Adolygiad Ffilm Wythnos Tri - Unrhyw Beth I Chi
Roedd gan Driawd tasg newydd yr wythnos yma. Roedd ei’n dasg yn defnyddio golau mewn techneg newydd. Roedd Elin wedi dangos i ni fideo bach ac roedd rhaid i ni gopïo’r saethiadau yn union ond gyda llinell stori newydd. Roedd rhaid i ni hefyd rhoi cerddoriaeth dros y saethiadau i gyfleu lleoliad gwahanol. Roedd y ffilm yma yn hwyl i greu gan fod y grŵp wedi penderfynu troi genre newydd o film, sef arswyd. Roedd creu’r film yma yn anodd oherwydd roedd rhaid i ni sicrhau fod y saethiadau i gyd yn agos iawn i’r ffilm roedd Elin wedi dangos i ni. Hefyd roedd gan y grŵp her gan fod un o’r actorion, Jacob, angen gadael i fynd i ddarlith am 11. Roedd hyn wedi gwneud i’r grŵp ruthro rhai o saethiadau. Gall weld hyn pryd rydych yn gwylio oherwydd mae rhai o saethiadau gallwn weld y stand goleuo. Roedd y grŵp wedi penderfynu mynd tuag at y ffilm yn wahanol y tro yma. Yn lle rhannu’r dyletswyddau, roedd pob aelod yn cael dyletswydd unigryw. Roedd Sara yn gweithio ar gamera, Bethan oedd person sain a fi oedd person goleuo. Roedd y grŵp wedi gweithio gyda gilydd yn dda unwaith eto. Roedd y grŵp wedi helpu ei’n gilydd lle bynnag oedd angen. Roedd y ffilm yma wedi datblygu fy sgiliau goleuo gan fod rhaid i ni oleuo yn gras iawn. Roedd Jacob a Ffion yn broffesiynol iawn ac wedi gwrando yn ofalus ac wedi gwneud beth oeddem ni eisiau. Roedd y grŵp yn meddwl roedd yna wallau a mannau gwan wrth olygu. Y peth mawr oedd wedi sefyll allan oedd gwneud yn siŵr mae popeth allan y saethiad sydd ddim angen bod yna. Hefyd roedd y grŵp wedi ceisio dangos y coch wrth olygu. Roedd hyn y proses anodd a dryslyd. Roedd hyn wedi cymryd oriau o ymchwilio a thiwtoriaid ar-lein i weld yn union beth imi wneud. Roedd rhai o’r saethiadau yn rhy dywyll i wneud hyn ar y diwedd. Felly hanner ford trwy’r ffilm gall weld does dim coch. Dwi gredu bydd yr effaith wedi gweithio yn well os roedd y ffilm ddim angen goleuo cras. Fel grŵp, dwi’n credu fod ni wedi cyflawni’r dasg i safon uchel gyda llinell stori dda. Unwaith eto roedd y profiad wedi helpu ni ddeall mwy am ffilmio.
