Annibendod Brexit: y sefyllfaoedd gwaethaf posib a chreu gweledigaeth bositif
Yn sgil y datblygiadau diweddaraf yn Senedd San Steffan a Chiparolwg diweddar WCVA, mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector yn WCVA, yn edrych ar y rhagolygon i’r trydydd sector yng Nghymru.
Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn San Steffan ddydd Llun (14 Ionawr), disgrifiodd Tom Brake AS (Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd) lefel yr ansicrwydd fel annibendod sy’n ddigynsail yn ystod yr 20 mlynedd y mae ef wedi bod yn y Senedd.
Mae’r bleidlais i wrthod cytundeb y llywodraeth ddoe (15 Ionawr) yn ein gadael ni gyd yn dal i nofio mewn llif cyflym o ansicrwydd. (Mae podlediad y Fforwm yn trafod rhai o’r ffactorau hysbys ac anhysbys, a’r goblygiadau i’r sector).
Rôl WCVA yw deall y goblygiadau i’r sector, sicrhau bod lleisiau’r trydydd sector yn cael eu clywed, darparu gwybodaeth a helpu mudiadau i baratoi at bob posibilrwydd...
Rydym wedi canfod pryderon mawr ynghylch effaith negyddol Brexit Heb Gytundeb ar 29 Mawrth. Mae angen i ni fod yn glir y byddai hyn yn achosi canlyniadau difrifol, nid yn unig i fudiadau trydydd sector, ond yn bwysicach, y bobl a’r cymunedau maent yn gweithio gyda nhw. Gobeithiwn y bydd y neges hon yn cael ei chlywed yn y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod.
Heddiw rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein ciparolwg Brexit, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2018. Mae’n dilyn arolwg tebyg yn 2017 i gasglu barn pobl sy’n gweithio i fudiadau sy’n aelodau o WCVA. Mae’r canfyddiadau yn rhoi negeseuon cryf i ni.
Llai na 3% o ymatebwyr oedd yn credu mai Brexit ‘Heb Gytundeb’ fyddai’r canlyniad gorau yn y trafodaethau ar gyfer y bobl maent yn gweithio gyda nhw neu eu mudiadau. Dywedodd wyth o bob deg ymatebydd mai’r canlyniad gorau ganddynt yn y trafodaethau fyddai aros yn yr UE.
Ffigwr 1: ‘Pa ganlyniad fyddai orau gennych yn y trafodaethau Brexit?’
Mae wyth o bob deg ymatebydd yn credu y bydd Brexit yn cael effaith negyddol ar y cyfan ar Gymru ac mae tri chwarter yn credu y bydd Cymru yn waeth yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ar ôl gadael yr UE. Mae dros hanner yn meddwl y byddwn yn ‘llawer gwaeth’ yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ni ddywedodd yr un ymatebydd y byddai gadael yr UE yn cael effaith bositif iawn ar y trydydd sector.
Ffigwr 2: 'Pa mor dda ydych chi’n meddwl y bydd Cymru’n ei wneud ar ôl gadael yr UE?'
Y tri phwnc sy’n achosi’r pryder mwyaf i ymatebwyr yw economi Cymru, arian cyhoeddus a cholli grantiau a chymorthdaliadau. Mae hyn yn newid clir ers 2017, pan hawliau ac amddiffyniadau dynol, cymdeithasol ac amgylcheddol ddaeth i’r brig.
Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu y bydd Brexit yn effeithio’n negyddol ar eu gallu i gyflawni amcanion, darparu gwasanaethau, cael at grantiau, cynhyrchu incwm a dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth.
Mae Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit, sef cynghrair o elusennau, mudiadau gwirfoddol a mudiadau ymgyrchu ledled y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi ei phryderon ynghylch effaith Brexit Heb Gytundeb ar hawliau, safonau, llywodraethu a thryloywder wrth ddeddfu.
Mae’r ffaith mai Brexit Heb Gytundeb yw’r canlyniad cyfreithiol awtomatig yn niffyg dim arall yn peri pryder. Ond ceir materion y dylid eu hystyried ni waeth i ba gyfeiriad y mae’r trafodaethau yn mynd. Adlewyrchir y rhain yn nogfen y Fforwm sy’n nodi materion a gofynion allweddol y sector. Yn eu mysg y mae egwyddorion trawsbynciol megis datganoli a chraffu yn ogystal â phryderon penodol ynghylch cyllid, yr amgylchedd a lles anifeiliaid, hawliau dynol a chydraddoldeb a mudo a dinasyddion yr UE.
