Bore cyntaf y daith. 11.00yb, dydd Mawrth, 17eg o Fawrth. Ar y ffordd i Tŷ Ddewi sef Joilet, Illinois.
Acquired Stardust
2025 on Tumblr: Trends That Defined the Year
No title available
sheepfilms

Love Begins

Kaledo Art
occasionally subtle
Sweet Seals For You, Always

No title available
YOU ARE THE REASON

Discoholic 🪩
Stranger Things

祝日 / Permanent Vacation

blake kathryn
will byers stan first human second

Origami Around
Today's Document
h
RMH
Monterey Bay Aquarium
seen from United States

seen from France
seen from Egypt
seen from Canada
seen from United States

seen from Türkiye

seen from Australia

seen from T1
seen from Japan

seen from Germany

seen from United States
seen from Russia

seen from United States

seen from United States
seen from United States
seen from United States
seen from Croatia

seen from Indonesia
seen from United States
seen from United States
@maccy1415
Bore cyntaf y daith. 11.00yb, dydd Mawrth, 17eg o Fawrth. Ar y ffordd i Tŷ Ddewi sef Joilet, Illinois.
“Wedi gwisgo, wedi pacio, rwyt ti’n mynd ar dy ffordd. Wedi gadael heb ffarwelio rwyt ti’n mynd ar dy ffordd. Rhodio bodio, methu fforddio, teithio ar y tren...” Ti’n iawn fyna Ed. Ni methu afforddio trenau yn enwedig gyda Arriva trains Wales fel ma nhw ar hyn o bryd ac wedi cau bob ffordd o Aberystwyth lawr i’r de! So ni’n gofrod mynd mewn bws mini mewn llai na 12 awr. 8:30y/b adran TFTS fory byddwn ni’n mynd bant ar ein trip ni, gyda’n bagiau’n llawn losin a’n meddyliau ar agor yn barod am unrhywbeth yr holl fordd o Aberystwyth i Ystrad Fflur i Ty Ddewi i Aberdaugleddau i’r Mymbles ac wedyn i’r Bari. Diwrnod hir ond bydd e’n brofiad. #MACCYardaith
‘On The Road’ yng Nghymru
Wel am ddiwrnod o baratoi rydym ni wedi cael ac mewn llai 'na 10 awr byddem ni yn dechrau ar ein taith o gwmpas Cymru!!! Dyma i chi rhestr o'r daith derfynol.....
DIWRNOD 1, 17/03/15
Aberystwyth - Paterson, New jersey
Ystrad Fflur - Holland tunnel, New York
Tŷ Ddewi - Joilet, Illinois
Aberdaugleddau - Iowa City
Y Mwmbwls - Ogallala, Nebraska
Y Barri, Creston, Wyoming
DIWRNOD 2, 18/03/15
Ystradfellte - Salt Lake City
Felindre - San Fransisco
Trallwng - Selma
Bala - Bakersfield, California
Pontcysyllte - Delano, California
Rhuthun - Columbia Studios, California
Amlwch - Gallup, New Mexico
DIWRNOD 3, 19/03/15
Caergybi - Albuquerque
Dinas Dinlle - Wichita
Aberdaron - Kansas City
Portmeirion - St Louis
Bermo - Dayton, Ohio
Tywyn - Pittsburg
Borth - Newark
Aberystwyth - Paterson, New Jersey
Y diwrnod cyn y daith wedi ei grynhoi mewn 7 lun-
Diwrnod i fynd, ac mae pethau yn wyllt fan hyn yn yr adran Theatr Ffilm a Theledu. Fe ddylsa i wedi cadw “pedometer” arna i, er mwyn gweld faint ydw i wedi cerdded o gwmpas heddiw, mae’n rhaid bo fi wedi cwblhau marathon erbyn nawr! Fe ddechreuodd pethau yn dda yn gynnar bore 'ma, wrth i ni fynd am gyfweliad ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru i hybu'r daith. Roeddwn yn edrych ymlaen am y siwrnai yma cyn y cyfweliad, ac wrth weld yr holl sylwadau ar Twitter ar ôl y cyfweliad fe wnes i gyffroi yn fwy eto! Roedd hwn yn uchafbwynt i’r dydd, o fan hyn ymlaen, fe aeth bethau yn straenus iawn. Ar ôl codi bore ‘ma gyda llygaid coch tu hwnt, fe ddaeth hi’n amlwg fod gen i symptomau conjunctivitis, er nad oedd fy llygaid yn teimlo yn boenus. Roedd hyn yn golygu trip i’r fferyllfa. Ar ben hyn, fe wnaeth Alaw sylweddoli ei fod wedi anghofio pwrs arian hi adref, ac roedd hyn yn cynnwys y drwydded gyrru. Roedd Gwion hefyd yn sâl iawn dros y penwythnos, a dal i fod yn teimlo yn arw. Yna fe gawsom drafferth gyda llawer o’r offer, yn bennaf y Go-Pros, ac roedd cael gafael ar yr holl wisg a phropiau wedi ein gyrru ar draws y campws i gyd a hefyd o gwmpas dref. Nawr mae hi’n chwech o’r gloch, ac o’r diwedd mae e’n amser mynd adref am swper. Dyma saith llun sydd yn rhoi ein diwrnod mewn i bersbectif!
1. Joio yn stiwdio Radio Cymru. Bore llwyddiannus hysbysebi'r daith!
2. Lucy yn ceisio cadw trefn ar y holl offer...
3. Alaw yn stressio...
4. “Ummm Gareth, does gan yr adran ddim Go-Pros”
5. Gwion ar ôl i ni gael e-bost yn dweud fod y Go-Pros ar ei ffordd!
6. Gwion yn meddwl am rywbeth i ddefnyddio yn lle’r tan wyllt
7. Cael ychydig o wersi camerâu munud-olaf
Sal a’i darten afal
Mae'r countdown bellach wedi dechrau - mewn llai ‘na 36 awr byddem yn dechrau ar ein taith! Mae hynny'n rhoi braw imi oherwydd dwi heb ddechrau pacio eto gan fy mod i adref yn Llanfair Talhaiarn heno 'ma! Ond byddai'n dechrau nôl am Aberystwyth tua 7 bore fory er mwyn cyrraedd mewn digon o bryd i siarad ar rhaglen Dylan ar BBC Radio Cymru am 9.30. Mi fydd Lucy, Carwyn, Gwion a minnau yn trafod ein taith gyda Dylan felly tiwniwch mewn i ddarganfod mwy am y daith!
Fues i am ginio yn nhŷ nain heddiw a ges i darten afal cartref gyda hufen i bwdin.
Mi roedd o'n flasus tu hwnt - does dim byd yn dod yn agos at gacennau nain Joyce!
Efallai eich bod yn meddwl pam fy mod i'n ystyried tarten afal nain fel gymaint o beth yng nghyd-destun ein taith ni? Wel, i'r rhai ohonoch sydd wedi darllen On The Road gan Jack Kerouac, dwi'n siŵr y gwnewch chi ddeall. Ar daith Sal Paradise roedd tarten afal bron yn ddefod ddyddiol iddo, roedd Sal yn bwyta tarten afal yn bob stop mwy neu lai. Hyd at Nebraska wrth gwrs, yno gafodd o darten ceirios, dwi wedi meddwl pam a'r rheswm dwi wedi dod o hyd i (yn fy mhen) ydy gan nad oedd tarten afal ar y fwydlen. Nôl i darten afal nain - wrth sbïo i lawr ar y bowlen llawn melystra nefol meddyliais am Sal a'r holl dartenni afal roedd o wedi bwyta ar ei daith o. Ar ôl y llwyed cyntaf fe wnes i sylweddoli yn y fan a'r lle pam ei fod wedi bwyta cymaint.
Mae yna rywbeth cartrefol a cysurus mewn tarten afal hômêd, dachi'm yn cytuno? Dwi bron yn sicr roedd modryb Sal yn ei goginio nhw iddo, wel dwi'n licio dychmygu ei bod hi beth bynnag. Rwy'n tybio y roedd Sal yn teimlo'r un peth a mi gyda'r llwyed cyntaf yna - yn gynnes tu fewn. Mae'n anodd egluro rywsut ond mae o fel ryw don o gynhesrwydd pleserus ac rwy'n siŵr mae'r don yna roedd Sal angen wrth drafeilio. Rhywbeth bach i gadw o i fynd yn gorfforol a meddyliol ar ei daith.
Wrth gwrs efallai fy mod yn hollol anghywir ac yn meddwl gormod i mewn i'r peth ac efallai na'r unig reswm roedd Sal yn bwyta tarten afal oedd am ei fod yn flasus neu rhad!!!
Ond tybed os wnaiff unrhyw darten afal cael yr un effaith arna'i ac mae tarten nain yn? Cawn weld wythnos yma yn ystod ein taith ni o gwmpas Cymru
Dyw Gyrru Bws Mini Ddim yn “Big deal”... Yw e?
Yn wreiddiol, pan gychwynnon ni i feddwl am y syniad o fynd ar “road trip” y peth oedd yn fy nghyffroi i fwyaf oedd yn syml mynd i lefydd dydw i heb fod o’r blaen! Y Mwmblws, Aberdaron, Ystradfellte, Felindre... Roeddwn yn edrych ymlaen at allu bragio fy mod i wedi bod i’r holl lefydd ar hap yma ar draws y wlad! Wedyn fe wnes i newid fy meddwl. Fe wnes i gyffroi bach gormod pan ddysgais fod hawl gen i yrru bws mini, ac fe wnaeth y cyffro yna parhau i dyfu tan roeddwn yn eistedd tu ôl yr olwyn yn barod am ymarfer dydd Llun (9/3/15). Fe wnaeth y cyffro newid yn sydyn fewn i nerfusrwydd. Doeddwn i heb fod mor nerfus â hynny tu ôl olwyn cerbyd ers fy mhrawf gyrru! Roeddwn yn gwybod yn iawn sut i yrru, ac roeddwn yn gyfforddus yn gyrru gyda thri o fy ffrindiau, ond roeddwn i dal yn ofni rhywbeth am ryw reswm. Wrth i mi yrru'r bws yna o gwmpas y maes parcio gwag dydd Llun fe ddaeth pethau yn fwy amlwg, a nawr, dyma restr o bethau mae’n rhaid cofio am y bws mini, a’i rôl yn ein cynhyrchiad. 1af, ei faint. Mae hyn yn bwynt amlwg, ond fe wnaeth e ddim clicio go iawn tan fy mod i yno yn syllu ar y bws. Y rheswm am ddim cymryd car oedd oherwydd bod angen lle i bedwar person. Neu, yn fwy manwl- tri pherson tal, a Lucy. Mae hyn yn iawn mewn car wrth gwrs, ond mae hefyd angen lle ar gyfer lot fawr o offer. Ar ben yr offer technegol mae hefyd angen lle ar gyfer llawer o bethau arall, megis bwyd (gwerth tri dydd ohono!), propiau, dillad, mapiau, bwyd, ein nwyddau personol ni, a hefyd bwyd. Doedd car felly ddim yn opsiwn, felly'r cam naturiol nesaf byddai fan. Roedd hwn yn denu problemau arall. Yn bennaf, a fyddai lle i bedwar person i eistedd? Oherwydd yn aml mewn fan, tair sedd yn y blaen yn unig yw e... a hefyd, lle gallwn ni menthyg fan? Dydy fan ddim yn rhywbeth gallwch chi fwcio, neu rentu yn hawdd, a doedd dim un ohonom ni eisiau benthyg fan gan ffrind oherwydd ei fod yn rhoi mwy o bwyslais arnom i edrych ar ei ol. Yn ffodus, cawsom bris da am fws mini o’r undeb, ac roedd hawl gan bob un ohonom ei yrru gan fod gennym ni gyd drwyddedau glan. Roedd hyn yn berffaith- digonedd o le i eistedd, a storio offer! Ond yn fy mhen, roeddwn yn gweld maint bws mini yn debyg iawn i fan, a dyw fan ddim llawer yn fwy na char, heblaw ei fod llawer yn dalach. Felly cefais bach o sioc pan roeddwn yn sefyll ar bwys y bws yn gafael yn yr allwedd. Anwybyddwch y gair “mini” mae'r bws yma yn hir. Rili, rili hir! Mae e hefyd yn dal iawn ac mae'r bonet yn annisgwyl o hir. O, a hefyd mae e’n llydan. Llydan iawn. Ie, ar ddiwedd y dydd bws mini yw e, ac mae pobl yn gyrru pethau llawer fwy o gwmpas trwy’r amser. Ond, dydw i ddim yn gyrru nhw trwy’r amser. I fod yn hollol onest, mae hwn yn dipyn o gam i fyny o’r Fiesta rwy fel arfer yn gyrru. 2il beth i gofio hefyd yw maint yr hewlydd. Byddwn i siŵr o fod yn eithaf hapus i yrru lori enfawr, gydag undeg wyth olwyn ar drosffordd fel yr M4, ond yn anffodus does dim gennym lawer o hewlydd fel yna o gwmpas Cymru, yn enwedig ar y siwrnai rydym ni am gymryd. Mae llawer o’r ffyrdd am fod yn rhewlydd cefn cil iawn, a hefyd pentrefi cul a phrysur arfordir Cymru megis Tŷ Ddewi ac Abergwaun. Dim y lle perffaith i yrru bws mini enfawr. I ddweud y gwir, dim y ffyrdd gorau i yrru o gwbl! 3ydd peth i gofio yw rôl y bws. Dyw'r cerbyd yma ddim yn unig yn ffordd o gael ni ar draws y wlad. Mae e hefyd yn cario'r holl offer sydd angen, ac mae holl drefniadau pob dydd wedi ei seilio o gwmpas perfformiad y bws. Os mae'r bws angen newid olwyn, neu yn torri lawr am unrhyw reswm, bydd popeth yn cael ei wthio yn ôl, a bydd popeth yn gorfod newid. Unrhyw oedi yn nhrefniadau’r dydd, a bydd popeth yn mynd ar chwâl. 4ydd peth yw rhywbeth mwy dramataidd. Mae hwn yn rhywbeth dim ond myfyrwyr y cyfryngau creadigol gall ddweud; fe fydd gan y cerbyd bersonoliaeth. Erbyn diwedd y daith, beth bynnag bydd ei lwyddiant, bydd y bws mini yma wedi datblygu i fod yn gymaint o gymeriad a ni’n pedwar. Mae'r holl gynhyrchiad yma mynd i fod yn seiliedig ar ein taith, a fe fydd hynny yn cael ei ffurfio gan yr hyn sydd yn ein cludo o amgylch y wlad. Mae hyn mynd i ddigwydd yn naturiol, does gennym ddim llawer o reolaeth ar ba fath o gymeriad all gael ei greu. Mae hwn hefyd yn un elfen fydd yn gwahaniaethu ni gyda thaith Sal yn y llyfr On the Road. Yn y llyfr yna, dyw e ddim yn cadw at un fath o deithio digon hir er mwyn iddo allu sefyll allan. Yn y nofel, mae e’n teithio ar draws America mewn unrhyw ffordd bosib, lle gyda ni, fyddwn yn rhoi dibyniaeth llwyr ar fws mini'r undeb. Felly dyna ni, 4 diwrnod i fynd... Gobeithio dyw'r bws ddim yn torri lawr cyn y dydd nawr!
