Palenco - Cloudy Leftovers
(Scroll down for English)
Sengl i’w lawrlwytho am ddim – recordiaucaegwyn.com
Neu oddi ar iTunes
Allan 14/10/2016 ar Recordiau Cae Gwyn
Mae Recordiau Cae Gwyn yn falch o gael cyhoeddi y byddant yn rhyddhau sengl newydd Palenco, ‘Cloudy Leftovers’ ar y 14eg Hydref, 2016. Mae'r sengl yn aros yn driw i sŵn cyfoethog, melfedaidd y band – yn dalp godywynnol o gerddoriaeth ag iddi naws Hydrefol. Bydd y trac ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Mae Palenco’n cynnwys:
Llŷr Pari (Y Niwl, Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog)
Dafydd Owain (Jen Jeniro, Eitha Tal Ffranco)
Gruff ab Arwel (Y Niwl, Eitha Tal Ffranco)
George Amor (Omaloma, Sen Segur)
Osian Williams (Candelas, Siddi, Cowbois Rhos Botwnnog)
Dywed Dafydd o’r band, “Fe wnaethon ni recordio’r sengl yn stiwdio Drwm yn Llanllyfni. Roedd Llŷr a fi’n teimlo fel ein bod ni eisiau mwy o deimlad byw i’r sengl yma ’na rhai o’n recordiadau yn y gorffennol. Roeddem ni jysd yn teimlo fel ein bod ni eisiau camu mewn i’r stiwdio a chwarae’r gan ners oedd gena ni y take oedd hefo’r teimlad cywir”.
Mae’r band hefyd yn falch o gael gwaith gan yr artist Meirion Ginsberg yn glawr i’r sengl. “Dwi’n caru gwaith Meirion Ginsberg,” meddai Daf, “dwi’n meddwl fod ei waith o’n gweithio efo’n cerddoriaeth ni yn wych a dwi’n teimlo’n ofnadwy o falch ei fod o’n hapus i ni ddefnyddio ei waith fel clawr.”
Bydd Palenco’n perfformio yng Ngŵyl Glitch yn Oriel Mostyn, Llandudno ar 14eg Hydref i ryddhau’r sengl. Bydd y sengl ar gael i’w lawrlwytho am ddim o recordiaucaegwyn.com neu oddi ar iTunes.
------------------------------------------------------------------------------------------------
Cae Gwyn Records are delighted to announce the release of Palenco’s new single, ‘Cloudy Leftovers’ on 14th October, 2016. The track, a shimmering, autumnal tinged slice of intelligent guitar pop, will be available as a free download.
Palenco are:
Llŷr Pari (Y Niwl, Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog)
Dafydd Owain (Jen Jeniro, Eitha Tal Ffranco)
Gruff ab Arwel (Y Niwl, Eitha Tal Ffranco)
George Amor (Omaloma, Sen Segur)
Osian Williams (Candelas, Siddi, Cowbois Rhos Botwnnog)
Dafydd Owain on the recording process: “we recorded the single in Drwm studio, Llanllyfni. Llŷr and I felt we wanted a more live feel for this one compared to previous singles. We felt we needed to just get into the studio and play the song until we felt we had the take that felt right”.
The band are delighted the single’s artwork features a Meirion Ginsberg Painting. “I love Meirion’s work”, said Daf. “His work fits our music brilliantly and I feel very privileged that he’s happy for us to use one of his paintings”.
Palenco will launch the single at the Glitch Festival (Mostyn Art Gallery, Llandudno) on the 14th of October. The single will be available as a free download from recordiaucaegwyn.com and will also be available on iTunes.
https://soundcloud.com/palenco
http://recordiaucaegwyn.com/