Ond mae hyn yn ehangach na dim ond yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan. Mae angen i fudiadau ystyried beth allai hyn ei olygu i’r bobl maent yn gweithio gyda nhw a’u mudiadau. Mae un o ddogfennau eraill y Fforwm, Paratoi at Brexit: canllawiau i fudiadau trydydd sector mawr a bach yng Nghymru, yn cynnig cymorth gyda hyn.
Yng nghanol yr annibendod presennol, mae angen i ni ddelio gyda’r sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd yn ogystal â throi ein sylw at y dyfodol. Pa fath o gymdeithas yr ydym am ei gweld yn y blynyddoedd nesaf? Mae’r dadleuon ynghylch Brexit wedi amlygu materion mawr y mae angen i ni edrych arnynt fel cymdeithas. Rydym wedi clywed bod cymunedau yn teimlo nad oes ganddynt rym na rheolaeth ac yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Rydym wedi gweld rhaniadau cynyddol ynglŷn â materion mawr ym mhob rhan o gymdeithas.
Mae nawr angen i ni ystyried sut y gallwn greu dyfodol positif i’n cymdeithas a’r hyn sydd ei angen i wireddu hynny. Mae gan elusennau a mudiadau gwirfoddol ran hanfodol i’w chwarae yn arwain ac yn siapio’r dadleuon hyn, gan gynorthwyo pobl a chymunedau ledled Cymru i gyfrannu atynt a dweud eu dweud.
Mae rhai o’r trafodaethau hyn wedi dechrau. Mae gwahanol fudiadau trydydd sector wedi bod yn edrych ar ba ddyfodol rydym am ei greu i’n plant a’n pobl ifanc a pha ddeddfau y gall y Cynulliad eu pasio i sicrhau hynny. Mae sgyrsiau tebyg yn cael eu cynnal ynglŷn â mudo a hawliau dynol. Yn Lloegr, mae sgyrsiau wedi’u sbarduno drwy ymchwiliad o’r enw Civil Society Futures. Bydd WCVA yn chwarae ei ran yn arwain y ddadl genedlaethol hon yng Nghymru.
Ciparolwg Brexit
Heddiw mae WCVA wedi cyhoeddi canlyniadau ein Ciparolwg Brexit, a gasglodd farn bersonol gweithwyr proffesiynol mewn mudiadau sy’n aelodau o WCVA. Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael yma.
Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit
Mae WCVA, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, wedi ffurfio prosiect i helpu'r trydydd sector i ymwneud yn well â'r ddadl ynglŷn â Brexit ac i ddylanwadu arni.
Dyma ail ran ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yn blog hwn mae’n sôn am ei brofiad yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen fel rhan o’r bwrsari a enillodd, a sut i osgoi trapiau dwbl sgwrsio diddiwedd, a gweithio mewn seilos.
Rhaid i mi gyfaddef bod y syniad o dreulio amser ym Mhrifysgol Rhydychen wedi peri pryder i mi. A minnau wedi fy ngeni a’m magu ar un o’r ystadau mwyaf difreintiedig yn Lloegr, achosodd Rhydychen bwl arall o ‘syndrom cogiwr’ ynof. Gan fy mod wedi bod yn darllen am yr hyn sy’n ysgogi entrepreneuriaid yn y sector preifat, dilynais esiampl Richard Branson (‘screw it, just do it’) a mynd amdani.