Llai nag wythnos i fynd tan y diwrnod mawr!
Felrhan o’r cwrs mae’n rhaid i ni gyflawni modiwl TCM1340 - Ymarfer Perfformio a Chynhyrchu Cydgyfeirianol. Er mwyn gwneud hynny mae gofyn i ni ddatblygu, paratoi a chreu cynhyrchiad neu ddarn o waith creadigol cydgyfeirianol a’i gyflwyno ar ffurf perfformiad byw neu ‘installation’ creadigol cyhoeddus. ‘Roadtrip’ oedd y gair roedd y 4 ohonom ni yn defnyddio wrth drafod beth oeddem ni am wneud ar gyfer y cynhyrchiad terfynol. Ac yn dilyn datblygiad o’r syniad yna fe ddaethom ar draws testun sydd wedi ysbrydoli ni ym mhellach eto sef llyfr ‘On The Road’ gan Jack Kerouac. Taith gyntaf y prif gymeriad, sef Sal Paradise, rydym wedi defnyddio fel sail ar gyfer ein taith ni. I ryw raddau mae’n addasiad ohono, ond bod ein taith ni yng Nghymru ac roedd un Sal yn yr UDA!
Felly dydd Mawrth nesaf fyddem yn mynd ar daith ac yn ymweld â 21 lle yng Nghymru mewn bws mini dros dridiau gyda phob lleoliad yn cyfateb a safle wnaeth Sal ymweld ag yn yr Unol Daleithiau.
Byddwn yn ystyried os yw 'roadtrip' yn bosib mewn gwlad fechan fel Cymru?
Be fedrwn ni ddysgu am Gymru gyfredol wrth deithio fel criw o bobl ifanc mewn bws mini?
Sut mae'n berthnasol (neu amherthnasol) i ystyried llefydd yng Nghymru fel cyfateb i lefydd penodol yn yr Unol Daleithiau?
Bydd y deunydd ac archif fyddem wedi casglu a chreu ar y daith wythnos nesaf yn cael ei golygu a’i haddasu er mwyn ei ddefnyddio, yn ogystal â chyfuno elfennau byw, yn ein perfformiad aml cyfryngol terfynol yn fis Mai. Ar hyn o bryd mae’r pedwar ohonom yn brysur iawn yn paratoi at wythnos nesaf unai yn llenwi ffurflenni iechyd a diogelwch, prynu nwyddau ac offer ychwanegol neu yn paratoi amserlenni. Heddiw rwyf fi wedi bod yn paratoi map o’r daith ar fap diweddar o ffyrdd Cymru er mwyn sicrhau bod pob ffordd byddem yn teithio ar yn bodoli! Dyma i chi'r daith byddem ni yn ceisio cyflawni mewn tridiau wythnos nesaf:
Mi fydd y daith yn dechrau bore dydd Mawrth yn Aberystwyth a fyddem yn teithio drwy De Cymru cyn mynd i fyny am y Gogledd fel y gwelwch yn y llun isod. Byddem yn mynd o Ynys Môn i Aberdaron cyn gorffen yn ôl yn Aberystwyth nos Iau.
Cadwch lygad ar y blog yma ac ein cyfrif Trydar er mwyn darganfod mwy am y daith!
Cofiwch ddilyn ni hefyd ar @abermaccy a chroeso i chi trydar gan ddefnyddio’r hashnod #maccy
Os mae gen i Twitter... Ydy hwnna yn golygu fy mod i’n newyddiadurwr?: Effaith y cyfryngau cymdeithasol ar y newyddion.
Sut ydych chi yn derbyn eich newyddion? Mae gwahanol ddatblygiadau yn y byd cyfryngol wedi creu nifer o newidiadau yn y ffordd mae newyddion yn cyrraedd y bobl. Mae hyn wedi creu nifer o sialensiau i’r cyfryngau print, ac wedi cael nifer fawr o bobl i feddwl a oes yna ddyfodol iddo?
“News, as we have known it for many years, has no natural right to exist if it cannot pay its way in a capitalist economy.”
-Freedman, D. 2010 (Tud 35)
“Simply put, if cable and satellite broadcasting, as well as the internet, had come along first, newspapers as we know them probably would never have existed”
-Freedman, D. 2010 (Tud 36, yn dyfynnu Buffett, 2007)
Mae Freedman yn y ddau ddyfyniad uchod yn cymharu sefyllfa'r papurau newyddion, (a hefyd newyddion ar y cyd), yn ôl ei pherthynas gyda’r byd gwleidyddol, a’r byd technegol. Mae e’n dyfynnu Buffett sydd yn dweud ni fyddau’r papurau wedi bodoli fel y maen nhw petai’r cyfryngau eraill wedi dod yn gyntaf. Mae e’n gwneud hyn yn y llyfr New Media, Old News: Journalism and Democracy in the Digital Age gan Natalie Fenton. Mae hyn felly yn cwestiynu pwrpas, a phwysigrwydd y papurau newydd. Rwy’n bwriadu esbonio beth sydd wedi digwydd i roi'r papurau newydd mewn i’r sefyllfa yma, a beth mae hynny yn gwneud i’r ffordd rydym yn derbyn ein newyddion dyddiau yma.
Datblygiad y cyfryngau, a’i pherthynas gyda newyddion
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, y papurau newyddion oedd y brif ffordd byddau unrhyw un yn clywed am unrhyw newyddion yn y byd. Ers hynny, mae'r papurau wedi goroesi nifer o ddatblygiadau yn y cyfryngau, yn bennaf dyfodiad y radio, yna dyfodiad y teledu, a hefyd dyfodiad y We. Oherwydd y gystadleuaeth enfawr, mae cwymp mawr wedi bod yn y niferoedd sy’n darllen y papurau newydd yn gyson. Mae'r ffigyrau yn profi fod y papurau llawer llai poblogaidd ers dyfodiad y We, ond serch hynny mae hefyd angen cofio fod y diwydiant print wedi goroesi nifer o ddatblygiadau enfawr yn y byd cyfryngol, ac maen nhw dal i fod yma heddiw, er yr holl sialensiau.
Nawr, sialens fwyaf y papurau yw delio gyda thyfiant y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith mawr ar y cyfryngau i gyd, ar sail cyfranogiad y gynulleidfa. Mae'r cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook a Twitter) yn golygu dydyn ni ddim yn grŵp enfawr goddefol rhagor, rydym lawer yn fwy rhyngweithiol ac ynghlwm gyda chynyrchiadau.
“People are creators, but only within carefully limited circumstances- most people cannot draw, but everyone can colour inside the lines.”
-Koster, R. 2013 (Tud 157)
Mae Koster yn son fod y cyfryngau newydd yn ein hannog i greu, ond o fewn ffiniau'r cyfrwng. Mae hyn wedi ei gymryd o’r llyfr Spreadable Media: Creating Value and Meaning in a Networked Culture gan Henry Jenkins, Sam Ford a Joshua Green, mae erthyglau tebyg ar ei wefan nhw Spreadable Media hefyd.
Pa effeithiau ydy'r cyfryngau cymdeithasol yn cael ar y byd newyddion?
Mae hyn yn golygu fod yna gyfryngau sydd yn gyflymach na erioed am gael y newyddion diweddaraf yn gyhoeddus. Mae naws anffurfiol y cyfryngau cymdeithasol yn golygu fod pobl yn gallu rhannu straeon yn syth, heb orfod oedi am gywirdeb a manylder. Gan fod y cyfryngau cymdeithasol ar gael i unrhyw un, mae unrhyw un yn gallu rhannu newyddion. Mae'r “smartphone” hefyd yn golygu does dim angen aros i fod ar gyfrifiadur tu ôl ddesg, gall stori cael ei rhoi ar lein eiliadau ar ôl iddo ddigwydd.
Cyfweliad gyda Jacob Ellis, llywydd yr undeb ym Mrifysgol Aberystwyth:
https://www.youtube.com/watch?v=oDf17Dtw7C8&feature=youtu.be
Yn y cyfweliad uchod, fe ddysgais sut mae hyn yn gallu fod yn ddefnyddiol yn y byd gwaith. Mae Jacob Dafydd Ellis yn llywydd ar undeb y myfyrwyr ym mhrifysgol Aberystwyth. Mae Jacob yn son yn y cyfweliad ei fod yn cael ei annog i ddefnyddio'r cyfryngau i gyd fel rhan o’i swydd, ac mae pob cyfrwng yn addas at wahanol fath o newyddion. Serch hynny, mae e hefyd yn esbonio fod nhw fel undeb yn defnyddio mwy o’r cyfryngau cymdeithasol i rannu newyddion ei hun, ac roedd dau brif reswm am hyn. Un, oedd ei fod nhw yn gwybod fod y rhan helaeth o’r myfyrwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ac felly mae e’n blatfform sydd yn cyrraedd y cyhoedd yn gyflym iawn. Yr ail brif reswm oedd bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn annog ymatebion, ac felly maent yn gwneud e’n haws i fyfyrwyr cysylltu yn ôl iddyn nhw gyda sylw ar unrhyw newyddion.
Mae dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar gyfranogiad y cyhoedd o fewn y diwydiant newyddion yn golygu fod gwaith newyddiadurwr proffesiynol llawer mwy cystadleuol. Mae'r cyfryngau wedi cael ei wneud yn fyd llawer fwy cyhoeddus sydd yn annog ymatebion gan y cyhoedd. Mae hyn yn golygu fod hyd yn oed fwy o bwyslais ar gyflymdra yn y diwydiant. Yr hyn sydd yn gwahaniaethu'r newyddiadurwyr amatur, i’r newyddiadurwyr gorau yw nifer o gysylltiadau defnyddiol. Mae Angela Phillips yn crybwyll pwysigrwydd adnabod pobl bwysig yn y llyfr New Media, Old News: Journalism and Democracy in the Digital Age;
“It is clear that the more important a reporter is, the more likely it is that they will have direct contact, via email and mobile phone with key sources. An experienced general reporter on a national newspaper will get 50 or 60 emails each day, most from PR companies. More junior reporters will have to spend time phoning around and asking for press releases- or checking organization websites in the hope that they have been published online.”
-Phillips, A. 2009 (Tud 94)
Mae'r gair “Canibalization” yn cyfeirio ato'r effaith mae'r pwysau yma ar gyflymdra wedi cael ar y newyddiadurwyr yn y diwydiant. Mae'r gair yn golygu cymryd deunydd pobl eraill, gan gymharu’r byd newyddion fel byd anifeilaidd iawn.
“What seems to be a rather more salient trend is direct cannibalization of copy. The ‘pack behaviour’ in which journalists are anxiously looking over their shoulders to make sure they are not falling behind (or moving too far ahead) of their rivals.”
-Phillips, A. 2009 (Tud 95)
Mae gramadeg effeithiol Phillips yn y dyfyniad uchod yn pwysleisio pa mor gystadleuol a greulon mae'r diwydiant, ac mae llawer o hynny oherwydd y gystadleuaeth fawr gan y cyfryngau cymdeithasol. Penderfynais fod hyn yn amser da i ystyried, sut mae'r diwydiant print wedi parhau hyd heddiw, er bod gymaint yn ei erbyn? Fe wnes i benderfynu cynnal cyfweliad trwy Facebook i olygydd papur newydd y myfyrwyr yn Aberystwyth, sef y Courier.
Cyfweliad Facebook gyda Katie Saint.
“I think people have a lot of trust in newspapers that they don't necessarily have in the internet. Anyone can write an article on the internet, so people are a lot more sceptical about websites and the validity of them. There aren't that many newspapers so their word still seems to carry more weight and respect with people, generally speaking.”
-Saint, K. (2014, mewn cyfweliad dros Facebook gyda Blayney, C.)
Fe wnaeth Saint son am yr ochr negyddol i gyhoeddusrwydd y We. Gan ei fod yn blatfform i unrhyw un i greu cynnyrch arno, mae yna gwestiynau yn codi am gywirdeb y cynnwys yna. Mae Saint yn credu fod gan y cyhoedd llawer fwy o ymddiriedolaeth yn y papurau newydd, a dyna sydd wedi cael y papurau newydd i oroesi hyd yma. Mae Alex S Jones yn cefnogi'r geiriau yma yn ei llyfr Losing the News: The Future of the News That Feeds Democracy. Mae Jones hefyd yn credu fod gan y cyhoedd fwy o barch tuag at y papurau newydd, ac mae Jones yn credu fod hyn yn bwysig iawn i gofio pan rydym yn ystyried dyfodol y diwydiant.
