GWYLLT | AFLONYDD (ADOLYGIAD GAN SAM RHYS)
GWYLLT | AFLONYDD (ADOLYGIAD GAN SAM RHYS)
Dwi heb wrando ar 'Gwyllt' yn iawn cyn yr albwm yma, ac roedd fy rhagfarn bron yn berffaith.
Ni’n dechrau gyda’r un llinell mae pob band pop Cymraeg yn ei ddefnyddio, yr ‘aaaa’s. Gyda’r gitâr meddal a’r llais sy’n sibrwd i’r clust- mae ‘Hunan Bicil’ yn gan hyfryd. Ysgafn, ond nid yw’n ddiflas. Perffaith ar gyfer taith hir yn y car neu wrth drio mynd off gyda merch yn dy ystafell wely- dechreuad da i’r albwm.
Ni’n symud ymlaen i’r ail darn, ‘Nerth’, ac yn syth o’r dechrau rwy’n credo bod fy ffon wedi mynd ar ‘shuffle’ ar ddamwain a chwarae’r Super Furry Animals! Ond yna, mae’r pennill yn dechrau gyda’r ‘www’s a’r ‘aaaa’s eto.. Mae’r un naws yn y gan yma a’r un a dechreuwyd yr albwm, ond mae yna ddatblygiad amlwg yn y gan gyda llawer o agweddau pop ynddi. Mae melodi sy’n aros yn y cof gyda bits a bobs post-psychadelic yn y cefndir- dwi’n sicr bydd hwn yn boblogaidd o flaen cynulleidfa feddw Gymreig.
Erbyn ‘Dorothea’ dwi’n dechrau cael llond bol o’r naws yma o golled, tristwch neu annhegwch. Ond, wrth ddweud hynny, mae’r gan yn datblygu eto ac yn adleisio llawer o Nick Cave and the Badseeds yn y cytgan (sydd hefyd gyda’r un naws). Mae mor hawdd ceisio ymestyn y gan yma i greu’n ‘balâd’ ond dydyn nhw ddim yn gwneud hyn, parch.
Yna ni’n cyrraedd y gan dyle nhw di gadael o'r yr albwm. Fi’n deall pam roedden nhw eisiau ychwanegu fe, ond nid yw’n gweithio. Ar ôl tair gan oedd mwy neu lai'r un peth oeddwn i eisiau rhywbeth gwahanol- ond nid hwn oedd gen i yn fy meddwl. Yn fyr, mae’n swnio fel cymysgiad Derwyddon Dr.Gonzo, Pitbul a D’banj. Dim diolch, it’s a no from me.
Ar ôl cyrraedd y gan nesa (o’r diwedd) mae'n teimlo fel bo fi’n gwrando ar 'Gwyllt' eto. Ni nol i’r arfer ac ar ôl gwrando ar y gan ddiwethaf mae croeso enfawr iddi. Mae’r un naws o dristwch a cholled yn parhau tan i ni gyrraedd ‘Effaith Trwsus Lledar’. Mae hyn yn gam ymlaen. Mae hyn yn wal enfawr o sŵn annisgwyl- ond pleserus. Pwerus, cryf a chyffrous. Mae’r gynulleidfa yn yfed ei ‘peints’ yn y clwb rygbi ac yn mynd yn wallgof i’r gan yma. Hwn yw anthem yr albwm- hwn sy’n achub yr albwm o fod yn albwm ‘alright’. Hwn yw’r gan mae pawb yn adnabod a hwn yw’r rheswm mae pawb yn mynd i weld nhw’n fyw. Mae’n dod gyda chymaint o lawenydd- teimlaf fod y gan yn gorffen yn rhy gynnar! Galle cytgan arall ar ôl y solo wir neud y gan yn anthem- ond mae’n rhaid bo nhw’n cadw hwnna i’r set fyw.
Yna, ni’n cyrraedd y diweddglo ‘Dyffryn Nunlle’. Can sy’n dod a ni nol lawr o’r nenfwd i’r Ddaear ac sy’n cloi’r albwm yn brydferth. Dewis arbennig o drefn y caneuon dwi’n teimlo- mae llawer o fandiau’n ceisio adeiladu’r albwm ac yna gorffen gyda ‘bang’ ond mae Gwyllt, yn amlwg, yn fwy clyfar na hwnna. Ond mae’r caneuon tywyll Nick Cave-esque ar y dechrau, yna ‘rhywbeth gwahanol’ gyda’r pedwerydd gan (bydde ni wedi dewis can gwahanol yn lle- ond mae’n rhaid bod rhywyn yn hoffi fe) nol lawr i’r naws tywyll, yna bloedd mawr Effaith Trowsus Lledar a Dyffryn Nunlle i gloi. Hyfryd.
Felly, yn fyr, albwm sy’n tywys chi un lle- ac yn gwthio chi rhywle arall. Adolygiad un gair? Decent.