Ar ôl 2 flynedd o Chwaraeon BME Cymru, mae Rheolwr y Prosiect Rajma Begum yn sôn am ei phrofiadau o reoli’r prosiect a’r gwaith sy’n cael ei wneud i annog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru.
Sefydlwyd prosiect Chwaraeon BME Cymru yn 2016 i gefnogi ffordd gynaliadwy o annog pobl BME i gymryd rhan mewn chwaraeon, gyda 3 prif flaenoriaeth:
Cynyddu cyfranogiad BME mewn chwaraeon
Meithrin gallu i gynnwys pobl BME mewn chwaraeon
Trechu anghydraddoldeb
Pan ddechreuais yn y swydd fel Rheolwr y Prosiect ddwy flynedd yn ôl, roeddwn yn gwybod y byddai’n her. Nid yn unig yr oedd gofyn i mi gyflawni’r uchod, ond hefyd rhedeg prosiect amlbartneriaeth, gan weithio gyda mudiadau ac unigolion amrywiol, sawl awdurdod lleol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, aelodau o’r gymuned a grwpiau…
Bu’n fwy heriol nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl, ond hefyd yn llawer mwy ffrwythlon a buddiol.
Mae’r prosiect nid yn unig wedi cyflawni’r targedau gweithredol (o ran cyfranogi, gwirfoddoli, digwyddiadau, partneriaethau) ond hefyd wedi sicrhau llawer o ganlyniadau ychwanegol eraill yn ymwneud ag iechyd, troseddau, hyfforddiant ac addysg, cydlyniant cymunedol, hyder, ac arwahanrwydd sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r amcanion gwreiddiol.
Er enghraifft, fel weler yn y fideo uchod, daeth Heather Lewis o Gaerdydd i adnabod rhai o’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn ei hardal a chafodd ei syfrdanu gan rai o’r pethau anodd ac ofnadwy yr oeddynt wedi bod drwyddynt. Ar ôl iddyn nhw ddangos brwdfrydedd wrth wylio ei thîm pêl-rwyd yn chwarae, sefydlwyd tîm yn arbennig i fenywod a oedd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches.
Fe wnaethom ariannu cost llogi ystafell a chymwysterau hyfforddi i Heather redeg y tîm yn effeithiol. Ers hynny mae athletwyr lleol wedi rhoi cyfarpar iddyn nhw a bellach cynigir yr ystafell i’r tîm yn rhad ac am ddim trwy’r eglwys lleol lle cynhelir y sesiynau.
Effaith y prosiect
Mae cyfranogwyr a gwirfoddolwyr wedi disgrifio gwelliant yn eu hiechyd, eu llesiant, eu hyder, ac maent yn fwy gobeithiol ynglŷn â’u llwybrau datblygu.
Mae’r gymuned BME yng Nghymru yn fwy ymwybodol o chwaraeon ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, gan ysbrydoli cylch ehangach drwy dafod leferydd
Mae mudiadau cymunedol wedi cryfhau eu trefniadau llywodraethu a dechrau gweithredu mewn meysydd newydd, gan sicrhau mwy o gyllid i gynnal gweithgareddau, ac wedi meithrin perthynas well â Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol
Mae tîm y prosiect ei hun wedi datblygu mwy o sgiliau a gwybodaeth, hyder mewn gwaith datblygu, hyfforddiant tiwtora, mae rhai bellach yn aelodau o fyrddau cydraddoldeb ac wedi ennill cymwysterau hyfforddi gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol
Mae gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol a phartneriaid ym myd y campau berthynas well â chymunedau BME yng Nghymru, dealltwriaeth well o ddiwylliannau a rhwystrau, ac wrth gwrs ystod ehangach o chwaraewyr sy’n golygu y bydd y cyfoeth o ddoniau yn parhau i gynyddu i’r Cyrff Llywodraethu!
Partneriaethau â’r Heddlu i gefnogi pobl drwy chwaraeon, gan leihau troseddau ac annog mwy i adrodd troseddau casineb
Ac wrth gwrs, mae WCVA yn cael gweithio mewn maes chwaraeon newydd ac mae ganddo berthynas well â grwpiau BME.
Rydym hefyd wedi comisiynu cwmni ymchwil UK RCS i archwilio a gwerthuso effaith ein gwaith ymhellach – bydd yr adroddiad hwn ar gael erbyn diwedd y mis.
“Ry’ ni fel teulu’n teimlo’n gymaint agosach ac wedi gwella ein perthynas ers i ni gymryd rhan yn eich prosiect”
Rhoi’r clod dyledus
Un o’r prif resymau dros lwyddiant y prosiect yw’r partneriaethau, wrth i bawb gydweithio â’i gilydd gan rannu’r un weledigaeth a rhannu adnoddau.
Felly rhaid i mi ddiolch i Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth a’u hymroddiad i brosiect Chwaraeon BME Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a’r partneriaid darparu – Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Criced Cymru, y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, Casnewydd Fyw, adran Chwaraeon Dinas Abertawe, GemauStryd, Chwaraeon Anabledd Cymru i enwi dim ond rhai.
“Mae Clwb Nofio Cyfeillion dŵr BME yn enghraifft berffaith o weithgaredd cymunedol lleol, rhad. Mae’n amser cyfforddus, i fenywod yn unig ac mae’n rhoi’r cyfle i ni ymarfer nofio heb hijab”
Y camau nesaf
Er ein bod wedi helpu dros 3000 o unigolion i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, wedi recriwtio dros 150 o wirfoddolwyr, wedi datblygu partneriaethau â dros 80 o bartneriaid ym myd y campau, wedi cefnogi dros 60 o grwpiau cymunedol, dim ond crafu’r wyneb yr ydym wedi’i wneud ac mae angen mwy o waith.
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod hynny, ac wedi ymrwymo i roi cefnogaeth bellach am y 9 mis nesaf. Bydd fy rôl i’n newid i ganolbwyntio ar 3 pheth:
Datblygu’r gweithlu – hybu sgiliau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol drwy ddarparu hyfforddiant ar gynnwys pobl BME a chymorth un wrth un
Ymchwil a dirnadaeth - deall beth sy’n cael ei ystyried yn arfer da ac annog pobl i ddysgu oddi wrth ei gilydd
Cydweithio strategol - helpu mudiadau i ddeall pwysigrwydd cynhwysiant BME a gweithio gyda nhw i greu newid.
Bydd timau Casnewydd ac Abertawe yn cael cyllid er mwyn parhau â’u Gwaith chwaraeon cymunedol ardderchog am y 9 mis nesaf.
Mae’r prosiect wedi datblygu’n fawr ers iddo ddechrau ac mae ganddo bellach swyddog pwrpasol ym mhob ardal, gyda fforymau yn dod â phartneriaid ym myd y campau at y gymuned, yn grymuso grwpiau cymunedol ac yn datblygu cysylltiadau ystyrlon o fewn cymunedau. Gobeithiwn gyflawni mwy fyth i’r gymuned BME dros y 9 mis nesaf.
“Mae fy mywyd wedi newid ers cymryd rhan yng ngweithgareddau’ch prosiect. Dwi ddim yn teimlo’n unig nac yn isel dim mwy”
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect neu gymorth gan y tîm, cysylltwch â Rajma drwy [email protected] neu ffonio 02920431726