“The great problem for the nation’s newspapers is not whether they can save themselves, but whether they can do so without losing their meaningful public service mission.”
Jones, A, S. 2009 (Tud 153)
Yn ôl Jones, dyw goroesi ei hun ddim yn gymaint o broblem, ond yn hytrach goroesi heb golli ystyr a phwrpas y papur sydd yn anodd. A gall y papurau newydd gymryd mantais o’r we, a’r cyfryngau cymdeithasol?
Yn y cyfweliad gyda Katie Saint, fe ddysgais am y ffyrdd maen nhw gyda'r Courier wedi cymryd mantais o’r cyfryngau cymdeithasol. (Gweler yr atodiad yn y bennod ddiwethaf). Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio fel ffordd o hysbysebu effeithiol, gan ei fod yn blatfform mor gyhoeddus. Mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn blatfform arbennig i rannu dolennu i wefannau neu erthyglau eraill. Mae hyn hefyd yn gweithio fel fodd o hysbysebi gan ei fod yn rhoi rhagflas o stori o flaen bobl, sydd yn ei annog i ddarllen fwy. Yn ôl Alex S Jones, mae angen i’r papurau fod yn agored i newidiadau, a bod hyn yn beth arferol yn y byd newyddion ar y cyd;
“In a frenzy of change, every sector of the traditional news media has been trying to solve the riddle of how to remain solvent and relevant. There have been many “new media” moments for news, when some new technology came along and overturned what had been the accepted way of doing things.”
-Jones, A, S. 2009 (Tud 177)
Mae yna gysylltiad cryf felly rhwng y platfformau newyddion, a datblygiadau technolegol. Mae Jones yn pwysleisio fod angen i ni sylweddoli fod hyn yn naturiol, ac mae technoleg o hyd yn effeithio'r hyn rydym yn meddwl yw'r “ffordd draddodiadol” o dderbyn y newyddion. Mae technoleg yn datblygu o hyd, ac yn newid ein syniad o blatfform traddodiadol. I glou, dyma fideo o sgetsh gan Charlie Brooker sydd yn gwneud sbort ar y ffordd rydym yn derbyn y newyddion ar y teledu. Mae'r fideo yn profi ein bod yn dod i weld eisiau newidiadau yn y newyddion, a’r ffordd mae e’n cael ei chynhyrchu. Dim y papur newydd yn unig sydd yn gorfod bod yn barod i newid er lles y cyhoedd.
https://www.youtube.com/watch?v=aHun58mz3vI
380 geiriau o ddyfyniadau. 1240 o geiriau.
Llyfryddiaeth:
Brooker, C. (2010) How to Report the News: Newswipe. BBC FOUR (Mwy o wybodaeth yn y ddolen gyswllt yma- <http://www.bbc.co.uk/programmes/b00qbyth> )
Fenton, N. (2010) New Media, Old News: Journalism and Democracy in the Digital Age. SAGE Publications: Llundain
Gwefan Spreadable Media
http://spreadablemedia.org/
Gwefan The Courier: Aber Student Media http://aberstudentmedia.com/the-courier/
Gwefan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth
http://www.abersu.co.uk/
Jenkins, H. Ford, S. Green, J. (2013) Spreadable Media: Creating Value and Meaning in a Networked Culture. New York University Press: Efrog Newydd
Jones, A, S. (2009) Losing the news: The future of the news that feeds democracy. Oxford University press: Efrog Newydd
(Ar gyfer y llun gyntaf- https://ajrl475.wordpress.com/2011/02/08/r-i-p-newspaper-industry/ )
Ffynhonellau Gwreiddiol i'r ddogfen hon:
Blayney, C. Saint, K. (2014) Cyfweliad trwy Facebook
http://carwynblayney.tumblr.com/post/104610737358/cyfweliad-facebook-gyda-katie-saint
Blayney, C, Ellis, J, D. (2014) Cyfweliad fideo- Cyfweliad gyda Jacob am y newyddion
https://www.youtube.com/watch?v=oDf17Dtw7C8&feature=youtu.be
Chwildro Yr Aifft: Sut mae'r cyfryngau cymdeithasol a’r We yn gallu cael ei ddefnyddio i ymladd yn erbyn gwleidyddiaeth
Rydym yn byw mewn byd lle mae pawb wedi cysylltu. Rydym yn gallu tecstio, ffonio, neu e-bostio gyda dyfais fach sydd yn ein pocedai trwy’r amser. Mae cael mynediad i’r We yna yn agor fwy o ddrysau eto, ond gallwch chi ddychmygu beth fyddai’n digwydd petai ein llywodraeth ni yn penderfynu diffodd y We yn gyfan gwbl? Fe wnaeth hyn digwydd yn yr Aifft, mewn cyfnod sydd yn cael ei alw yn “The Egyptian Revolution”.
2011 oedd y flwyddyn lle digwyddodd y rhan helaeth o’r chwildro yma, er bod gwreiddiau'r chwildro yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd ymhellach. Roedd nifer o resymau dros y chwildro, ond y mwyafrif yn ymwneud gyda sut roedd y llywodraeth yn trin y cyhoedd. Mae nifer o’r rhesymau yn cynnwys diffyg swyddi, taliadau rhy isel a heddlu creulon. Roedd ymateb erchyll yr heddlu i’r protestiadau yn rheswm da dros chwildro yn ei hun. Roedd y cyfnod yn un o’r rhai tywyllaf yn hanes modern yr Aifft.
“The 25 January Revolution, which in 18 days dethroned the last Pharaoh, arose from the depth of oppression, injustice, poverty, unemployment, sexism, mockery of democracy, and police brutality”
-Boler, M. 2008 (Tud 53)
Mae'r cyfnod yn un enwog yn hanes yr Aifft, a hefyd yn enwog yn hanes y We. Roedd y we, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, wedi cael rôl enfawr yn y cyfnod yma. Fe ddaeth y We yn offeryn effeithiol yn gyntaf trwy grŵp ar Facebook o’r enw “We are All Khaled Said”. Grŵp oedd er cof am brotestiwr ifanc a oedd wedi cael ei guro i farwolaeth gan yr heddlu ar ôl iddo rannu fideo oedd yn dangos creulondeb yr heddlu. Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Wael Ghonim, a’i phwrpas oedd bod yn blatfform i ddenu unrhyw un oedd eisiau rhannu sylw am y chwildro.
(Wael Ghonim)
Roedd Ghonim yn weithiwr i Google, ac erbyn nawr mae e’n un o’r ffigyrau mwyaf adnabyddus yn y chwildro. Fe wnaeth Ghonim gwario 12 diwrnod yn y carchar oherwydd ei rôl o fewn y chwildro. Roedd y grŵp Facebook yma yn un o’r nifer o ffyrdd cafodd y We ei defnyddio i fantais y protestwyr. Roedd protestiadau enfawr yn cael ei threfnu trwy Facebook a Twitter, ac roedd pobl yn rhannu clipiau fideo a dogfennau oedd yn cefnogi'r achos. Dyma ddarlith gan Ghonim sydd yn esbonio'r defnydd o’r We mewn mwy o fanylder, ac o bersbectif un o’r prif chwyldrowyr.
https://www.youtube.com/watch?v=SWvJxasiSZ8
“These Platfforms, Facebook, Youtube, Twitter... it makes us realise we are not alone.”
-Ghonim, W. (2011)
Mae'r geiriau yma yn atgyfnerthu'r prif reswm fod y cyfryngau cymdeithasol wedi apelio gymaint at y protestwyr. Fel dywedais ar gychwyn y blog yma, mae'r cyfryngau cymdeithasol a’r We yn gwneud i ein byd fod yn un o gysylltiadau, ac roedd pobl yr Aifft yn defnyddio'r platfformau yma i sylweddoli nad oedden nhw ar ben ei hun, ac yn cysylltu nhw gyda phobl gyda'r un farn a nhw. “But people did not believe this... Because of the Internet, the truth prevailed” -Ghonim, W. (2011)
Roedd siarad allan yn gyhoeddus yn gallu cael person mewn i drwbl, felly roedd y We yn rhywle cyhoeddus gall rhywun rhannu ei barn a’i fod mewn ffordd fwy cyfrinachol. Fe wnaeth y grŵp We are all Khaled Said cael cannoedd ar filoedd o ddilynwyr, gan ei wneud y grŵp fwyaf Facebook o’r Aifft. Roedd pobl yn cwrdd â phobl eraill dros y grŵp yma, ac yna yn defnyddio'r platfform i drefnu i gwrdd i fyny gyda’i gilydd yn y byd go iawn.
“...connecting people from the virtual world, and bringing them to the real world”
“By the people, to the people... That was the power of the internet- there was no leader. Everyone was a leader on that page”
-Ghonim, W. (2011)
Wnaeth Ghonim hefyd son fod y grŵp yn hynod o effeithiol oherwydd doedd dim arweinydd. Doedd neb yn uwch na unrhyw un arall, ac roedd pawb yn ddylanwadol.
Fe sylweddolodd y llywodraeth pa mor ddylanwadol oedd y We i’r protestwyr, felly fe gychwynnodd y llywodraeth i gymryd y We i ffwrdd o’r cyhoedd. Yn gyntaf fe wnaethon nhw flocio Twitter yn y wlad ar y 25ain a’r 26ain o Ionawr. Y diwrnod nesaf, fe wnaethon nhw ddiffodd y We yn gyfan gwbl ar draws y wlad (heblaw am ychydig bach o adeiladau gwleidyddol). Roedd y We i lawr o’r 27ain o Ionawr hyd at yr 2il o Chwefror. Yn y llyfr Tweets and the streets: Social Media and contemporary Activism gan Paolo Gerbaudo, mae Gerbaudo yn cyfeirio ato’r mudiad Occupy sydd hefyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd effeithiol.
Mae Gerbaudo yn esbonio fod y cyfryngau cymdeithasol yn dechreubwynt i bethau mawr cael ei greu. Platfform felly sydd yn annog pobl i ddod at ei gilydd a threfni rywbeth.
“...Social media have been chiefly responsible for the construction of a choreography of assembly as a process of symbolic construction of public space which facilitates and guides the physical assembling of a highly dispersed and individualised constituency...
... the introduction of social media in social movements does not simply result in a situation of absolute spontaneity and unrestrained participation. On the contrary, influential Facebook admins and activist tweeps become ‘soft leaders’ or choreographers, involved in setting the scene, and constructing an emotional space within which collective action can unfold”
-Gerbaudo, P. 2012 (Tud 5)
Mae Gerbaudo yn addasu ar yr hyn dywedodd Ghomin yn ei darlith, ac yn dweud; er bod grwpiau Facebook a chyfrifau Twitter yn teimlo fel does dim arweinydd, mae yna rhai arweinwyr “medal” sydd yn cadw trefn ar yr holl syniadau a digwyddiadau. Mae'r rhain fel arfer yn golygu'r bobl a wnaeth creu'r grwpiau neu gyfrifau ei hun. Mae Gerbaudo yn dadlau fod hyn yn bwysig, er mwyn gwneud yn siŵr fod yr holl ryddid sydd ar lein yn cael ei chadw o fewn rheolaeth gynnil.
“Occupy Wall Street, for example, boldly states in its publicity that it is a ‘leaderless resistance movement’. But is this really the case? Is it true that social media allow contemporary social movements to become leaderless and horizontal spaces?” Gerbaudo, P. 2012 (Tud 134)
Mae Gerbaudo yna yn mynd ymlaen i son fod Ghomin yn un o’r arweinwyr “medal” yma, am ei fod yn dylanwadi gymaint o bobl eraill. Serch hynny, dydy pobl megis Ghomin ddim yn hoffi'r gair “arweinwyr” ac felly yn cael ei ddisgrifio yn llyfr Gerbaudo i fod yn goreograffwyr. Hynny yw, nid ydyn nhw yn dweud wrth y cyhoedd beth i wneud a ddim gwneud, ond yn hytrach maent yn siapio'r hyn sydd yn digwydd ar y grwpiau Facebook o bellter.
“Activists’ use of social media thus reveals the inherent tendency of mediated communication to isolate even while connecting, with possibly nefarious consequences for the development of collective action.”
Gerbaudo, P. 2012 (Tud 135)