Nathan :D
Ein tasg ni yr wythnos yma oedd golau a defnyddio golau mewn dulliau gwahanol fel ein bod ni yn deall sut i ddefnyddio golau. Reodd rhaid i ni gopio golyfga a’r siots oedd yn y golygfa hefyd gan roi cerddoriaeth dros y siots i gyfleu ei bod nhw mewn lle gwahanol. Roeddwn i wedi mwynhau gwneud y brosiect yma oherwydd roedden ni wedi penderfynu arbrofi gan ddewis gwneud ffilm arswyd yn lle un syml a doniol. Roedd y profiad ei hunan yn ddiddorol ond yn anodd iawn hefyd i gael y seathiadau yn gywir ac i gael y siots cyn i Jacob, un o’n actorion adael i fynd i ddarlith am 11 felly dim ond 2 awr oedd gennyn n ii gael popeth yn gywir. Yr wythnos yma yn lle rhannu’r dyletswyddau allan, arhoson i i un swydd felly Sara oedd ar y camera, fi oedd ar y sain a Nathan oedd ar y golau. Unwaith eto roedden ni wedi gweithio yn dda fel tîm ac er ein bod ni efo dyletswyddau penodol roedden ni dal yn helpu pobl i weld os oedd pethau yn edrych yn iawn ac os oedd pethau yn gweithio. Roedd yr actorion hefyd wedi cyd-weithio ac wedi gwrando’n ofalus arnyn ni ac roedd hyn yn bwysig iawn i gael brosiect gorffenedig da. Er ein bod ni yn credu bod y ffilm yn un dda, roedd yn gwallau a mannau gwan lle rydyn ni yn gallu gweithio arni yn y dyfodol fel sicrhau nad yw pethau sydd ddim fod yn siot fel y stand golau yn y siot ac i sicrhau bod mwy nag un lle y gallen ni defnyddio ar gyfer ffilmio. Fel grŵp, roedden ni’n credu ein bod ni wedi cael y golau yn weddol iawn ac ei bod hi yn effeithiol mewn mannau. Ond ar y cyfan roedd y profiad yn un dda ac allweddol yn ein datblygiad fel gwneuthurwr ffilm.
Bethan :D
'Unrhywbeth i chi' oedd ein tasg nesa. Aethom ati wythnos hyn i greu ffilm wrth gopïo ffilm, delweddau a ffurf. Roedd ganddom ffilm ddu a gwyn on blaenau ac roeddwn yn dilyn y siotiau hyn. Roedd y ffilm y cawsom yn sialens yw ail greu oherwydd yn gyntaf taw ffilm du a gwyn oedd ond hefyd ail greu rhywbeth mewn cyn-lleied o amser ac o le’r oedd yn sialens a hanner. Wedi penderfynu ar actorion sef Jacob Ellis a Ffion Gwen roedd hi yn amser mynd ati i greu sgript fyddai yn ddigon rhwydd yw cynhyrchu. Roedd y sgript yn anodd yw gwneud oherwydd roeddwn am gyfleu un dyn oedd yn hollol dawel oedd yn ofn ac yna menyw sydd ond yn dweud cwpwl o eiriau ond bod ei geiriau yn bwerus ac yn meddwl llawer. Roedd ffilmio’r ffilm yma yn un o’r heriau mwyaf rydym wedi ei wynebu hyd yn hyn, oherwydd yr ystafell fach roedd hi yn anodd cael y sain yn gywir, y camera yn ffilmio’r peth iawn a hefyd y golau ddim yn adlewyrchu gormod neu hefyd yn rhy gryf mewn mannau. Fe gymerais i yr awen o ffilmio unwaith, nathan yn cynhyrchu a Bethan yn gwneud y sain. Yn sicr wedi golygu dydd Gwener gwelsom lawer o bethau y dylem newid. Ac yn bendant un o’r pethau pwysicaf wnes i fel gwaith camera oedd peidio â gweld y golau yn un o’r siotiau mwyaf tyngedfennol. Felly yn bendant wrth werthuso’r gwaith mae hyn yn rhywbeth y dylasem wedi newid, ac yn bendant y tro nesaf fyddaf yn ei wneud yn wahanol. Roedd ffilmio y ffilm yma yn anodd oherwydd y diffug lle roedd ganddom, ogerwydd bod angen i ni geisio ffitio bwrdd o flaen Jacob ac yna ffitio y golau ar camera o amgylch popeth. Roedd y sain wedi gweithio yn wych, gyda pob gair yn glir. Roedd yr actorion wedi cydweithio yn wych ac wedi bodloni i wneud unrhywbeth, yn anffodus bu rhaid i ni ffilmio yn eithaf cyflym oherwydd ir ddau actor gael cyfarfodydd mewn llefydd eraill. Fel grwp roedd y tri ohonom wedi gweithio yn wych ac rwyf yn hapus iawn fel gwnaethom weithio.
Sara :D