Roedd fy nghwrs yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant mewn trafnidiaeth, yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Rhydychen a gynhelir ar y cyd ag Ysgol Fusnes Rhydychen. Ar lefel sylfaenol, hanfod trafnidiaeth yw symud pobl a nwyddau o A i B, yn ddelfrydol yn y ffordd fwyaf diogel, effeithlon a chynaliadwy. Gall trafnidiaeth achosi a datrys problemau cymhleth, ac fel y rhan fwyaf o bynciau nid yw’n sefyll ar wahân i bynciau eraill megis darpariaeth iechyd, addysg, tai, datblygu economaidd a newid hinsawdd. Dros y pedwar diwrnod edrychais ar faterion amrywiol gan gynnwys sut y gall trafnidiaeth fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol mewn economïau datblygedig a datblygol; rôl cerdded a beicio yn sicrhau llesiant; sut mae’r sector iechyd cyhoeddus a’r sector trafnidiaeth wedi (neu ddim wedi) gweithio gyda’i gilydd yn hanesyddol; diogelwch ffyrdd; a chydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a symudedd.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Pan Foch yn Nenmarc; Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu)
Un seminar a ddaliodd fy sylw’n arbennig oedd un ynglŷn â chydraddoldeb rhywiol. Os hoffech newid y ffordd yr ydych yn meddwl am drafnidiaeth, darllenwch waith Emma Aldrich ar drafnidiaeth a marwolaethau ymysg mamau. Ymchwiliodd Emma i’r ffordd y mae cyfyngiadau ar symudedd yn effeithio ar iechyd a lles mamau yn Uganda. Mae mynediad menywod at drafnidiaeth yn Uganda wedi’i gyfyngu a’i reoli. Gall fod oedi wrth geisio mynd i gyfleuster meddygol ac efallai na fydd y math o drafnidiaeth yn ddiogel, gan gynyddu’r risg o farwolaeth. Fe wnaeth Emma ddyfynnu Margaret Greico (2005) a ddywedodd:
‘Nid yw’r gwahaniaethau rhwng patrymau teithio gwrywaidd a benywaidd a’r rheolau a’r rolau diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau hyn wedi’u cofnodi’n ddigonol ym myd polisi. Nid oes enghraifft well o’r cyfyngiadau hyn nag yn narlun Affrica o farwolaethau ymysg mamau; mae cyfyngiadau ar symudedd ac ar yr adnoddau ar gyfer symudedd a hygyrchedd yn cael effaith andwyol ar iechyd menywod yn Affrica.’
Hyd yn oed ym Mhrydain rydym yn gosod cyfyngiadau ar symudedd i rai cymunedau. Rydym yn rhoi mwy o werth ar rai gweithgareddau, rhai siwrneiau a rhai dulliau teithio nag eraill; gan ddewis i ddylunio ein byd o amgylch y car. Fel y dadleuodd Dr Karen Lucas, mae hyn yn bwysig.
Mae 40% o bobl sy’n chwilio am waith yn dweud bod trafnidiaeth yn broblem wrth geisio cael swydd. Mae hanner oedolion ifanc mewn addysg yn ei chael yn anodd talu am gostau teithio. Mae 1.4 miliwn o bobl ym Mhrydain yn methu neu’n gwrthod apwyntiadau ysbyty oherwydd diffyg trafnidiaeth. Mae adeiladu mwy o ffyrdd a rhoi cymhorthdal i gerbydau trydan yn ddewis. Mae trwsio pafinau fel y gall pobl hŷn gerdded yn haws, a gwario arian ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis arall.
Roedd Rhydychen yn gyfle ardderchog i edrych o’r newydd ar hen broblemau. I f’atgoffa fy hun y byddai angen i Sustrans weithio y tu allan i’r bocs trafnidiaeth er mwyn creu newid ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae lleihau defnydd diangen o geir a galluogi mwy o bobl i gerdded a beicio yn cynnig llawer o fuddion i drafnidiaeth, gan gynnwys llai o draffig a gwella diogelwch. Mae hefyd yn cynnig llawer o fuddion y tu allan i faes trafnidiaeth. Ond nid moeswers y stori yma yw y dylem ni gyd fabwysiadu’r pum ffordd o weithio yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol a meddwl ‘dyna ni, mae’r gwaith wedi’i wneud’.
I lenwi’r bwlch darparu, mae angen i’r trydydd sector ffocysu a chydweithio, gan osgoi’r ddau begwn sef sgyrsiau diddiwedd â phartneriaid ac ysgrifennu cytundebau ar y naill law, a gweithio mewn seilos ar y llall. Efallai y gellid galw hyn ‘cydweithio ymarferol’.
Yn fy mlog nesaf soniaf am yr hyn a ddysgais am greu newid yn Copenhagen a sut y gellir rhoi’r gwersi hynny ar waith yng Nghymru.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
Os hoffech ddeall eich dull arwain yn well a dulliau llwyddiannus eraill, hybu’ch sgiliau arwain a thyfu’ch gwydnwch, cadwch le ar ein cwrs Arweinyddiaeth Trydydd Sector ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
Dyma’r blog cyntaf mewn cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n sôn am y ffordd y mae’r bwrsari wedi’i helpu i weld arweinyddiaeth entrepreneuraidd o safbwynt newydd, a’r ffordd y mae angen i arweinwyr gynnig atebion yn hytrach na dim ond tynnu sylw at y materion dan sylw.
Wrth glywed y gair ‘entrepreneur’ roedd dwy ddelwedd yn dod i feddwl. Y gyntaf oedd ‘millennial’ sy’n giamstar ar dechnoleg ac sydd â gyrfa bortffolio yn gweithio o ddesgiau poeth mewn man cydweithio yn Indycube ac yn gwneud arian wrth wneud pethau ar y cyfryngau cymdeithasol nad ydw i, a dweud y gwir, yn eu llwyr ddeall.