Mae'r ffordd mae'r grwpiau Facebook yn gweithio yn eithaf tebyg i’r damcaniaeth cyfranogiad ar lein- Mae pawb yn gwneud ychydig i cyfranu at un peth mawr. Mae hyn yn ddamcaniaeth sydd yn cael ei ddefnyddio yn fwy yn y byd cyfryngol ers tyfiant y cyfryngau cymdeithasol. Mae term “collective intelligence” (deallusrwydd torfol) hefyd yn amlwg fan hyn, gan ei fod yn cefnogi'r syniad fod dim un person yn gwybod popeth, ond yn hytrach mae pawb yn gwybod ychydig, a gyda'i gilydd maent yn gallu creu rhywbeth arbennig.
Mae'r defnydd o’r We mewn sefyllfaoedd fel chwildro'r Aifft, a mudiadau Occupy yn glyfar oherwydd maent yn cymryd mantais o’r prif beth mae'r We yn gwneud, sef cysylltu pobl. Hyn oedd y cam cyntaf i’r Aifft, yna, trwy wefannau fel YouTube, Facebook a Twitter, roedd y byd yn gallu gweld beth oedd yn digwydd yn yr Aifft, doedd hyn ddim yn rhywbeth oedd yn gyfunedig i’r wlad yn unig. Roedd y tri gwefan hyn yn cael ei ddefnyddio fel tri cham i dangos y byd beth oedd yn mynd ymlaen yn yr aifft; Roedd Facebook yn rhoi platfform i’r protestwyr cysylltu â’i gilydd, roedd Twitter yna yn cael ei ddefnyddio i bobl ehangu ei barn ar draws y wlad, a YouTube yna yn cael ei ddefnyddio i rannu'r chwildro gyda'r byd. Yn y llyfr Digital Media and Democracy: Tactics in Hard Times mae Boler yn esbonio sut roedd hyn yn denu sylw gan bobl tu allan o’r Aifft;
“The live coverage has addicted its global audience to “being there”; it has given a new look to a world formerly covered by journalists who used to have to stop, set-up, broadcast, and break down every time they filed a report.”
-Boler, M. 2008 (Tud 175)
Mae'r defnydd aml gyfrwng o’r We yn gwneud i bobl eisiau gweld beth sydd yn mynd ymlaen mewn gwledydd eraill, a chael profiad agos iawn o’r digwyddiadau. Mae cyflymdra'r cyfrwng yn gwneud i bobl eisiau gweld neu ddarllen mwy, ac roedd hyn wedi gweithio yn effeithiol iawn i’r protestwyr oedd ynghlwm a chwildro'r Aifft. Fe wnaeth y We rhoi platfform i’r bobl cael ei lais allan yn gyhoeddus, a trwy gysylltu gyda'i gilydd ar y we, roeddwn nhw yna gyda’r pŵer i rannu'r chwildro gyda’r byd.
322 geiriau o ddyfyniadau. 1187 o eiriau.
Llyfryddiaeth:
Boler, M. (2008) Digital Media and Democracy: Tactics in Hard Times. MIT Press: Unol Daleithiau America
Castells, M. (2012) Networks of Outrage and Hope: Social Movements in the Internet Age. Polity Press: Deyrnas Unedig
Gerbaudo, P. (2012) Tweets and the Streets: Social Media and Contemporary Activism. Pluto Press: Llundain
Ghonim, W. (2011) Wael Ghonim: Inside the Egyptian Revolution. TEDxCairo: Yr Aifft (Darlith ar lein ar gael ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=SWvJxasiSZ8 )
Ghonim, W. (2012) Revolution 2.0 http://www.fastcompany.com/1809458/revolution-20-google-marketing-exec-wael-ghonim-and-facebook-page-changed-world
Gwefan Occupy Together http://www.occupytogether.org/
Gwefan Public Intelligence
https://publicintelligence.net/egyptian-revolution-photos-february-2011/
Gwefan The Guardian http://www.theguardian.com/world/2012/may/01/may-day-occupy-protests-live
Blogio + Gwleidyddiaeth = Herio’r drefn.
Gyda blogio daw cyfrifoldeb, cyfrifoldeb dros yr hyn maer blogiwr yn ei ddweud neu geisio ei ddweud. Nid yn unig barn unigolyn yw blog, mae pŵer gan yr unigolyn yna i drafod mater/sefyllfa ar blatfform cyhoeddus ar-lein a denu diddordeb unigolion eraill i mewn i’r pwnc. Felly mae blog cymaint fwy na phlatfform i leisio barn. Mae Randy Barron, rheolwr adnoddau gyda’r cwmni Axis Technology yn disgrifio blog fel “communication channel, and that’s all it is.” Yn y bôn, mae Randy yn iawn, gan fod blog yn galluogi pobl i gyfathrebu gyda’i gilydd. Ond mae blogiau hefyd yn ategu at sianelau cyfathrebu sydd yn bodoli eisoes megis e-bost, post, safleoedd gwe draddodiadol a'r ffôn. Mae Ted Demopolous yn crynhoi blog fel hyn “Blogs are a one-to-many communication channel; the blogger posts and many people see that post.” (Demopolous, 2006, t.5.) Mae'r blogosffêr yn adnodd enfawr, ac nid oes angen i chi gynhyrchu cynnwys i elwa ohono. Nid pawb sydd yn blogio ond ynghyd a’r unigolion sydd yn blogio mae llawer o bobl yn elwa yn sylweddol, er ei fod nhw ddim yn blogwyr ei hunain. Mae Seth Godin, awdur a ‘guru’ marchnata ac yn flogiwr llwyddiannus iawn, wedi creu categoreiddiad unigryw o blogs. Mae’n dweud bod tri math o flog yn bodoli sef: ‘cat blogs’, ‘boss blogs’ a ‘viral blogs’.
(Demopolous, 2006, t.11+12)
Y categori diwethaf yw’r math o flog mwyaf cyffredin, yn enwedig yn y Gymraeg gyda rhai eithriadau o ‘cat blogs’ hefyd ar wefan Blogiadur. I’r rheini ohonoch sydd erioed wedi clywed am Blogiadur o’r blaen - mae’n wefan sydd yn cofnodi a chyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg ar-lein yn ddyddiol.
Rhaid oedd cael syniad cyffredinol o ystyr blog cyn bod hi’n bosib mynd ati i ystyried a thrafod pŵer blogio wrth herio confensiynau, testunau a materion mewn cyd-destun gwleidyddiaeth; sef bwriad y blog yma. Yn y gorffennol mae nifer o achosion lle mae blogwyr wedi cael ei harestio yn y cyfryngau ond mae cynnydd yn yr achosion yma wedi bod tua’r Dwyrain dros y ddwy flynedd diwethaf. Ac efallai bod hynny oherwydd ‘shifft’ gwleidyddol y Dwyrain. Mae’r map isod yn amlygu sefyllfa gwledydd y byd o ran rhyddid y wasg a chyhoeddusrwydd.
“The 2014 World Press Freedom Index spotlights the negative impact of conflicts on freedom of information and its protagonists. The ranking of some countries has also been affected by a tendency to interpret national security needs in an overly broad and abusive manner to the detriment of the right to inform and be informed. This trend constitutes a growing threat worldwide and is even endangering freedom of information in countries regarded as democracies.” Mae’n amlwg wrth edrych ar y map bod gan y Dwyrain llawer o broblemau gyda rhan helaeth o’r gwledydd yn goch, sef ‘Difficult situation’, a du, sef ‘Very serious situation’. Rheswm teilwng dros hynny yw pŵer gwleidyddiaeth a hierarchaeth o fewn y gwledydd. Ond mae blogio yn galluogi pobl sleifio trwy grafangau pwerus y llywodraeth/wladwriaeth a phwerau eraill o fewn y gwledydd a lleisio ei barn ar wleidyddiaeth.
Mae Perlemetur yn trafod gwleidyddiaeth a blogio yn ei llyfr Blogwars : The New Political Battleground, er bod o yn Americanwr mae’r nodweddion craidd mae o’n nodi yn rhai sydd yn cael ei defnyddio yn fyd-eang. Mae o’n egluro blogio gwleidyddol fel hyn “(a) bypassing regular big media, (b) creating mass communication messages without formal training (like, say, attending my journalism school), (c) reaching, in some cases, large audiences, (d) inviting others to “wiki” or coauthor accretive knowledge, and (e) producing a range of effects on contemporary public opinion, political campaigns, public affairs argumentation, and even governmental policymaking. In addition, to paraphrase The Godfather, political blogging was and is not just business; it’s personal. (Perlmutter, 2008, t.xvi + xvii) Sydd yn golygu bod blogio gwleidyddol yn gyfle i’r cyhoedd lleisio barn ar wleidyddiaeth a’r hyn sydd wir yn digwydd yn ei gwledydd nhw. Ond yn y Dwyrain mae’r pŵer gwleidyddol sydd uwch pennau trigolion yn sathru ar yr hawl hynny.
Yn mis Mai 2013 cafodd Rasel Parvez, blogiwr o Fangladeshi, ei arestio am "derogatory comments about Islam." (Hossain, 2013) Ac mae Parvez wedi cael ei dynodi fel blogwr anffyddiwr oherwydd fe fentrodd i feirniadu’r camddefnydd o grefydd sydd yn enghraifft dda iawn o’r pŵer mae gan blog. Mae ‘microblogs’ Tseiniaidd yn yrwyr ar farn gyhoeddus erbyn hyn, gydag unigolion yn tynnu sylw at ‘corruption’ swyddogol. Cafodd Qin Zhihui ei garcharu am 3 mlynedd ym mis Ebrill eleni, roedd Qin yn euog o athrodi a phigo a phryfocio dadleuon ar-lein.(The Guardian, 2014) Yn ôl y BBC mae’r cynnydd mewn arestiadau yn “testament to the ‘growing’ political importance of blogging. It noted that arrests tended to increase during times of "political uncertainty", such as around general elections or during large scale protests.” (BBC News, 2008) Yr achos mwyaf eleni oedd yn Ethiopia lle cafodd naw blogwr ei harestio oherwydd natur ei blogiau ar wleidyddiaeth Ethiopia. Mae hyn yn adlewyrchu pa mor allweddol mae rhwydweithiau cymdeithasol ac yn benodol blogiau i ddemocratiaeth Ethiopia. Mae grwpiau hawliau dynol wedi cwyno dro ar ôl tro am ddiffyg rhyddid y wasg yno. Mae rhan fwyaf o'r gorsafoedd teledu a radio wedi ei redeg gan y wladwriaeth. Oherwydd hyn, mae'r gwrthwynebiad i’r ffordd mae Ethiopia yn cael ei redeg yn dominyddu cyfryngau cymdeithasol yn y wlad. “Because of this, the opposition and activists, including those based abroad, have come to dominate social media conversation in the country.” (Rakusen, 2014)
O ganlyniad i’r drafodaeth uchod ynglŷn â phŵer blogiau mewn cyd-destun gwleidyddiaeth y Dwyrain mae’n amlwg bod blogio a chyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl allweddol a cenedlaetholgar. Mae’n rhoi cyfle i bobl gael llais, efallai nad oes ganddyn nhw o ddydd i ddydd. Felly mae’n bwysig iawn bod blogwyr yn dal i flogio am wleidyddiaeth ac i ddefnyddio'r pŵer sydd yn dod gyda blog i herio a newid y drefn wleidyddol.
Llyfryddiaeth
BBC News (2008) Blogger arrests hit record high. [Ar-lein] I’w weld ar: http://news.bbc.co.uk/1/hi/technology/7456357.stm (Darllenwyd: 07/12/14)
Demopoulos, T. (2006) What No One Ever Tells You about Blogging and Podcasting : Real-Life Advice from 101 People Who Successfully Leverage the Power of the Blogosphere. Chicago: Dearborn Trade
Hossain, E. (2013) Bangladesh Bloggers Face Constant Death Threats Since Government Labeled Them 'Atheist'. [Ar-lein]I’w weld ar: http://www.huffingtonpost.com/2013/05/18/bangladesh-bloggers-death-threats_n_3294831.html (Darllenwyd: 07/12/14)
Perlmutter, D. (2008) Blogwars : The New Political Battleground. USA: Oxford University Press.
Rakusen, I. (2014) #BBCtrending: Jailed bloggers spark Ethiopia trend [Ar-lein] I’w weld ar: http://www.bbc.co.uk/news/blogs-trending-27212472 (Darllenwyd: 07/12/14)
The Guardian (2014) Chinese blogger jailed under crackdown on 'internet rumours'. [Ar-lein] I’w weld ar: http://www.theguardian.com/world/2014/apr/17/chinese-blogger-jailed-crackdown-internet-rumours-qin-zhihui (Darllenwyd: 07/12/14)
“Given the impetus for using Welsh on the Web, it would seem reasonable to expect the Web to be making a significant contribution towards enhancing the legitimacy, institutionalisation and normalisation of the Welsh language.” (Cunliffe, 2001; Linguacambria Cyf., 2001)
Yn y post blog yma byddaf...
Yw'r iaith Gymraeg yn cael amser Roughion neu Roughiawn ar y we?
