwy ewch i www.acevo.org.uk
Mae WCVA wedi ailagor Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ddiweddar. Nod y Bwrsari yw helpu arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd. Ewch ar y wefan i gael gwybod sut i ymgeisio.
Mae’r cwrs hyfforddi Arweinyddiaeth Trydydd Sector ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystyried pa fath o arweinyddiaeth sydd ei angen wedi Brexit yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cynhelir y cwrs ym mis Medi a mis Hydref – cadwch eich lle ar wefan WCVA.
Yma mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, yn cynnig cyngor i wirfoddolwyr ar sut i gael y gorau o wefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a lansiwyd ar 8 Mehefin.
Mae ein gwefan gwirfoddoli newydd sbon, a lansiwyd wythnos diwethaf, yn ei gwneud yn hawdd i wirfoddolwyr chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, ymuno â nhw a chadw cofnod o’u profiadau.
Mewn blogiau blaenorol canolbwyntiais ar sut y gall mudiadau ddechrau arni a chreu cyfleoedd ar y wefan newydd ac ar nodweddion eraill a all eu helpu i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Mae cyfleoedd newydd yn cael eu rhoi ar y wefan bob dydd. Nawr mae’n bryd troi ein sylw at wirfoddolwyr, neu ddarpar wirfoddolwyr, a sut y gallwch chi ddefnyddio’r wefan.
Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
Yn gyntaf, ewch i’r wefan
www.gwirfoddolicymru.net
Gallwch ddechrau chwilio ar unwaith gan ddefnyddio allweddeiriau – gweithgaredd efallai, neu enw mudiad.
Dangosir canlyniadau yn ôl eu pellter ohonoch chi. Bydd unrhyw ddigwyddiadau untro perthnasol yn ymddangos ar frig y rhestr. Os yw’r rhestr yn rhy hir, ceisiwch gulhau’r chwiliad drwy roi allweddeiriau ychwanegol yn y chwiliad.
I gael gwybod mwy am y cyfleoedd sy’n ymddangos yn eich rhestr ganlyniadau, gofynnir i chi gofrestru, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd. Mae angen cyfeiriad ebost arnoch a gofynnir i chi greu cyfrinair.
Ar gyfer rhai cyfleoedd gwirfoddoli, gallwch ymuno’n syth â’r cyfle ar sail y cyntaf i’r felin, heb broses ymgeisio na phroses ddethol. Mewn achosion o’r fath gwahoddir i chi ‘Ymuno’. Anfonir cadarnhad atoch a disgwylir i chi fod yn y man priodol ar yr amser a nodir gan y mudiad.
Mae proses ymgeisio ynghlwm wrth gyfleoedd eraill – megis sgwrs gychwynnol, ffurflen gais ac mewn rhai achosion hyfforddiant cychwynnol neu wiriadau DBS cyn y gellir cadarnhau’ch lleoliad gwirfoddoli.
Yn yr achosion hyn gofynnir i chi ‘Ymgeisio’ a dilyn y camau angenrheidiol. Mae’n bosib y bydd modd i chi lawrlwytho dogfennau perthnasol, megis ffurflen gais, o’r wefan. Fe welwch fanylion cyswllt y mudiad (a elwir yn ‘Ddarparwyr’ ar y wefan hon), fel y gallwch gysylltu â nhw os hoffech gael gwybod mwy cyn ymgeisio.
Gweld holl gyfleoedd mudiad
Ar ôl dod o hyd i gyfle gwirfoddoli efallai y byddwch am gael gwybod beth arall y mae’r mudiad dan sylw yn ei gynnig. Cliciwch ar enw’r mudiad i weld ei dudalen Darparwr, a fydd yn cynnwys manylion y mudiad a rhestr o’r holl gyfleoedd gwirfoddoli y mae’n eu hysbysebu ar y wefan.
Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog a gallwch chwilio yn Gymraeg neu’n Saesneg – ond cofiwch fod eich chwiliad wedi’i seilio ar allweddeiriau sy’n ymddangos yn y disgrifiad o’r cyfle a roddwyd ar y wefan gan y mudiad.
Tra’r ydym yn annog disgrifiadau dwyieithog yn gryf, ni allwn orfodi hyn. Rydym yn annog mudiadau i ddefnyddio’r tag ‘Cymraeg’ i ddynodi cyfleoedd lle gallwch ddisgwyl gallu siarad Cymraeg, felly rhowch ‘Cymraeg’ yn y peiriant chwilio i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg.
Cymorth i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir
Os hoffech gymorth personol i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli addas bydd cyfle i chi ddweud hynny wrth gofrestru ar y wefan. Bydd eich canolfan wirfoddoli leol wedyn yn cysylltu â chi gan gynnig cymorth neu gyngor drwy ebost, dros y ffôn neu drwy drefnu cyfweliad wyneb yn wyneb.
Eich proffil arlein
Fel arall, gallwch ddechrau arni drwy glicio ar y botwm ‘Rhoi Cynnig ar Wirfoddoli’ ar y dudalen gartref i gofrestru fel gwirfoddolwr newydd ar y wefan a dechrau creu’ch proffil arlein.
Ar dudalen eich proffil gallwch gadw cofnod o ba sesiynau gwirfoddoli rydych wedi ymrwymo iddyn nhw, a faint o oriau o wirfoddoli rydych wedi’u gwneud. Byddwch yn cael bathodynnau gwirfoddoli digidol pan fyddwch yn cofnodi 50, 100, 200, 500 neu 1000 awr. Mae cofnodi oriau yn hawdd – bydd y wefan yn eich atgoffa pan rydych yn debygol o fod ag oriau i’w cofnodi. Os lawrlwythwch ap Teamkinetic o siop apiau Google neu Apple yna gallwch wneud hyn ar eich ffôn ble bynnag ydych chi.
Mae angen i’r mudiad rydych yn gwirfoddoli iddo gadarnhau’r oriau rydych yn eu cofnodi cyn iddynt gyfrif tuag at eich bathodynnau digidol – felly atgoffwch nhw’n garedig os nad ydynt yn gwneud hyn!
Gallwch lanlwytho manylion cymwysterau a hyfforddiant rydych wedi’u gwneud, gan gynnwys tystysgrifau, i dudalen eich proffil. Dim ond mudiadau sy’n gyfrifol am gyfleoedd gwirfoddoli yr ydych yn ymuno â nhw a all weld y wybodaeth yn eich proffil.
Gallwch adael adborth ar eich cyfleoedd gwirfoddoli, i roi gwybod i eraill sut hwyl cawsoch arni.
Gallwch gysylltu’ch proffil â’ch cyfrif Facebook neu Twitter ac yna gallwch bostio’n awtomatig pan fyddwch yn ymuno â chyfle newydd neu’n cofnodi oriau gwirfoddoli. Fel hyn gallwch roi’r diweddaraf i’ch ffrindiau ynglŷn â’r hyn rydych yn ei wneud.
Os ydych eisoes yn gwirfoddoli, efallai y bydd y mudiad rydych yn ei gefnogi yn eich annog i gofrestru ar y wefan newydd fel y gallant ei ddefnyddio i drefnu rotas, cyfathrebu â gwirfoddolwyr, rhoi a derbyn adborth ac olrhain oriau gwirfoddolwyr.
Mwynhewch!
Sut bynnag rydych yn defnyddio nodweddion newydd y wefan newydd hon, y peth pwysicaf yw’ch bod yn dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gwerth chweil a’ch bod yn mwynhau’r profiad.
Os hoffech unrhyw gymorth wrth ddefnyddio’r wefan, neu os yw’n well gennych siarad â rhywun i ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli rydych yn chwilio amdano, mae croeso i chi gysylltu â’ch canolfan wirfoddoli.