Iolo a Coleridge
Syrffio'r we a dod ar draws y llinellau diddorol yma ym mlog Glyn Adda: ‘Y peth pwysig i’w gofio yw bod Iolo’n Gymro cwbl ddwyieithog. Dynion prin yw’r rheini […] fe ddechreuant frawddeg mewn un iaith a’i gorffen mewn iaith arall; a’r ffordd arall yn y frawddeg nesaf efallai’. Yn union fel yn llythyrau'r Morrisiaid, wrth gwrs. (Y cyd-destun ydi adolygiad o gyfrol o straeon gan Mihangel Morgan wedi'i disgrifio fel ‘Cydymaith ffuglennol i lenyddiaeth Cymru’: genre difyr - un arall i'r rhestr. Iolo a Coleridge yn cwrdd ydi'r syniad sy'n cael ei storïo (os ydi hwnnw'n air) yn ’Iolo yng Ngwlad yr Haf’.) https://glynadda.wordpress.com/2012/05/07/adolygiad-a-stori/