Yr ail oedd y to hŷn, arloeswyr megis Arianna Huffington, Richard Branson neu James Dyson a oedd wedi meddwl am syniad da i wneud dipyn o arian slawer dydd ac wedi’i ehangu ar raddfa enfawr, ac a oedd bellach yn byw oddi ar yr incwm ac yn gwneud gwaith dyngarol. Er bod gen i gyfrif Instagram ac yn rhoi’n rheolaidd i Oxfam, doeddwn i ddim yn cyd-fynd â’r un o’r ddau ddiffiniad. Ond dechreuodd fy marn newid wedi i mi ddarllen am Walter Dickie.
Bu Walter yn arwain Lloyds TSB yng Nghymru am sawl blwyddyn ac roedd yn ymwneud yn helaeth â sefydliad elusennol y banc. Roedd Walter yn ymddiriedolwr i WCVA a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu cronfeydd buddsoddi i fentrau cymdeithasol. Bu farw Walter yn 2017, ond i nodi ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus, sefydlwyd bwrsari i gynorthwyo arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd eu hunain.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Cydweithio Ymarferol, Pan Foch yn Nenmarc; Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu)
Wrth ddarllen mwy am Walter Dickie a’r bwrsari er cof amdano, newidiodd y ffordd yr wyf yn meddwl am arweinyddiaeth entrepreneuraidd. Mae’n cynnwys unigolyn sy’n gweithio er-elw, ond hefyd unigolion fel fi sy’n arwain mudiadau dielw.
Mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio, yn ogystal ag yn fath o unigolyn. Mae’n ffordd o feddwl. Mae’n golygu gweld angen am newid a chynnig ateb ymarferol sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) o fudd y tu hwnt i elw.
‘Wrth ddarllen mwy am Walter Dickie a’r bwrsari er cof amdano, newidiodd y ffordd yr wyf yn meddwl am arweinyddiaeth entrepreneuraidd...’
Pan ymgeisiais am y bwrsari, doedd dim llawer o amser wedi bod ers i mi ddechrau fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. O ran yr amgylchedd allanol, roeddwn yn gwybod yn union beth oedd angen newid. Mae Cymru’n gaeth i’r car. Mae’r ffordd yr ydym wedi dylunio ein trefi a’n dinasoedd yn golygu mai’r car sy’n tra-arglwyddiaethu, a gyda mwy nag erioed o foduron ar y ffordd a’r rhan fwyaf o deithiau byrion yn dal i gael eu gwneud yn y car, mae’r dasg o’n blaenau yn fawr. Mae llawer i’w wneud, ond mae mynd i’r afael â’r daith i’r ysgol a’r gwaith yn ddau gyfle amlwg. Ac eto, er gwaethaf deddfwriaeth dda megis y Ddeddf Teithio Llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Cymru’n dal i sgrialu i lawr ffordd beryglus.
Mae ‘bwlch darparu’ yn bodoli, sef bwlch rhwng polisi cenedlaethol a'r gwaith ymarferol o'i ddarparu yn lleol, ac mae hon yn broblem yn y mwyafrif o sectorau yng Nghymru. Roedd y Farwnes Thatcher yn adnabyddus am roi pryd o dafod i weision sifil annelwig pan fyddai eu nodiadau cynghori a’u hargymhellion yn methu â phontio’r ‘bwlch darparu’ hwnnw. Yn ei lyfr ‘Winners’ mae Alistair Campbell yn disgrifio’r cyn brif weinidog yn rhybuddio swyddogion; ‘don’t tell me the ‘what’, I know the ‘what’. Tell me the ‘how’!’
Yn hynny o beth, roedd y Farwnes Thatcher yn llygad ei lle. Gallwn ni gyd weld beth sydd angen digwydd. Mae gwneud iddo ddigwydd yn rhywbeth arall.
Roeddwn wrth fy modd o ennill y bwrsari ac o’r cyfle i fynd i Gyfarfod Blynyddol WCVA yn Llandudno i gasglu’r wobr a chwrdd â theulu Walter, a chlywed am ei fywyd a’i frwdfrydedd dros deithio a chynaliadwyedd. Yn y Cyfarfod, traddodwyd y brif araith gan yr Athro Laura McAllister a soniodd am beryglon arweinyddiaeth ‘ddof’. Rhybuddiodd fod arweinyddiaeth ddof – peidio â herio pethau fel y maent – yn arbennig o beryglus mewn gwlad fechan fel Cymru, a siaradodd am y cyfrifoldeb arbennig sydd ar bob arweinydd yn y trydydd sector i’w herio eu hunain ac eraill yn fwy.