“Given the impetus for using Welsh on the Web, it would seem reasonable to expect the Web to be making a significant contribution towards enhancing the legitimacy, institutionalisation and normalisation of the Welsh language.” (Cunliffe, 2001; Linguacambria Cyf., 2001)
Yn y post blog yma byddaf yn trafod ieithoedd lleiafrifol ar y we gan ganolbwyntio ar Roughion sef band electronig Cymraeg o Aberystwyth. Byddaf yn gweld sut mae ei cherddoriaeth wedi cyrraedd rhannau eraill o’r byd a sut mae ieithoedd lleiafrifol yn cael ei phortreadu ar y we gan weld os mae’r we yn beth da neu ddrwg i’r iaith Gymraeg..
I ddechrau hoffwn esbonio beth yw Roughion. Roughion yw grŵp gerddoriaeth electronig o Aberystwyth. Maent yn defnyddio samplau mawr yr iaith Gymraeg megis araith Tynged yr Iaith Saunders Lewis a cherdd Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen a’i moderneiddio nhw i ganeuon mae pobl yn gallu dawnsio ac ymlacio iddynt. Ei phrif nod yw cael yr iaith Gymraeg allan i’r bobl ifanc sydd wedi lari gyda sychder a ffurfioldeb yr iaith.
Gan fod Roughion yn gwneud y math yma o bethau gyda’i cherddoriaeth maent wedi cael llwyddiant ysgubol hyd yma ac wedi cael ei chwarae ar BBC Radio Cymru a Cymru FM nifer o weithiau. Mae dros i dri chant a hanner o bobl wedi gwrando ar y gan Chilmeri. Yn ogystal â hynna mae dros i dair mil o ‘plays’ ganddynt ar ei thudalen Soundcloud. Dangosai hyn bod gan Roughion rhywbeth arbennig sydd yn cyfrannu at y nifer o dudalennau Cymraeg ar y we.
https://soundcloud.com/roughion
Yn ogystal â defnyddio'r wefan Soundcloud mae gan y grŵp dudalen Facebook ac mae dros i ddau gant o bobl wedi hoffi'r dudalen. Ar y dudalen yma mae pobl di Gymraeg a phobl Cymraeg wedi ei hoffi felly mae’n rhaid cyfieithu rhai postiai. Gall hwn fod yn wrthgynhyrchiol i’r iaith ar un ochr ond mae’n helpu ar yr ochr arall mae’n dibynnu ar sut rydych yn edrych arno. Yn fy marn i gredaf fod cyfieithu yn beth da i’r iaith yn enwedig ar wefan mor fawr â Facebook gan iddo fod yn galluogi pobl i geisio gweld sut mae dweud y frawddeg yn yr iaith Gymraeg. Gall hwn beri problem gan fod Facebook gydag algorithmau eithaf cudd sydd yn rhwystro pobl sydd yn methu'r iaith Gymraeg weld eich postiai. Rwyf wedi ceisio cael enghreifftiai o hyn ac yn y fan yma gallwch weld fod llai o bobl wedi gweld y statws sydd gyda’r Gymraeg yn rhan o honno.
Mae bod yn rhan o ddwy wefan cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o hyrwyddo eich gwaith, ond yn ogystal â hynny mae’n galluogi chi i ddod a’r iaith i nifer arall o bobl o gwmpas y byd. Un enghraifft o hyn yw’r llun yma.
Nid oeddwn yn adnabod y dyn yma tan ar ôl iddo rannu'r gân Chilmeri. Fel rydych yn gweld mae’n dod o’r Unol Daleithiau America ac mae ganddo dros wyth mil o ddilynwyr ar ei dudalen Soundcloud. Gweler mai’r trydydd gan i lawr ar ei dudalen yw Chilmeri gan y band o Aberystwyth Roughion. Gwelaf hwn yn ffordd ardderchog o sut mae’r we yn cadw ieithoedd i fynd a’r ffordd maent yn cyrraedd yr uchafion cyhoeddus. Ond y broblem gyda hwn yw efallai nad yw’r bobl yn America a gweddill y byd yn adnabod pa mor enfawr yw’r gerdd Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen. Mae hwn yn dod a fi at ddyfyniad gan Dr Leanne Hinton yn ei llyfr The Green Book of Language Revitalization in Practice. Dywedai. “It is one thing to bring a language to the Internet and quite another to bring a culture” (Hinton, 2001)
Mae’r dyfyniad yna yn bwysig iawn yn y ffordd mae’r iaith Gymraeg yn eistedd ar y We. Gweler bod yna amryw o bethau doniol yn yr iaith Gymraeg ar Tumblr megis “Ffoc Ia Pobz”. Mae’r blog Tumblr yma yn ddoniol iawn i’r rhan fwyaf o bobl sydd yn dilyn Pobl y Cwm ac sydd yn adnabod y rhaglen deledu. Ond pe tai estron yn cael ei rhoi ar y we i archwilio fewn i raglenni teledu'r Cymry ac i’w diwylliant mi fydd yn ei weld yn anodd iawn i ddeall yr hiwmor heblaw am y lluniau o Denzil, neu Denz1l fel caiff ei roi ar y wefan.
I gloi credaf fod ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg yn cael ei portreadi yn dda ar y we ac i ddyfynni Yazz cerddor o’r 80au credaf mai “The Only Way is UP” oherwydd fel yma fydd yr ieithoedd yn esblygu.
https://www.youtube.com/watch?v=82bb7sNzdN8
Llyfryddiaeth
Multiple Authors (2007). Minority Language Media: Concepts, Critiques and Case Studies. Bristol: Multilingual Matters Ltd. 1.
Cunliffe, D. (2001). Promoting minority language use on bilingual Web sites. (1),
Hinton, L. Hale, K (2001 ). THE GREEN BOOK OF LANGUAGE REVITALIZATION IN PRACTICE . Boston : Brill .
Gwefannau.
http://pobz.tumblr.com/image/103119977962
https://soundcloud.com/roughion
https://www.facebook.com/Roughion
https://soundcloud.com/aaron_jackson
http://www.aber.ac.uk/mercator/images/cunliffefinal.pdf
www.ieithoedd-lleiafrifol-ar-lein.Cymraeg
Mae’r frwydr dros yr iaith Gymraeg yn dal i fodoli hyd heddiw ac yn siŵr o barhau ond dyw hynny ddim yn synnu gan ei fod yn debyg i unrhyw sefyllfa iaith leiafrifol arall sydd yn mynnu ffynnu. Catalonia a Gwlad y Basg sydd wedi bod yn cynrychioli ieithoedd lleiafrifol yn y newyddion yn ddiweddar wrth iddyn nhw geisio am annibyniaeth. Yn gynharach yn y flwyddyn yr Alban oedd yn mynnu ei hawliau hwy dros annibyniaeth ond ni lwyddont nhw er mor agos yr oedd hi.
Ac o’r herwydd mae presenoldeb poblogaethau lleiafrifol yn y cyfryngau wedi cynyddu eleni -efallai nad oedd cynydda mewn iaith leiafrifol yn y cyfryngau ond bu bendant twf ymwybyddiaeth y byd o’r poblogaethau lleiafrifol ag iaith draddodiadol ei hunain. Fodd bynnag, bwriad y blog yma yw trafod amgylchiadau ieithoedd lleiafrifol ar-lein gan wedyn canolbwyntio yn bennaf ar y Gymraeg.
Mae uchafiaeth iaith (language dominance) yn broblem ar-lein ers datblygiad y rhyngrwyd ac mae gwerthoedd Gorllewinol a’r iaith Saesneg wedi rhagori. Ac mae llawer o dechnoleg ac athroniaeth sylfaenol y Rhyngrwyd presennol dal i wreiddio o’r diwylliannau ac ieithyddiaeth yma. Er gwaethaf hynny mae enghreifftiau o ymdrechion i geisio cynrychioli ieithoedd lleiafrifol yn y cyfryngau yn bodoli. Yn 1992 fe cyflwynwyd Cyngor Ewrop Siarter ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol ac yn erthygl 11 o’r siarter maen nhw’n trafod ac yn awgrymu elfennau cyfryngol o deledu, radio a phapurau newydd ond nid oes sôn o gwbl am y rhyngrwyd nac ychwaith os yw hi’n bosib i wasanaethau’r cyfryngau bod yn lleoledig ar-lein. Mae David Crystal yn nodi pwysigrwydd technoleg electronig yn ei llyfr Language Death “an endangered language will progress if its speakers can make use of electronic technology” (Crystal, 2000, t.141) Er bod technoleg electronig yn cwmpasu amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys radio a theledu, mae Laura Buszard-Welscher yn honni bod cyfryngau ar-lein a’r rhyngrwyd efo rôl arbennig o bwysig i'w chwarae yn nyfodol ieithoedd lleiafrifol. Ac yn ôl ymchwil UNESCO yn 2004 mae’n gyfryw bod mwy o ddeunydd iaith leiafrifol yn cael ei gynhyrchu ar-lein nac sydd drwy argraffu traddodiadol a defnydd gweledol a chlywedol.
Mae’r llun isod yn crynhoi rhai agweddau o ba mor helaeth yw’r we fyd-eang ac yn rhoi syniad i chi o’i maint anferthol.
Mae gwerth felly nodi bod y we yn blatfform eang, elfennol ac enfawr yn enwedig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol a gan fod y we mor enfawr mae’n anodd weithiau dychmygu gall iaith leiafrifol cael cydnabyddiaeth ar-lein o gwbl. Ond i ba raddau mae gan Gymraeg bresenoldeb ar-lein?
Mae META-NET, sef rhwydwaith o ragoriaeth a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi cynnal dadansoddiad o’r adnoddau a thechnolegau ieithyddol cyfredol, yn ymroddedig i feithrin a chyfoethogi'r sylfaen technolegol o gymdeithas gwybodaeth amlieithog Ewropeaidd. Ac yn ddiweddar mae META-NET wedi creu cyfres o bapurau gwyn sydd yn darparu gwybodaeth werthfawr ynghylch technoleg iaith Gymraeg a’i photensial. Pwynt 3.7 ‘Y Gymraeg Ar Y Rhyngrwyd’, yn bapur gwyn Jeremy Evas ‘Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol’, sydd yn codi ystadegau swyddogol ynglŷn â’r Gymraeg ar-lein. Gan ddywed bod “Y Gymraeg yw’r 65ain iaith fwyaf cryf ar Wikipedia, yn ôl cynnwys (a chanddi oddeutu 49,000 erthygl), sy’n profi hyfywedd ac egni’r gymuned cod agored o lunwyr cynnwys gwirfoddol. Mae nifer o borwyr eisoes â rhyngwyneb ar gyfer y Gymraeg (Internet Explorer, Opera, Firefox), a sawl un arall, heb feddu ar ryngwynebau Cymraeg, ond yn caniatáu i locale y porwr gael ei newid i Gymraeg er mwyn awtomeiddio cyflwyno cynnwys Cymraeg.” (Evas, t.17)
Ond gall amryw o bethau effeithio ar Gymraeg ar-lein er enghraifft mae Atkinson a Powell yn crybwyll achos yn 1996 lle'r oedd bwrdd negeseuon a oedd yn croesawu’r iaith Gymraeg wedi newid ei bolisi unwaith roedd y bwrdd dan reolaeth newydd, rheolaeth ddi-gymraeg, ac felly o ganlyniad nid oedd hi’n bosib gyrru negeseuon yn Gymraeg ar y bwrdd bellach. “But following complaints by both Welsh speaking and non-Welsh speaking users and intervention by the Welsh Language Board, a bilingual moderator was appointed.” (Cormack a Hourigan, 2007, t.140) Yn ei lyfr ‘Wales on the Web’ mae Andrew Green yn sôn am gynnwys unigryw Cymreig ar y we gan gyfeirio at Iaith Pawb, sef strategaeth gan Lywodraeth y Cynulliad ar ddyfodol yr iaith Gymraeg gan ddweud “that it is very cautious about measures to promote the Welsh language and its use on the internet.” (Green, 2005, t.25) Mae dogfen strategaeth ddiweddar gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Technoleg gwybodaeth â'r iaith Gymraeg, yn dechrau llenwi'r bwlch hwn er ei fod yn canolbwyntio ar dechnolegau yn hytrach na chynnwys.
Mewn deialog ar-lein ‘Using Citizen Media Tools to Promote Under-Represented’ gyda New Tactics, Rising Voices, Indigenous Tweets a sawl ymarferydd arall bu cwestiynau megis Why is a language underrepresented online? a How do you build an online community committed to building this language online?. Gyda thrafodaeth am Gymraeg "While for many African languages it is an uphill battle to get people to participate online, examples from the Welsh can easily be followed - examples include a tweet aggregator that serves as a gateway to finding Welsh twitter users and giving the trending topics of the hour/day/week, or language blogs and podcast lists that give links to all blogs in that language." ac yn benodol, Ffrwti.
