Cor Mebion Taf yn TARO’R NODYN CYWIR AR DDECHRAU’R FLWYDDYN
TARO’R NODYN CYWIR AR DDECHRAU’R FLWYDDYN NEWYDD
Cynhelir ymarfer ‘agored’ gan Cor Meibion Taf ar nos Sul 10fed o Ionawr am 7.30 yn Eglwys y Tabernacl, Caerdydd. Yn ol arweinydd y Cor Steffan Jones: “Dyma ni ar drothwy blwyddyn gyffrous arall yn hanes y cor – gan gynnwys taith i Iwerddon; canu yn yr Albert Hall yn Llundain; a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni. Nifer o weithgareddau difyr, a hynny bob amser mewn cwmni da.”
Aeth Steffan Jones ymlaen i ddweud:
“Fel nifer o gorau meibion eraill ar draws y wlad rydym ni yn fyr o denoriaid felly fe fydd na groeso arbennig iddyn nhw, ond mae’n bwysig pwysleisio y bydd na groeso mawr i unrhyw un sydd yn awyddus i roi tro arni - boed yn gantorion profiadol neu yn rhywun sydd yn efallai yn canu yn gyhoeddus am y tro cyntaf.”
Bydd yr ymarfer yn agored i bawb, o bob oed, ac yn gyfle i unigolion eistedd a gwrando er mwyn deall mwy am sut mae’r cor yn gweithio neu i ymuno yn y canu os yw hynny’n apelio.
Mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos fod canu mewn cor yn gallu rhoi hwb i'ch iechyd ac yn dda i chi felly beth am fynd amdani ar ddechrau’r flwyddyn newydd trwy ymuno gyda Cor Meibion Taf.
Ewch i www.cormeibiontaf.com am fwy o fanylion am Cor Meibion Taf
[1] Can singing in a choir make me healthier? iWonder BBC Website http://www.bbc.co.uk/guides/zcc7tyc