Doeddwn i ddim yn gwybod mai dyma ydi ystyr 'bala'. Llyfr Robert Macfarlane 'Landmarks' yn llawn o drysorau ieithyddol.

#dc comics#batman#dc#bruce wayne#dc fanart#dick grayson#tim drake#batfamily#batfam



seen from United States

seen from Netherlands
seen from Japan
seen from Malaysia
seen from Malaysia

seen from United States
seen from Romania
seen from United Kingdom
seen from China

seen from United States

seen from Germany
seen from Iraq
seen from United States
seen from United States
seen from Australia

seen from United Kingdom
seen from China

seen from United Kingdom
seen from China

seen from Pakistan
Doeddwn i ddim yn gwybod mai dyma ydi ystyr 'bala'. Llyfr Robert Macfarlane 'Landmarks' yn llawn o drysorau ieithyddol.
Am ryw reswm, oeddwn ni'n meddwl bod hwn allan o brint, ond, wedi cael copi heddiw yn Palas Print. (Adolygiad ar safle'r siop sy'n dwyn enw'r afon fawr yn dweud bod o'n un o'r llyfrau mwyaf diflas oedd y person 'rioed wedi'i brynu...Hmm...) Beth bynnag, yn ôl at Afon Cymyran. Ia, mae Gwilyn T. Jones yn cadarnhau'r pwynt am y culfor yn culhau, ond, bod y 'cymer' ddim byd i wneud ag afonydd yn ymuno: 'yn yr achos hwn, y cymer yw'r fan lle mae llif yr afon yn llifo i'r môr'.
Mae'r map o 1818 yn defnyddio ‘Cymmeran’ - felly, mae'n cadarnhau, dwi'n meddwl, mai ‘cymer’ ydi tarddiad 'Cymyran’. Hefyd, does dim golwg o afon yn mynd o Lyn Maelog i Draeth Llydan, felly mae'n amlwg bod hi wedi cael ei hadeiladu. http://www.oldmapsonline.org/map/britishlibrary/002OSD000000026U00282000
Gyda diolch i Jaci Huws am gyflwyno fi i i'r Ap 'Old Maps’.
‘Traeth Cymyran simply means “beach at the confluences”’. Doeddwn i ddim yn siŵr o hwn i ddechrau, ond: 1. Gyda help Maredudd ap Rheinallt ar FB, dwi'n meddwl mai o'r gair ‘cymer’ mae ‘cymyran’ wedi dod. 2. Yn ‘Afonydd Môn’, mae'r aber rhwng Ynys Cybi a gweddill Môn wedi ei nodi fel 'Afon Cymran’; mae afon arall, 'Carnau’, yn llifo mewn i hon ychydig i'r gogledd. Hwn ydi'r 'cymer’ am wn i.
http://www.geograph.org.uk/photo/763758
Yn dilyn fy nhrwyn o'r llinellau am ‘Llifon’, chwilio am hanes Goronwy Owen yn llythyrau'r Morrisiaid ydw i. Roedd Lewis yn fapiwr, wrth gwrs, ac mae hwn yn mynd a fi yn ôl at post echddoe lle roeddwn i'n trio i nabod yr afonydd. (Yn Arfon ac Eifionydd mae enwau afonydd ar y pontydd, sy'n helpu.) Mae'r ffordd mae'r llythyrau yn newid nôl ac ymlaen rhwng y ddwy iaith yn ddiddorol hefyd.
(Dim syniad be’ dwi'n trio'i wneud yma heblaw ‘chydig o gamau pob dydd ar ryw fath o lwybr i nunlle penodol.)
Yn dilyn fy nhrwyn o'r llinellau am ‘Llifon’, chwilio am hanes Goronwy Owen yn llythyrau'r Morrisiaid ydw i. Roedd Lewis yn fapiwr, wrth gwrs, ac mae hwn yn mynd a fi yn ôl at post echddoe lle roeddwn i'n trio i nabod yr afonydd. (Yn Arfon ac Eifionydd mae enwau afonydd ar y pontydd, sy'n helpu.) Mae'r ffordd mae'r llythyrau yn newid nôl ac ymlaen rhwng y ddwy iaith yn ddiddorol hefyd.
(Dim syniad be’ dwi'n trio'i wneud yma heblaw 'chydig o gamau pob dydd ar ryw fath o lwybr i nunlle penodol.)