Mae Ffrwti yn wefan sydd yn cyhoeddi cyfuniad o ddeunydd sy'n cael ei rannu ar Twitter yn ogystal ag erthyglau a blogiau gwreiddiol i greu un lle i wybod beth sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda diwylliant Cymraeg ar y we. Mae’r Prif-Olygydd, Rhodri ap Dyfrig, yn arbenigwr mewn ieithoedd lleiafrifol ar-lein ac mae Rhodri wedi cwblhau PhD mewn Cymraeg ac ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd eraill ar-lein. Mewn Seminar yng Nghaerdydd ar Fehefin 21ain yn 2012 yn edrych ar y Gymraeg, Technoleg a'r Cyfryngau Digidol mae Rhodri yn trafod Cymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol - dyma fideo o'r cyflwyniad https://www.youtube.com/watch?v=bRTFEn4g3-s .
Yn ei draethawd doethuriaeth ‘Cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol. Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol’ mae’n trafod nifer o nodweddion pwysig wrth ystyried Cymraeg ar-lein ac mae gwir werth cael golwg arno.
Er mwyn darganfod barn pobl ynglŷn â phresenoldeb yr iaith Gymraeg ar-lein fe es ati i greu trafodaeth drwy drydar
a dyma rai enghreifftiau o farn/argymhellion/pryderon pobl wrth iddynt ymateb i fy nghwestiwn a thrafod yr iaith Gymraeg ar-lein gan ddefnyddio’r hashnod #cymraegarlein.
Fel y gwelwch mai nifer yn sôn am y cyfryngau cymdeithasol a bod presenoldeb ar Drydar, ond yn gyfan gwbl mae yna dal deimlad bod yna diffyg Cymraeg ar-lein. Mae pawb yn nodi bod presenoldeb ond llawer yn edliw bod angen fwy o bresenoldeb a hynny trwy fwy o flogiau ar ffasiwn, ffilmiau a theledu ac angen mwy o fideos annibynnol. (Os hoffech chi ychwanegu at y drafodaeth trydarwch fi @AlawGwyn gan ddweud eich dweud a chofiwch ddefnyddio #cymraegarlein!)
Canlyniad META-NET, ar ôl ystyried cynigion a chasgliadau sy’n deillio o’r dystiolaeth o hyn sydd ar gael yn ar-lein yn Gymraeg, yw bod Cymraeg yn un o ieithoedd yr UE sydd angen ymchwil bellach cyn bod yr iaith wedi’i normaleiddio ym myd technoleg, chyn bod y dechnoleg honno’n normaleiddio’r Gymraeg i’w llawn botensial a chyn bod presenoldeb yr iaith Gymraeg wedi ei sicrhau ar-lein. Yn dilyn y cynnig hwn gan META-NET mae’n deg dweud bod gwefan Ffrwti yn rhoi llwyfan i bobl gyhoeddi ar-lein yn Gymraeg gan roi llwyfan ehangach i gynnwys annibynnol. Pwyslais y wefan ydy newyddion ac erthyglau gwe-frodorol ar ddiwylliant a thechnoleg Cymru ac o ganlyniad i lwyddiant Ffrwti mae Cymraeg un cam yn agosach at normaleiddio a sicrhau cydnabyddiaeth i’r iaith Gymraeg ar-lein, yn fy marn i.
Llyfryddiaeth
Buszard-Welcher, L. (2001) ‘Can the web help save my language?’ yn Hinton, L. a Hale, K. (goln) The Green Book of Language Revitalisation in Practice. London: Academic Press. t.331 – 345
Cormack, M. a Hourigan, N. (2007) Minority Language Media : Concepts, Critiques, and Case Studies. Great Britain; Cromwell Press Ltd.
Crystal, D. (2000) Language Death. Cambridge: Cambridge University Press.
Green, A. (2005) Wales on the Web. IWA: The Gregynog Papers. (tt.25)
A oes lle i'r Gymraeg dros y we?
Gan feddwl mae dim ond canran bach ohonom ni sy’n cyfathrebu trwy’r Gymraeg dros y we, a oes digon o gynulleidfa am gynnwys Cymraeg?
A dylsen ni gyd feddwl am gyfathrebu mewn un o ieithoedd mwyafrifol y we, megis Saesneg?
Mae well gan rai o ddefnyddwyr y we cyfathrebu trwy’r Saesneg, gan bod nhw eisiau cyfleu neges a chynnwys am eu gwleidyddiaeth, cymuned a materion bwysig i’w bywydau a chymuned lleol. Nid oes rheswm felly cyfathrebu yn eu mam iaith i bobl sydd eisioes yn deall a byw yn yr un cymuned. Maen nhw’n felly creu cynnwys trwy’r Saesneg I ganiatau bod’u neges cyrraedd cynulleidfa eang iawn. Fe wnaeth Mahmood Al-Youssif yr un peth gan creu blogiau am eu cymuned e trwy’r saesneg yn lle ei Mamiaith.
‘They believed that their country was misunderstood and underrepresented on the global stage. This led them to write, as a way to represent their point of view as a counterbalance to how their country was often perceived’ 124 (Rewire)
Fe synnais wrth ddarllen am ieithoedd lleiafrifol dros y we, bod grwpiau o bobl yn gweithio’n galed i gyfieithu cynnwys o ieithoedd lleiafrifol y we mewn i ieithoedd mwyafrifol y we. Mae’r gwaith yma’n meddwl bod cynnwys yn fwy hygyrch a dealladwy i bawb.
Mae yna tim o bobl, o’r enw Global Voices, yn ceisio cyfieithu cynnwys y we, fel bod pobl ar draws y byd yn gallu mynedu a deall yr un cynnwys mewn nifer fawr o ieithoedd, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol.
'Comments on stories can be posted in English or Arabic, and they automatically translated after posting. These machine translators are considered the first step within the Meedan community; volunteers look for new stories or comments and ‘clean up’, or sometimes thoroughly revise, the machine translations that have been posted’ (T.158. Zuckerman. E)
Wrth i fynediad i’r we dod yn fwy hygyrch dros y flynyddoedd diwethaf, a gwefannau megis Facebook, Twitter a Tumblr yn gwneud e’n haws i greu cynnwys newydd, rhannu cynnwys a chyfrannu at gynnwys sydd eisioes yn bodoli’n haws, gwelwn bod diwylliant cyfranogol wedi dod yn fwy a fwy poblogaidd, yn enwedig ym mhysg pobl ifanc.
Wrth gwrs mae yna ffordd o ddadansoddi ein lluniau, y cynnwys rydyn ni’n rhannu ac ein presenoldeb dros y we i ddeall pa fath o bobl ydyn ni, ond yr iaith rydyn ni’n defnyddio ar y we sydd wir yn diffinio ni o fewn cymuned, gwlad ac amgylchiadau personol.
‘Language has always played an important role in the formation and expression of identity. The role of language and dialect in identity construction is becoming even more central in the postmodern era, as other traditional markers of identity, including race, are being destabilized’ (Warschauer, E. 2001)
Wrth i fwy a mwy o bobl ar draws y byd mabwysiadu diwylliant cyfranogol i’w bywydau ar y we, rydyn ni nawr ar agor i fwy o ieithoedd, mwy o ddiwylliant a dealltwriaeth o sut mae pobl yn wahanol lleoliadau yn defnyddio’r we.
Wrth i mwy o ieithoedd lleiafrifol cael’u defnyddio gan bobl ar draws y byd, mae swydd Global Voices ar un llaw, wedi mynd yn haws gan bod mwy o gynnwys a felly mwy o ddealltwriaith am iaith. Ond, ar y llaw arall, mae mwy a mwy o ieithoedd yn bresenol ar y we a cynlleied o amser i’w gyfieithu. Mae cyfraniad torfol/diwylliant cyfranogol yn cael effaith mawr ar y math yma o brosiect, fel mae Zuckerman yn disgrifio.
'A project like Global Voices wasn't possible until the rise of participatory media' ( T129. Zuckerman. E)
Yn ol y llyfr Rewire gan Ethan Zuckerman yr mwyaf o ddefnydd ieithoedd lleiafrifol megis y Gymraeg ar y we, y mwyaf fydd y datblygiad o dudalennau we trwy cyfrwng y Cymraeg.
'To understand why it's so important for our volunteers to write in their native languages, and why most web users will create more and more content in their own languages, it's useful to think of language as a technology, a tool humans have created that can be applied to solve a wide range of problems'
Medd Zuckerman ar dudalen 140 o’i llyfr.
Wrth ddatblygu’r modd i ddeall technolegau mae rhaid ystyried iaith fel technoleg bwysig iawn - gan ddefnyddio gwaith Global Voices mae yna modd deall technoleg gwledydd eraill, eu diwylliannau, eu defnydd ar y we a sut mae pobl y gwlad yn cyfrannu at gynnwys y we.
Mae Jeremy Colin Evans, darlithwr o Brifysgol Caerdydd yn atgyfnerthu hyn yn ei blog ‘Minority languages fight for survival in the digital age’.
'But it might also be true that technology could help us bring minority languages to a wider audience. If we work out how to play the game right, we could use it to help bolster linguistic diversity rather than damage it. This is one of the main suggestions of a series of papers, the most recent of which looks at the Welsh language in the digital age.’
Rydyn ni’n fodus iawn Yng Nghymru bod gwefannau megis Wikipedia, Google a Facebook eisioes yn cynnig gwasanaeth Cymraeg. A’r mwyaf rydyn ni’n defnyddio’r Cymraeg dros y we, y mwyaf o gynnwys sydd gyda cwmni fel Global Voices i ddeall a chyfieithu, a’r mwyaf o wefannau bydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dychmygwch byd uniaith Cymraeg ar y we…
Ond, beth am ieithoedd sydd ddim yn cael’u cynrhychiolu ar y we? A oes gennym ni dyletswydd, fel siaradwyr iaith lleiafrifol i gynyddu defnydd ieithoedd lleiafrifol arall?
A dylse diogelu ieithoedd lleiafrifol dod yn uwch ar agenda gwefannau mawr?
Mae Google yn barod yn deall faint mor gwerthfawr mae iaithoedd lleiafrifol i’r byd, gan ddweud bydd colled iaith yn colled o wybodaeth, dealltwriaeth a diwylliant.
‘At Google, we’re focusing on how Translator Toolkit can help preserve and revitalize small and minority languages. Minority languages, also called regional, indigenous, heritage or threatened languages, are languages spoken by the minority people in one locale in a sovereign state or country. Were these endangered languages to become extinct, it would mean an immeasurable loss of knowledge, culture and way of life to minority people worldwide.’ (Google Translator Toolkit)
Mae gan y Cymry mynediad hawdd iawn i’r we, boed ar ein ffonau symudol, tabledu, neu cyfrifiaduron ac am y rheswym yna Cymraeg yw un o’r unig ieithoedd lleiafrifol yn y byd i gael ei gynrychiolu gan y gwefannau nes i son am uchod.
Er hyn, mae yna gobaith fydd y bwlch digidol yn cau, a fydd mynediad gwledydd gyda ieithoedd lleiafrifol yn haws. Ar hyn o bryd mae’n anodd iawn i dregolion gwledydd megis Madagascar mynedu’r we a cynyddu’r defnydd o Malagasy sy’n cael eu cyfathrebu. Iaith mwyafrifol Madagascar yw Ffrangeg.
Gallen ni, y Cymry, bod yn ysbrydoliaeth i weledydd a siaradwyr iethoedd lleiafrifol y byd, fel mae David Crystal yn esbonio yn y ffideo yma -
http://youtu.be/iCVWltWfbBA
Dychmygwch byd lle mae ieithoedd lleiafrifol y byd yn cael eu dysgu yn hawdd dros y we, yn tyfu a’i magu o’r cynnwys ar y we, a sydd gyda gwasanaethau sy’n hybu ei iaith trwy gwefannau megis Facebook, Twitter a Tumblr. A’r unig ffordd i wneud hynny yw i ddefnyddio eich iaith lleiafrifol chi, i ysbrydoli rheini sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol arall i’w defnyddio fe ar y we.
Dyma sut es i, a dau ffrind ati i gyfrannu at Gymreictod dros y we -
https://www.youtube.com/watch?v=xhEq4Sb9TjA&feature=youtu.be&list=UUllirr03pZmBHgM2UL25rxA
Felly, a dylsen ni gyd feddwl am gyfathrebu mewn un o ieithoedd mwyafrifol y we, megis Saesneg?
Na.
Mae yna digon o gynulleidfa i gyfathrebu tryw’r Cymraeg oherwydd gweithrediad cwmnioedd fel Global Voices.
Y mwyaf y defnydd o’r iaith Gymraeg, y mwyaf o ddealltwriaeth a felly y mwyaf o wefannau trwy gyfrwng y gymraeg.
