Gweni Llwyd - Ankletap
Comsiynwyd Gweni Llwyd i greu gwaith celf ar gyfer y ‘Wal Wen’ enfawr yng nghyntedd Pontio, i gael ei ddangos yn yr egwyl ac ar ôl perfformiad Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o KIN ar 17 Mawrth. Yn anffodus oherwydd y pandemig Covid-19, ni fu’n bosib i’r perfformiad ddigwydd felly rydym yn rhannu’r gwaith a gwybodaeth am y comisiwn arlein.
Wedi’i greu mewn ymateb i ddawns CDCCymru Rygbi:Yma/Here, mae ANKLE TAP yn archwilio syniadau o gwmpas cof a threigl amser.
Trwy ffynonellau fel fideos crynhoad ar-lein, adroddiadau newyddion a deunydd hanesyddol mae ANKLE TAP yn datblygu ar awgrym Rygbi:Yma/Here bod y profiad o rygbi wedi ei adeiladu dros amser trwy atgofion, hyfforddiant, delweddau a theimladau.
Wrth ystumio sain a delweddau - fel torf yn canu caneuon rygbi traddodiadol, ciciau a’r Haka - a gludlunio haenau haniaethol at ei gilydd i greu rhythmau digyswllt, mae ANKLE TAP yn cyfleu'r synhwyriadau gwasgaredig sydd i'w cael wrth geisio ail-fyw profiad ar ôl iddo basio.
5 Munud gyda Gweni Llwyd...Ebrill 2020
Beth oedd y peth mwyaf diddorol am greu’r gwaith yma?
Cael mewnwelediad i'r byd dawns gyfoes a sylwi ar y cysylltiadau cryf rhwng celf weledol a dawns. Dwi wrth fy modd efo sut mae'r meddwl tu ôl i ddarnau o waith mewn meysydd celfyddydau gwahanol yn gallu bod reit debyg, ond mae’r allbynnau mor wahanol ac amrywiol.
Sut mae’r cyfnod presennol yn effeithio ar dy waith di?
Mae’r cyfnod presennol yn cael effaith mawr ar fy ngwaith i. Mae llawer o fy ngwaith yn dibynnu ar ddigwyddiadau byw, cynulleidfa neu gyfranogwyr, a’r gallu i deithio i greu - o fynd i’r llyfrgell i ymchwilio, i recordio sain, fideo ac ati yn y byd agored, sy’n golygu bod creu gwaith yn y tŷ yn eithaf anodd. Mae’n teimlo ‘chydig fel bod fy incwm, pwrpas a bywyd cymdeithasol wedi diflannu dros nos - cyfnod caled i bawb.
gwenillwyd.com
Graddiodd Gweni Llwyd o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2017. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys Anti Beta, Mission Gallery, Abertawe (2020), V&A Late: Art Schools, Victoria and Albert Museum, Llundain (2019), Gripping Wrists, LUX Scotland aTendency Towards, Aberdeen (2018). Yn 2018,derbynodd Gwobr Goffa Brian Ross Cyngor Celfyddydau Cymru, Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Artitst Ifanc NOVA.









