Adolygiad Dianc - Bethan Gruffydd
Roedd y profiad o wneud y ffilm yma yn un wahanol iawn i'r gweddill oherwydd roedden ni wedi camu allan o’n llwybr cyfforddus ac wedi penderfynu rhoi sialens i’r grŵp ac i ffilmio mewn lle anarferol. Penderfynon ni ffilmio mewn coedwig oherwydd roedd hi’n ffitio mewn yn dda efo’r stori ac yn lle diddorol iawn i gael nifer o saethiadau hardd. Nid oedden ni wedi sylweddoli yn union faint y sialens cyn dechrau ond wrth i ni ddechrau ffilmio sylweddolon ni nid oedd y prosiect yma yn mynd i fod yn un hawdd o gwbl. Un o’r sialensiau mwyaf oedd cael yr offer i gyd fyny i’r goedwig a oedd wedi lleoli ar dop bryn consti. Roedd hyn yn broblem oherwydd cyn dechrau roedd y criw a’r actorion wedi blino felly roedd y diwrnod cyntaf o ffilmio wedi cael ei brysio oherwydd amserlen yr actorion a’r ffaith ein bod ni wedi gwastraffu amser i gyrraedd y lleoliad. Oherwydd amserlen yr actorion a phroblemau amser diwrnod cyntaf ffilmio, roedd rhaid i ni gael popeth tu fewn a thu fas mewn ychydig o oriau felly roedden ni wedi sicrhau bod pob saethiad gennym ni ond heb sicrhau bod digon o’r un saethiad i gael amrywiaeth felly roedd hi’n amlwg yn y ffilm derfynol, bod diffyg saethiadau ynddi a bod rhaid defnyddio saethiadau sigledig yn lle. Ond roedd yr her yn un ddiddorol oherwydd roedden ni wedi gwthio ein hunan ac wedi profi yn fy marn i, profiad go iawn ffilmio. Rydw i wedi dysgu llawer dros y pedwar ffilm ond roedd y profiad yma yn un wahanol yn enwedig wrth sicrhau bod y tripod yn y lle cywir ar bob saethiad oherwydd lleoliad y goedwig a deall pwysigrwydd sgript a stori board. Roedd yr actorion yn wych ac yn haeddu clod i glymu gwneud y ffilm yn ei amserlen brysur iawn
Bethan :D