Llyfryddiaeth
Crystal, D. https://www.youtube.com/watch?v=iCVWltWfbBA&feature=youtu.be -Mynediad diwethaf 30/11/2014
Evans, j. Colin, http://theconversation.com/minority-languages-fight-for-survival-in-the-digital-age-22571 myneidad diwethaf - 30/11/2014
-
Warschauer, M. (2001). On-line communication. In R. Carter & D. Nunan (Eds.), The Cambridge guide to teaching English to speakers of other languages (pp. 207-212). Cambridge: Cambridge University Press. http://motspluriels.arts.uwa.edu.au/MP1901mw.html - Mynediad diwethaf 30/11/2014
-
Zuckerman, E. 2013. Rewire: Digital Cosmopolitans in the Age of Connection. 1 Edition. W. W. Norton & Company.
-
LA
A ddylsen ni buddsoddi mwy o gyllid ac amser mewn i gau gap y bwlch digidol ym Mrhydain neu yn nghyfandir tlawd megis yr Affrig?
Wyddoch chi mae dechreuad y we oedd yn y 40au? Fe ddatblygodd Vannevar Bush cysyniad am storio data a oedd yn hawdd i fynedu, storio ac yn caniatai defnyddwyr i neidio nol ac ymlaen o ddata i ddata mewn modd aflinol, a gwelwn y defnydd cyntaf o gyfrifiaduron yn sinemau yn y 1950au. (Harris, D. 2002)
Cafodd y cysyniad yma ei datblygu gan Ted Nelson yn 1963 a rydym dal yn defnyddio fframwaith a ddatblygodd Nelson fel fframwaith y we heddiw.
Wrth gwrs gyda datblygiadau holl bwysig megis Internet Explorer 1.0, Google a’r modd i uwchlwytho a gwrando ar gerddoriaeth a gwylio ffilm dros y we (You Tube Etc.), ni fydd fframwaith we Nelson mor effeithiol heddiw.
Y we rydyn ni’n defnyddio yn ddyddiol nawr (2014) yw Web 2.0 a chafodd ei datblygu wedi’r crash.com (The Dot Com Crash) a ddigwyddodd en y flwyddyn 2000. (Lister, M 2008)
Fe ddaeth genedigaeth platfformau cyfryngau cymdeithasol megis MySpace, Bebo, Facebook a Twitter sy’n cael eu ddefnyddio gan biliynau o bobl ar draws y byd.
Yma fe aned byd busnesau yn rhyngweithio gyda’u cwsmeriad, yng nghud a datblygiadau technegol enfawr o fewn gwledydd cyfoethog y byd, ond diffig datblygiadau technegol gan gweledydd tlawd y byd. Honnai rhai, megis John Tomlinson mae cyfranogiad a cud deallusrwydd dros y we yng nghud a’r ‘Bwlch Digidol’ (Digital Divide) yn cyfrannu globaleiddio, gan homogeneiddio diwyllianau. Mae rhai yn poeni mae’r we yw’r pumed rhan o globaleiddio.
‘Globalization… has swept like a flood tide through the world’s diverse cultures, destroying stable localities, displacing peoples, bringing a market-driven ‘branded’ homogenization of cultural experience, thus obliterating the difference between locality-defined cultures which had constituted our identities’ (John Tomlinson.)
Gallen ni cysylltu’r dyfyniad uchod gyda’r we yn hawdd iawn, gan bod y we yn cael’u gyrru gan gyfalaf. Nid yw hunaniaeth o ran ddiwylliant yn bwysig ar y we, a trwy’r we rydyn ni’n difethu hen draddodiadau a chreu traddodiadau byd eang newydd.
Mae technoleg yn rhan mawr iawn o ein bywydau dyddiol yma Ym Mrhydain, a gyda mwy a mwy o bobl yn gwario arian ar dechnoleg newydd, rydym yn datblygu ac addasu technoleg gyflym. Mae Dahlman yn dadlau mae’r cyfalaf rydyn ni’n buddsoddi mewn datblygiadau technolegol a’r chwant i gael technoleg newydd yn cynyddu’r bwlch digidol yn aruthrol mewn gwledydd neu cyfandiroedd tlawd megis Yr Affrig.
‘Technology is an increasingly important element of globalization and of competitiveness and that the acceleration in the rate of technological change and the pre-requisites necessary to participate effectively in globalization are making it more difficult for many developing countries to compete. (Dahlman, C.)
Mae’r llun isod yn dangos faint o ddefnyddwyr y we oedd ym mhob cyfandir yn y flwyddyn 2008.
Gwelwn isod y nifer o ddefnyddwyr y we ym mhob cyfandir yn y flwyddyn 2014.
Gwelwn bod pob un gwlad wedi datblygu, ond bod cyfandiroedd cyfoethog megis Ewrop, Oceania, Yr UDA a Canada wedi datblygu’n aruthrol o gyflym gyda dros 50% o bobl yn defnyddio’r we, sy’n cefnogi’r datganiad gan Dahlman.
'Since the Internet requires substantial prerequisites concerning technical infrastructure and human capital, some worry that the developing countries will be left behind.' (Piazolo, D. 2001)
Mae’r dyfyniad uchod yn dangos pryderion o dros deg mlynedd yn ol am ddatblygiad a cynhydd yn y Bwlch Digidol. Yn anffodus, trwy dadansoddi’r dau map rydym yn gweld bod y cyfandiroedd cyfoethog wedi datblygu’n technolegol a bod y cyfandiroedd tlawd wedi cael’u gadael tu ol. Nid oes llawer iawn o ddatblygiad wedi bod yn y gwledydd tlawd, er hyn, rydym yn gweld bod datblygiad araf iawn wedi bod rhwng 2008 a 2014.
Mae’n amlwg felly bod cyllid a buddsoddi cyllid yn rhan hanfodol o ddatblygiadau technolegol ond hefyd datblygiadau gwledydd y byd. Mae pryderion Piazolo o’r flwyddyn 2001 yn gweithredu heddiw - Mae gwledydd cyfoethog y byd eisioes wedi gadael y tlawd ar ol.
Ond dylsen ni canolbwyntio ar sicrhau bod cyfandir cyfan megis Yr Affrig ar y we, cyn sicrhau mynediad i holl dregolion Prydain i’r we?
Wrth gwrs bod gennym ni cyfrifoldeb fel defnyddwyr y we i sicrhau bod gan bawb ar draws y byd mynediad i gyfrifiadur a’r rhyngrhywd, ond gyda elusennau megis Close The Gap a cyfundrefnau megis Yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio i gysylltu’r Affrig gyda’r we, a ddylsen ni, fel tregolion Prydain canolbwyntio ar sicrhau bod gan hen bobl a phlant mynediad i’r we yma Ym Mhrydain?
Mae Affrica wedi sgipio un cam pwysig iawn yn datblygiad y defnydd o’r we, sef cyfrifiaduron. Fe wnaeth llywodraethau gwahanol yn affrica dewis defnyddio rhyngrwyd symudol (mobile internet) yn lle y rhyngrwyd dros cyfrifiaduron. Roedd y defnydd o’r rhyngrwyd symudol yn meddwl bod pobl yn gallu mynedu gwybodaeth am glefydau ble bynnag oedden nhw yn y cyfandir.
‘Africa's claim to be the "mobile continent" is even stronger than previously thought, with researchers predicting internet use on mobile phones will increase 20-fold in the next five years – double the rate of growth in the rest of the world. People in Africa use mobiles for online activities that others normally perform on laptops or desktop computers as the technology overcomes weak or non-existent landline infrastructure in large swaths of the world's poorest continent.’ (The Guardian)
Mae’r dyfyniad yma o The Guardian yn dangos bod datblygiad Yr Affrig o fewn y maes rhyngrwyd symudol yn dangos bod nhw ar brig technoleg rhygrwyd symudol yn y byd, ond, ar waelod defnydd y we ar gyfrifiaduron. Wrth ystyried bod y rhyngrwyd symudol yn datblygu ar raddfa uchel yn yr Affrig, mae rhaid meddwl os oes unrhywfath o cynydd o’r un rhaddfa’n digwydd Ym Mhrydain.
Er bod lluniau fel yr un yma isod yn dangos cynydd yn y nifer o bobl sy’n defnyddio’r we Ym Mrhydain, rydyn ni dal yn gweld bod y nifer o bobl dros 75 dal yn isel iawn, a’r brif rheswm am hyn yw diffig gwybodaeth am y we.
Dyma fideo sy'n dangos mwy o ystadegau o'r bwlch digidol ym Mhrydain - https://www.youtube.com/watch?v=5XKhRbizOc0
Gyda toriadau yn cyllid Ym Mrhydain ers y cwymp economaidd diwethaf yn 2008, rydym yn gweld lleoliadau cyhoeddus megis Llyfrgelloedd yn cau. I rai, y llyfrgell yw’r unig lle gallen nhw mynedu’r rhyngrhwyd a dysgu sut i ddefnyddio’r technoleg. Wrth i’r lleoliadau yma cau, rydw i’n pryderu fydd y bwlch digidol ym Mrhydain yn mynd i gynyddu yn gyflym iawn.
Dyletswydd y llywodraeth yw caniatau bod pawb yn cael mynediad I’r rhyngrwyd ac yn caniatau addysg yn rhad ac am ddim.
Ni does elusenau yn gweithredu ym Mhrydain yn uniongyrchol i gau’r bwlch digidol ym Mhrydain. Gyda diffig gweithrediad y llywodraeth trwy cau llyfrgelloedd, a dylsau ysgolion ac athrawon caniatau gwersi technoleg gwybodaeth a mynediad I’r we I’w ddisgyblion? Gyda’r bwlch yn cynhyddu ein dyletswydd ni yw e i geisio cau’r bwlch, boed yma Ym Mhrydain neu yn Affrica. Ond, dylsau cwmnioedd megis Apple a Microsoft gweithredu a cylludo pob gwlad I sicrhau mynediad I’r we ar eu dechnoleg nhw gyda cydweithrediad y llywodraeth.
Llyfryddiaeth
Harris, D. 2002. The New Media Book. T.40
-
Piazolo, D. 2001 - https://www.cesifo-group.de/pls/guestci/download/CESifo%20Forum%202001/CESifo%20Forum%203/2001/Forum301-focus5.pdf - mynediad diwethaf 30/11/2014
-
Dahlman, C. 2014 - http://www.un.org/esa/sustdev/publications/industrial_development/1_2.pdf Myneidiad diwethaf 30/11/2014
-
Lister, M. 2008. New Media : A Critical Introduction.
-
Smith, D. 2014. The guardian - http://www.theguardian.com/world/2014/jun/05/internet-use-mobile-phones-africa-predicted-increase-20-fold - Mynediad diwethaf 30/11/2014
LA
Y Digital Divide.
Rydw i yn un o genhedlaeth sydd wedi byw fy mywyd ifanc ochr yn ochr i dyfiant y we. Wrth i mi dyfu, mae’r we wedi datblygu yn aruthrol dros yr un cyfnod. Rydw i yn cofio amser lle doedd y cyfrifiadur ddim ym mhob cartref, ac roedd mynd ymlaen i’r we yn brofiad cyffroes. Erbyn nawr, pan rydych chi’n bwrw rhyw bwynt yn eich arddegau mae hi’n beth arferol i gael gliniadur eich hun, ac mae mwyafrif o bobl ifanc ac oedolion ym Mhrydain yn gallu syrffio'r we ar eu ffonau symudol. Mae e’n eithaf od feddwl ein bod ni nawr yn cwyno pan mae'r we ar ein ffon ychydig yn araf, ond pan roeddwn yn 11 (deg mlynedd yn ôl) roedd y syniad o allu checio e-byst, lawr lwytho, a hyd yn oed prynu pethau trwy ddyfais fach sydd yn eich poced ond yn bodoli mewn ffilmiau sci-fi.
Ond dyw’r datblygiad technolegol yma ddim yn digwydd ymhobman. Rydym yn ffodus iawn yma ym Mhrydain ein bod ni ar flaen y gad gyda thechnoleg, serch hynny mae’n rhaid cymryd cam yn ôl ambell waith ac edrych ar y llun cyfan. Mae bob un plentyn sydd yn cael ei eni ym Mhrydain dyddiau yma yn mynd i ddysgu yn syth am y we, ac mae e’n mynd i gymryd rhan sylweddol o’i addysg. Mewn rhai ardaloedd yn Affrica, mae rhai plant mynd i gael ei eni mewn i bentrefi heb y dechnoleg ar gyfer dwr glan hyd yn oed.
Yr enw ar gyfer y gwahaniaeth sylweddol yma rhwng safon y technoleg mewn gwledydd wahanol yw’r “Digital Divide” a mae ystyr a pwysigrwydd y term wedi cael ei amlygu yn barod yn fy nghyflwyniad hirwyntog i’r blog yma! Mae Lloyd Morrisett yn esbonio y Digital Divide mewn ffordd syml ar ddechrau’r llyfr The Digital Divide: Facing a Crisis? Or Creating a Myth? http://books.google.co.uk/books?id=MbareJicwKAC&printsec=frontcover&dq=digital+divide&hl=en&sa=X&ei=wVxSVM-9CcWI7AaSzoCYBQ&ved=0CDAQ6AEwAw#v=onepage&q=digital%20divide&f=false “...The Perceived gap between those who have access to the latest information technologies and those who do not. If we are indeed in an information age, where information is power... then not having access to this information is considered in some quarters to be a handicap. And, according to some versions of the scenario, those who have access will further their distance from those who do not.”
