Sengl Newydd Buddug / Buddug New Single 'Unfan' Out Now
Welsh Newcomer 'Buddug' releases here fantastic new single 'Unfan' (meaning 'One Place') on the 6th of September via North Wales Label Recordiau Côsh Records. 'Unfan' is vocally intimate to start, building into an anthemic and epic dreamy crescendo.
SENGL NEWYDD BUDDUG: 'UNFAN'
Cafodd yr artist ifanc o Frynrefail, Buddug, Eisteddfod wych ym Mhontypridd wrth iddi ymddangos mewn 3 gig llwyddiannus ei hun yn ogystal â bod yn westai arbennig yn ystod setiau Yws Gwynedd.
Mae llwyddiant ei sengl gyntaf, ‘Dal Dig’, wedi bod yn aruthrol, gyda dros 30k o ffrydiau yn barod a hefyd wedi denu cryn dipyn o sylw’r diwydiant yn cynnwys cael ei chwarae ar sioe BBC 6 Music Huw Stephens.
Mae Buddug wedi bod yn brysur yn ysgrifennu a recordio mwy o gerddoriaeth dros y flwyddyn dwytha', yn rhoi band at ei gilydd i berfformio’r caneuon yn fyw yn ogystal â chyflawni ei arholiadau lefela. Mae ei sioeau byw, oedd yn cynnwys perfformiad yn Tafwyl hefyd, wedi hoelio ei lle fel un o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru ac ‘Unfan’ yw'r dilyniant perffaith i ‘Dal Dig’, gyda mwy o gerddoriaeth i ddod yn fuan.
Bydd ‘Unfan’ yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Ifan Davies ar BBC Radio Cymru heno rhwng 19:00-21:00, gyda'r fideo sy'n cyd-fynd allan yfory ar Lŵp.
BUDDUG'S NEW SINGLE: 'UNFAN'
The emerging artist from Brynrefail, Buddug, had a great Eisteddfod in Pontypridd as she appeared in 3 successful gigs of her own as well as being a special guest during Yws Gwynedd’s sets.
The success of her first single, 'Dal Dig', has been tremendous, gaining over 30k streams already, and has attracted a lot of industry attention including being played on Huw Stephens' BBC 6 Music show.
Buddug has been busy writing and recording more music over the past year, forming a band to perform the songs live, as well as completing her A-level exams. Her live shows, which also included a performance at Tafwyl, have cemented her place as one of Wales' most exciting new talents, and 'Unfan' is the perfect follow-up to 'Dal Dig', with more music to come soon.
‘Unfan’ will be played for the first time tonight by Ifan Davies on BBC Radio Cymru between 19:00-21:00, with the accompanying music video to be released tomorrow via Lŵp.