Crio wrth Yoga
Wnes i grio yn ystod dosbarth Yoga Heno. A gwthio mhengliniau a nghorff i wneud gormod. Camddeall a dewis anwybyddu holl ystyr yoga. Y llifo, tawelu a gwella pob yn fymryn.
Crio achos blinder a chyffyrddiad aden anobaith, chwa o orbryder. Noson o wres a chosi. Allen i fyth fod yn fam newydd ddi-gwsg eto.
Ond crio yn ystod asanas gorwedd, gan fod fy meddwl yn neidio a chrwydro - meddwl mwnci
Na, ddewises i wthio, cynhyrfu a chlebran meddwl. Isie llwyddiant yn syth. Bydd rhaid peidio ymarfer rwan, arbed y cymalau fel hen fenyw.










