seen from United States

seen from T1

seen from T1
seen from United States

seen from T1
seen from China
seen from T1
seen from China

seen from T1

seen from T1

seen from Australia

seen from T1

seen from United States
seen from T1

seen from South Africa

seen from Norway
seen from Hong Kong SAR China
seen from China

seen from Australia
seen from United Kingdom
Message of support for Plaid Cymru - The Party of Wales before the European election tomorrow (22 May 2014).
Neges o gefnogaeth i Blaid Cymru cyn yr etholiad Ewropeaidd yfory (22 Mai 2014)
Mae 'da chi lais - defnyddiwch e
Mae’n fy ngwylltio i fod cynifer o bobl yn trin yr etholiad Ewropeaidd sy’n digwydd yr wythnos hon fel refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Mae statws y DG fel Aelod-Wladwriaeth yr UE yn fater am sgwrs arall ac oes, mae yna lu o bethau i’w trafod ynghylch yr UE ac unrhyw refferendwm y’i gynhelir ar aelodaeth y DG ohono.
Ond, nid yr wythnos hon y cynhelir y refferendwm hwnnw. Yr hyn sy’n digwydd ar draws 28 Aelod-Wladwriaeth yr UE yr wythnos hon yw etholiad i benderfynu pwy sy’n cynrychioli pobloedd Ewrop yn Senedd Ewrop. Yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yr wythnos hon yw etholiad i benderfynu pwy fydd y pedwar person i gynrychioli Cymru yn Ewrop rhwng eleni a 2019.
Fe weles i lun a rannodd David Cameron ar Facebook yn gynharach. Yn y statws wrth ochr y llun, soniodd mai dim ond y Ceidwadwyr sy’n dymuno ac sy’n gallu rhoi refferendwm ar aelodaeth y DG o’r UE. Wel, fel rwy’ eisoes wedi dweud, nid Etholiad Cyffredinol sy’n digwydd yr wythnos hon. Dewch inni fod yn glir: ni fydd Aelodau Senedd Ewrop o’r Blaid Geidwadol yn gallu rhoi refferendwm i unrhyw un ar unrhyw beth. Ni fydd unrhyw un ar unrhyw bapur pleidleisio yr wythnos hon yn gallu rhoi refferendwm ar aelodaeth y DG o’r UE.
Yr hyn y mae gofyn inni ei wneud yr wythnos hon yw penderfynu pa lais ry’n ni am i’n cynrychioli ni yn Ewrop. A ydyn ni yng Nghymru am gael ein cynrychioli gan rywun sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf fel cynrychiolydd cenedlaethol sy’n gweithio’n ddiflino yn Ewrop? Y ydyn ni am gael llais sydd bob amser yn dodi buddiannau ac anghenion ni a’n pobl ni’n gyntaf? A ydyn ni am gael llais sy’n gwrthod ac yn gwrthwynebu rhethreg adain dde, gul? Os felly, nid y Blaid Geidwadol sydd angen pleidleisio drosti, eithr Jill Evans ASE a Phlaid Cymru.
Rwy’n gofyn, felly, wrthoch chi bobl nad ydych wedi penderfynu pwy fyddwch chi’n pleidleisio drostyn nhw ddydd Iau eto, i feddwl yn garcus am ba fath o lais ry’ch chi am i Gymru gael yn Ewrop, ac i bleidleisio dros Blaid Cymru. Ond pa beth bynnag y gwnewch chi, da chi pleidleisiwch. Po lleiaf y nifer o bobl sy’n pleidleisio, po fwyaf y siawns y bydd rhethreg ffiaidd Ukip a’i thebyg yn profi llwyddiant.
Mae ‘da chi lais. Er mwyn dyn, defnyddiwch e.