Beth mae 'HAWL' yn ei olygu i ti?
"Fy hawl i fywyd, i ddewis, i weithio, i siarad fy iaith, i fod yn gydradd..Braint y diolchaf i'r rhai dewr am frwydro er fy mwyn i" Ffion Dafis
"Ma gan bawb yr hawl i gwestiynnu unrhyw gyfundrefn neu awdurdod sydd a'r gallu i ddylanwadu ar eich bywyd." Mark Flanagan
"Mae gan pob Actor,canwr a pherfformiwr yr HAWL i wneud bywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ond dyddiau yma mai'n anodd!!"Â Emyr GibsonÂ
"Dw i'n troi'r tap dwr mlaen degau o weithiau mewn diwrnod - a hwnnw'n ddwr glan gloyw o'r mynydd - heb wir werthfawrogi'r fath rhodd. Mae dros 800 miliwn o bobol y byd heb yr hawl hwnnw a ma' hynny'n drychineb." Sian James
"Hawl yw hewl ein plant"Â Ryland Teifi
"Mae gan ddigrifwr yr #hawl i chwerthin ar ei jôc ei hun, os na does neb arall am wneud" Tudur Owen
"Cenedl heb iaith,cenedl heb galon.Gwlad heb dirlun,gwlad heb enaid.Plis gaf i'r hawl i fflamio ein ffermydd gwynt aneffeithiol a malu pob melin diwerth yng Nghymru? Diolch!" Sian Lloyd
"Mae hawl yn rhoi rhyddid i ni. Fel mam newydd, dwi'n gobeithio bydd fy merch yn gwerthfawrogi ei hawliau yn y dyfodol - hawliau na all merched mewn rhannau eraill o'r byd eu cymryd yn ganiataol" - Branwen GwynÂ
"#hawl i wrando ar safbwyntiau pobl eraill" - Emma WalfordÂ
"HAWL - codi'r llen ar y gwirionedd a oedd wastad yno'n llechu...."Â Fflur DafyddÂ
"Pa Hawl sda fi gwyno bo' batri fy ffĂ´n 'di rhedeg mas o'i sudd? Pan nad yw rhywrai'n gwbod o ble daw'r gwydred nesa o ddwr." - Llinor ap Gwynedd.
Beth yw #Hawl i'r awdur @DewiPrysor ? "Pa fath o fyd sydd angen cyfraith i warchod hawl?"
"Hawl cenedlaethau'r dyfodol i fyw mewn byd ag ynni glan digarbon nad yw'n cynhesu?" Dafydd Elis-Thomas
"Mae gen i'r hawl i gymryd risg; i wthio fy ffiniau corfforol, meddyliol ac emosiynol er mwyn gallu darganfod rhai newydd.""Rhydd i bawb ei farn , ac i bob barn ei lafar " , meddai'r hen air " Lowri Morgan
Dyna un o'n hawliau sylfaennol , cael deud eich deud , mewn erthygl , araith , cân neu ddrama heb gael eich cyfyngu na'ch sensro gan neb  - Bryn FĂ´nÂ
"Roedd fy nain yn 28 cyn i ddeddf gwlad newid a rhoi iddi'r hawl i bleidleisio. Mae angen cofio'r hanes y tu Ă´l i'r hyn yr ystyriwn yn hawliau." Sian NortheyÂ
Mae gen i hawl i fod yn deyrngar i fy hen ysgol #Rhydfelen ac i siarad ar ran y disgyblion - gan fod neb arall yn gwrando arnynt !" Martyn Geraint
"Mae 'hawl' i mi yn golygu y dylai pawb gael y rhyddid o ddweud eu deud heb gael eu herlid!" Linda Brown
"#Hawl ydi'r hyn sy'n fy ngwneud i'n gyfartal â chdi" Karen OwenÂ
âMae rhaiân mynnu bod eu hawliau nhwân bwysicach na hawliau eraill. Mae rhaiân meddwl bod ganddyn nhwâr hawl i fwynhau bywyd ar draul pobl eraill. Mae gen iâr hawl i anghytuno.â Bethan Gwanas
"I brofi hawl rhaid ei hawlio" Ani Llšn (cyflwynydd Stwnsh S4C)Â
"Nid gwobr,
nid buddugoliaeth,
nid amod yw hawlÂ
ond haeddiant...haeddiant na ddylid ei gamdrin yr un fordd na'r llall" - Caryl Parry Jones
"I fi ma' Hawl yn golygu cael 4 botel o lager am ddim yn bob gig 'dw i'n ' neud"Â - Griff Lynch
"Ma' gen i hawl i beidio tyfu mwsdash adeg Tashwedd, ond dwin gaddo y byswn i'n gallu..." Griff Lynch
"Mae gen i hawl gwylio Pel droed ar bnawn dydd Sul, er y gwrthwynebiad gan fy nghariad, achos dwi'n talu digon am Sky" -Â Griff Lynch
"Mae i pob un yr hawl i fod yn gydradd a chyfartal" - Siw HughesÂ
"#Hawl at the moon.Os da chi isio bod yn fleidd-ddyn, peidiwch bod ofn.Does dim bwled arian ddigon mawr i chwalu eich breuddwydion!" Dyl Mei
"Yr hawl i ddefnydio'r Gymraeg! #dwieisiaubywyngymraegâ #Hawl - Sian HowysÂ
"Hawl yw yr hyn sy'n foesol ddyledus i ni mewn bywyd. Prin ddylai rhywun orfod gofyn am yr hyn sy'n hawl iddo, ond weithiau, rhaid brwydro." - Rhun ap Iorwerth
"Mae gan bawb yr hawl i fod yn nhw eu hunain, a neb arall. A does gan neb arall yr hawl i beidio a derbyn hynny" - Stifyn Parri
Fel ddwedodd cantores enwog unwaith - 'Does gen ti ddim HAWL i roi pobl yn y cawl'
"Dylai pawb fynnu eu hawliau, a'i briodi bob amser efo cyfrifoldeb" -Dafydd Iwan