“ Šcune”, Massimo Silverio
seen from Georgia
seen from United States

seen from Estonia

seen from United States
seen from Indonesia
seen from India
seen from United Kingdom

seen from United States
seen from United States
seen from Russia
seen from Macao SAR China
seen from Singapore
seen from Sri Lanka

seen from Georgia
seen from United Kingdom
seen from Hong Kong SAR China

seen from United States
seen from Malaysia
seen from Mexico
seen from Türkiye
“ Šcune”, Massimo Silverio
Massimo Silverio - Nijò
canzone in dialetto carnico, il testo è molto bello, lo si trova nei commenti
"Nijo" ha doppio significato vuol dire ovunque e allo stesso tempo in nessun luogo
(ascolto del brano consigliato pure da Iggy Pop)
Écouter / acheter: Vare de Massimo Silverio
Music Video: Massimo Silverio - Jeva
Listen to Jevâ here: https://ffm.to/jeva
View On WordPress
Massimo Silverio: "Criure" è il nuovo video
Il musicista carnico Massimo Silverio pubblica "Criure", il proprio nuovo video
Il musicista carnico Massimo Silverio pubblica Criure, il proprio nuovo video. Criure è un termine che in friulano indica un freddo secco, arido e pungente ed è contenuto nel mio secondo EP, intitolato “O” (2021). Il peç e la dane, ovvero l’abete maschio e l’abete femmina, sono i protagonisti di questa canzone i quali, come due amanti, stanno vicini per scaldarsi dal tucul(diavolo)/criure che…
View On WordPress
Adwaith & Massimo Silverio - ‘Nijo (yn y swn)’
Heddiw, mae partneriaeth ryngwladol yn cael ei lansio rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl SUNS Europe o Friuli, sef Gŵyl Ewropeaidd y Celfyddydau Perfformio mewn Ieithoedd Lleiafrifol. Mae’r bartneriaeth yn ddathliad o gerddoriaeth sy’n chwalu ffiniau ieithyddol, gyda’r prosiect cyntaf yn cyfuno’r Gymraeg gyda’r iaith Friulian, iaith gynhenid Friuli yng ngogledd yr Eidal. Mae’r cywaith cyntaf hwn yn cynnwys y band, Adwaith o Gymru a’r cerddor, Massimo Silverio o Friuli, ac mae’r gân, Yn y Sŵn (Nijo) yn cael ei rhyddhau ar 26 Chwefror. Bydd y gân yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru, nos Iau 18 Chwefror gyda fideo gan y gwneuthurwr ffilm, Jonny Reed, yn cael ei ryddhau ar 25 Chwefror. Mae dwy fersiwn o’r gân wedi’u recordio, fersiwn Cymraeg a fersiwn dwyieithog mewn Cymraeg a Friulian, ac mae Adwaith a Massimo Silverio yn perfformio ar y ddwy fersiwn. Mae’r gair ‘Nijo’ sef teitl y fersiwn dwyieithog yn air hynafol o’r iaith Friulian, sy’n golygu ‘Unman’ neu ‘Nunlle’, ac mae’r gân yn sôn am deimladau, geiriau ac ieithoedd sy’n cyrraedd ‘Nijo’ yn y pendraw. Wrth groesawu’r bartneriaeth gyda Gŵyl SUNS Europe, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Mae’r bartneriaeth yma rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a gŵyl SUNS Europe yn dangos sut mae modd cydweithio’n llwyddiannus gyda gwledydd a diwylliannau eraill ar draws y byd. “Rwy’n ffyddiog bod y ffaith ein bod ni’n ddwy ŵyl sy’n dathlu ieithoedd lleiafrifol yn ein clymu ynghyd, a gobeithio bod hyn yn sail gadarn i ni ddatblygu perthynas a phrosiectau eraill yn y dyfodol. Ry’n ni wedi llwyddo i greu rhywbeth hudolus gyda’r cywaith cyntaf, ac rwy’n sicr y bydd pawb yn cytuno bod y gân – boed hynny’r fersiwn Gymraeg neu ddwyieithog – yn arbennig iawn.” Ychwanegodd Leo Virgili, Cyfarwyddwr Artistig SUNS Europe, “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Eisteddfod am y syniad gwych yma. Mae cydweithio gyda Chymru yn ystod y cyfnod yma’n arbennig o bwysig i ni. Ry’n ni’n credu’n gryf mewn Ewrop sy’n mynd y tu hwnt i Brexit, banciau a chytundebau gwladwriaethol. Ewrop go iawn, sy’n gallu mynegi’i holl amrywiaeth, gan rannu grym ieithoedd a diwylliannol cynhenid.” Meddai Libertino: Chwarae yn SUNS Europe yn Udine, Friuli yn 2017 oedd cychwyn cysylltiad dwfn Adwaith gyda’r ŵyl ysbrydoledig yma, ei chymuned artistig a’r ethos sy’n rhan greiddiol o SUNS.
Pan awgrymodd yr Eisteddfod a SUNS bod cyfle i’r band gydweithio ar gân gyda Massimo Silverio, artist sy’n cyfansoddi a chanu yn Friulian, roedden nhw’n awyddus iawn i dderbyn y cynnig. Mae Yn Y Sŵn (Nijo)/ Nijo (Yn Y Sŵn) yn gân hyfryd o dywyll ac emosiynol gyffrous. Gan adeiladu ar gordiau dyrys Massimo, ‘cello melancolaidd a barddoniaeth hyfryd, mae Adwaith yn plethu rhythmau a synau sy’n wahanol i’r hyn maen nhw wedi’i greu o’r blaen. Esgorodd y cywaith creadigol yma at greu dwy fersiwn, un yn y Gymraeg, gyda Hollie ar ei mwyaf bregus, yn eiriol a lleisiol a fersiwn dwyieithog. Mae’r fersiwn yma’n daith drwy wahanol dreftadaeth, diwylliannau ac ieithoedd, ond yn rhannu’r un nod ac yn cyrraedd calonnau’i gilydd mewn ffordd sy’n unigryw i gerddoriaeth.
Bydd Yn y Sŵn (Nijo) a’r fersiwn ddwyieithog, Nijo (Yn y Sŵn) yn cael eu rhyddhau ddydd Gwener 26 Chwefror 2021.
https://song.link/gb/i/1554163025