Mae Morrisett yn awgrymu fod yna cysylltiad cryf rhwng y digital divive, a phŵer gwleidyddol. Mae'r anfalans yma rhwng lefel y technolegau yn codi nifer o gwestiynau, ac ar ddiwedd y dyfyniad uchod mae Morrisett yn sôn fod e’n edrych yn debygol fod y bwlch yma ond mynd i gynyddu. Mae'r llyfr The Digital Divide: Facing a Crisis? Or Creating a Myth? Yn edrych yn agosach ar rhai o’r dadleuon yna, felly os rydych chi eisiau gwybod mwy, ac ehangu syniadau, dilynwch y linc isod i weld copi ar-lein o’r llyfr. (Nodwch, nid yw’r copi yn un gyflawn)
Mae’r llun isod yn rhoi ystyr y Digital Divide mewn i ffigyrau a siartiau- Dyma’r niferoedd a oedd gyda mynediad i’r we yn erbyn y rhai nad oedd gyda mynediad i’r we yn y flwyddyn 2008:
“Globalization is a transplanetary process or set of processes involving increasing liquidity and the growing multidirectional flows of people, objects, places and information as well as the structures they encounter and create that are barriers to, or expedite those flows...”
Dyfyniad o’r llyfr Globalization: A Basic Text gan George Ritzer. Mae’r term globaleiddio yna yn cysylltu yn dda gyda’r “Digital Divide”. Mae globaleiddio yn cyfeirio at y ffordd mae'r byd yn raddol yn troi'n un... Hyny yw does dim unman yn ddieithr i’r rhai ohonom ni sydd gyda’r i fynd ymlaen i’r we. Mae'r term Globaleiddio yn codi nifer o gwestiynau yn ei hun, a ni fyddaf yn edrych mewn iddo mewn mwy o fanylder yn y blog yma! Ond pan rydym yn sôn am y Digital Divide, a’i effeithiau, mae'r term globaleiddio yn gallu dangos i fyny ar sawl adeg. Am fwy o wybodaeth am y term “Globaleiddio” dilynwch y linc yma.
http://books.google.co.uk/books?id=52o86uUBRRsC&printsec=frontcover&dq=globalisation+book&hl=en&sa=X&ei=Nk9SVPvLNeK07QbL9ICIBQ&ved=0CCkQ6AEwAA#v=onepage&q=globalisation%20book&f=false Mae tyfiant y we yn rhan enfawr o theori globaleiddio, a dydy datblygiad y we ddim yn mynd i arafu. Mae'r term “Perpetual Beta” yn gysylltiedig gyda hyn. Hynny yw, mae'r we o hyd yn gwella, mae'r meddalwedd yn cael ei gwella o hyd, ac mae safon a nifer y posibiliadau sydd ar y we yn gwella o hyd. Efallai i ni, mae hyn yn eithaf cyffroes, ac yn fwy na hynny, rydym wedi hen arfer erbyn nawr gyda datblygiad cyflym technoleg. Ond beth am y gwledydd llai ffodus? Pa mor ddifrifol fydd effeithiau'r Digital Divide arnyn nhw?
Mae yna gymaint o gwestiynau a dadleuon am y pwnc, fy mod i yn credu ei fod yn beth dda i mi orffen y blog fan hyn! Ond i gloi, dyma ystyr y tri therm rydw i wedi defnyddio yn ystod y blog yma unwaith eto, ac mae yna ddigonedd o lefydd a ffyrdd y gallwch wybod mwy am y cwbl ar draws y we! Digital Divide- Y bwlch rhwng y bobl sydd gyda mynediad i’r technolegau gwybodaeth, a’r rheini sydd heb.
Globaleiddio- Y syniad fod y byd i gyd yn cael ei gysylltu.
Perpetual Beta- Fod y technolegau cysylltiedig gyda’r we o hyd yn gwella.
Iaith. Dyletswydd. Goblygiadau.
Rydw i’n newydd iawn i'r byd o flogio ac ysgrifennu cynnwys academaidd ar y we.
Mae'r holl son am sylwadau niweidiol ar ol iddych chi postio eich blog yn digon i neud i chi meddwl am beidio blogio yn gyfan gwbl.
Yn y blog yma, rydw i am drafod yr heriau o flogio a'r pwysigrwydd o ddefnyddio iaith lleiafrifol ar y we.
A oes wir pwynt i mi postio blogiau trwy'r Gymraeg?
Gan feddwl mae dim ond canran bach ohonom ni sy'n cyfathrebu trwy'r Cymraeg ar y we, dylsen ni gyd feddwl am cyfathrebu mewn un o iaithoedd mwyafrifol y we, megis Saesneg?
Yr ateb - blogiwch trwy ieithoedd lleiafrifol!
Yn ddiweddar fe ddarllenais am y ddefnydd o ieithoedd ar y we. Mae yna tim mawr o bobl, o'r enw Global Voices, yn ceisio cyfieithu cynnwys y we, fel bod pobl ar draws y byd yn gallu mynedu a deall cynnwys mewn nifer fawr o ieithoedd, gan cynnwys ieithoedd lleiafrifol a ieithoedd ond am y rhai sy'n dominyddu'r we ar y foment.
'A project like Global Voices wasn't possible until the rise of participatory media' ( T129. Zuckerman. E)
Fel mae Zuckerman yn dweud, nid oedd prosiect fel yr un yma'n gallu bodoli hebddon ni, y blogwyr, y trydarwyr, y ddefnyddwyr. Er hyn, sut ydyn ni wir yn gallu dangos ein hunaniaeth o du ol sgrin? Mae Warschauer yn dadlau mae'r modd mwyaf effeithiol i wneud hwn yw trwy defnyddio'ch iaith.
Language has always played an important role in the formation and expression of identity. The role of language and dialect in identity construction is becoming even more central in the postmodern era, as other traditional markers of identity, including race, are being destabilised. (Warschauer, E. 2001)
I wneud deall ieithoedd dros y we yn haws mae Global voices yn cydweithio gyda Meedan - Dyma engrhaifft o'u gwaith -
'Comments on stories can be posted in English or Arabic, and they automatically translated after posting. These machine translators are considered the first step within the Meedan community; volunteers look for new stories or comments and 'clean up', or sometimes thoroughly revise, the machine translations that have been posted' (T.158. Zuckerman. E)
Yn ol y llyfr Rewire gan Ethan Zuckerman yr mwyaf y defnydd ieithoedd lleiafrifol megis y Gymraeg ar y we, y mwyaf fydd y datblygiad o dudalennau we trwy cyfrwng y Cymraeg.
'To understand why it's so important for our volunteers to write in their native languages, and why most web users will create more and more content in their own languages, it's useful to think of language as a technology, a tool humans have created that can be applied to solve a wide range of problems'
Medd Zuckerman ar dudalen 140 o'i llyfr.
Wrth ddatblygu'r modd i ddeall technolegau mae rhaid ystyried iaith fel technoleg bwysig iawn - gan ddefnyddio gwaith Global Voices mae yna modd deall technoleg gwledydd eraill, eu diwylliannau, eu defnydd ar y we a sut mae pobl y gwlad yn cyfrannu at gynnwys y we. Mae Jeremy Colin Evas, darlithwr o Brifysgol Caerdydd yn atgyfnerthu hyn yn ei blog e 'Minority languages fight for survival in the digital age'.
'But it might also be true that technology could help us bring minority languages to a wider audience. If we work out how to play the game right, we could use it to help bolster linguistic diversity rather than damage it. This is one of the main suggestions of a series of papers, the most recent of which looks at the Welsh language in the digital age.'
Rydyn ni'n fodus iawn yn barod bod gwefannau megis Wikipedia, Google a Facebook yn cynnig gwasanaeth Cymraeg. Dychmygwch byd ar y we sydd yn uniaith Cymraeg! Ond, beth am yr ieithoedd sydd ddim yn cael'u cynrhychiolu ar y we? A oes gennym ni dyletswydd, fel siaradwyr iaith lleiafrifol i gynyddu defnydd ieithoedd lleiafrifol arall?
Dyma beth sydd gyda Google i ddweud am eu ymderchion gyda ieithoedd lleiafrifol yn ei Blog, The Official Google Blog -
'At Google, we're focusing on how Translator Toolkit can help preserve and revitalize small and minority languages. Minority languages, also called regional, indigenous, heritage or threatened languages, are languages spoken by the minority people in one locale in a sovereign state or country. Were these endangered languages to become extinct, it would mean an immeasurable loss of knowledge, culture and way of life to minority people worldwide.'
A dylse diogelu ieithoedd lleiafrifol dod yn uwch ar agenda gwefannau mawr (megis google)?
Mae gan y Cymry mynediad hawdd iawn i'r we, boed ar ein ffonau symudol, tabledu, cyfrifiaduron neu laptops, ac am y rheswym yna, Cymraeg, yw un o'r unig ieithoedd lleiafrifol yn y byd i gael ei gynrychiolu gan y gwefannau nes i son am uchod. Er hyn, mae yna gobaith fydd y bwlch digidol yn cau, a fydd mynediad gwledydd gyda ieithoedd lleiafrifol mynd yn fwy hawdd. Ar hyn o bryd mae'n anodd iawn i dregolion gwledydd megis Madagascar mynedu'r we a cynyddu'r defnydd o Malagasy sy'n cael eu siarad dros y we. Iaith mwyafrifol Madagascar yw Ffrangeg. Gallen ni, y Cymry, bod yn ysbrydoliaeth i weledydd a siaradwyr iethoedd lleiafrifol y byd, fel mae David Crystal yn esbonio yn y ffideo yma -
http://youtu.be/iCVWltWfbBA
Dychmygwch byd lle mae ieithoedd lleiafrifol y byd yn cael eu dysgu yn hawdd dros y we, yn tyfu a'i magu o'r cynnwys ar y we, a sydd gyda gwasanaethau sy'n hybu ei iaith trwy gwefannau megis Facebook, Twitter a Tumblr. A'r unig ffordd i wneud hynny yw i ddefnyddio eich iaith lleiafrifol chi, i ysbrydoli rheini sy'n siarad ieithoedd lleiafrifol arall i'w ddefnyddio ar y we.
Goblygiadau.
Mae'r her o flogio'n un mawr, ac yn ddiweddar mae'r telerau o gamddefnyddio'r we wedi cynhyddu'n sylfaenol, sy'n newyddion da i'r rhai sydd wedi bod yn ddioddefwyr i'r math yma o drosedd casineb.
I'r rhai ohonoch chi sy’n gwylio’r newyddion, neu yn dilyn ffrwd newyddion ar y we, rydych siwr o fod wedi clywed am dalerau newydd am gamymddwyn ar y we - Mae'r BBC'n esbonio yn y linc isod.
http://www.bbc.co.uk/news/uk-29678989
Gwelwn bod pobl yn camymddwyn yn dyddiol ar wefannau megis facebook ac yn enwedig trwy trydar. Mae negeseuon anaddas, hiliol a niweidiol i ddefnyddwyr eraill yn cael'u ystyried fel trosedd o gasineb - ond gan bod y defnydd o Twitter a Facebook yn eithaf diweddar, nid oedd deddf yn erbyn y pobl diafledig yma.
Dyma enghraifft o drosedd o gasineb ar Drydar, mae hyd yn oed enwogion megis Tom Daley yn cael'u targedu -
Yn ddiweddar newidodd y gyfraith ym Mrhydain a oedd yn meddwl bod hawl cosbi’r 'Trolls' yma. Gall pobl treulio hyd at ddwy flynnedd yn y carchar am gamddefnyddio’r we – sy’n newyddion arbennig i reini ohonom ni sy’n blogio ac yn pryderu am sylwadau anaddas a niwediol ar ein gwaith.
Felly, cyn belled nad ydych chi'n camddefnydio'r we, blogiwch, trydarwch, a ddefnyddiwch y we yn rhydd - a chofiwch, mae 'na wastad cynulleidfa am gynnwys Cymraeg a ieithoedd lleiafrifol!
Hawlfraint y lluniau - Google.
Llyfryddiaeth Warschauer, M. 2001, http://motspluriels.arts.uwa.edu.au/MP1901mw.html Zuckerman. E. Rewire: Digital Cosmopolitans in the age of connection
Google Official Blog : Google Translator Toolkit and Minority Lanugages - Hydref 2009 - http://googleblog.blogspot.co.uk/2009/10/google-translator-toolkit-and-minority.html
Evas, J.C. Minority Languages fight for survival in a digital age. - Chwefror 2014 - http://theconversation.com/minority-languages-fight-for-survival-in-the-digital-age-22571
LA