A minnau wedi fy ysbrydoli gan Laura (a Thatcher!) defnyddiais y bwrsari i ddatblygu fy syniadau fy hun ar sut i bontio’r ‘bwlch darparu’. Roedd arna’i eisiau ymchwilio’n fanylach i’r problemau sy’n wynebu cymdeithas wrth deithio o A i B, ystyried perthynas trafnidiaeth â materion eraill megis tai, iechyd cyhoeddus a chyflogaeth, ac edrych ar y ffordd yr oedd gwledydd eraill yn newid pethau ar lefel ymarferol iawn.
Felly, ddiwedd y llynedd, es i ati i ymrestru ar y cwrs Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn gynharach eleni cymerais ran yn y Copenhagenize Master Class ar ddylunio trefol. Yn y blog nesaf, edrychaf ar rai o’r gwersi o Brifysgol Rhydychen ac amlinellaf y ffordd y mae Denmarc wedi chwyldroi’r ffordd y mae ei dinasyddion yn teithio. Yn olaf, trafodaf sut mae’r bwrsari wedi newid fy ffordd o weithio.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Darllenwch ei flog nesaf yma.
Bydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn cael ei ail-lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 7 Awst. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
Pam mai Llywodraeth Agored yw’r llwybr at lywodraeth well yng Nghymru
Yma mae Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yn egluro egwyddorion Llywodraeth Agored a sut y gallwn eu defnyddio i wneud i lywodraeth Cymru weithio’n well i bawb.
Mae datganoli wedi rhoi’r cyfle i Gymru ddechrau o’r dechrau gyda haen newydd o lywodraeth a fwriadwyd i ddod â phenderfyniadau yn nes at y bobl y maent yn effeithio arnynt.
Ac eto, bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach, a yw datganoli wedi gwneud hynny?
Os edrychwn ni ar ein system wleidyddol mae’n un sydd heb lawer o gysylltiad â’r bobl. Yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016, barnwyd bod y ganran a bleidleisiodd, sef 45%, yn ffigwr gweddol lwyddiannus, fe fyddai’n anodd i chi ganfod rhywun yn cerdded ar hyd stryd fawr leol a allai enwi mwy nag un neu ddau aelod o gabinet Cymru a dyw pa feysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru ddim yn hysbys i bawb o bell ffordd.
Dyw ein democratiaeth ddim ble y dylai fod, ond mae gennym gyfle i wella hyn.
Mae Llywodraeth Agored yn fenter fyd-eang sy’n gweithio o amgylch tair thema; atebolrwydd, tryloywder a chyfranogi. Fel rhan o hyn, mae pob llywodraeth sy’n rhan o’r fenter yn llunio Cynllun Gweithredu Llywodraeth Agored bob dwy flynedd gan amlinellu’r camau yr hoffent eu cymryd yn y meysydd hyn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n rhoi ei Chynllun Gweithredu 2018-2020 at ei gilydd ac mae’n hanfodol ein bod yn dweud ein dweud yn y cynllun hwn.
Dros yr wythnosau nesaf rydym am ddod â chymdeithas sifil at ei gilydd i greu syniadau ac argymhellion y gallwn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru eu hystyried fel rhan o’i Chynllun Gweithredu. Heddiw rydym wedi lansio platfform i chi gynnig eich syniadau. Ychwanegwch nhw yma: https://www.discuto.io/en/consultation/32946
Felly os oes gennych syniad – bach neu fawr – i wneud llywodraeth yn fwy agored, dyma gyfle gwirioneddol iddo ddod yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru.
Mewn rhannau eraill o’r byd mae Llywodraeth Agored wedi arwain at newid mawr. O blatfform a roddodd fynediad at yr holl wybodaeth ynglŷn â gofal iechyd yn Wrwgwái i Fongolia ble y gall bobl nawr raddio eu gwasanaethau cyhoeddus, i gyllideb gwerth €100m ym Madrid y mae’r bobl leol eu hunain yn penderfynu sut i’w defnyddio, mae Llywodraeth Agored wedi gwneud byd o wahaniaeth.
Cyfle Cymru yw hi nawr i wneud rhywbeth arbennig gyda hyn a gwneud i’n llywodraeth weithio’n well i ni gyd.
Dyma ein cyfle a rhaid i ni fanteisio arno.