Eleni, roedd fy ffrindiau yn eu tro yn diflannu ar eu gwyliau i lefydd pell, egsotig a braf. Un yn mynd i Valencia, un arall wedi bod i Budapest, ac un hyd yn oed wedi cael ‘staycation’ yn Llundain.
Aeth Aled a fi, fel mae’n digwydd, ar ein gwyliau i Weston Super Mare.
Mae gan nifer o bobl syniadau pendant iawn wrth feddwl am y teip arferol sy’n mynd ar wyliau i Weston Super Mare. Serch hynny, arddangosfa ddiweddaraf Banksy a ddenodd Aled a finnau i WSM... a chawsom ein synnu ar yr amrywiaeth o bobl oedd hefyd wedi tyrru yno i weld arddangosfa’r graffiti artist enwog.
Roedd Bansky wedi meddiannu hen adeilad gwag y Tropicana ar bromenâd y dre a chreu ‘bemusement park’ dystopaidd, yn donig i fyd delfrydol Walt Disney.
Roedd ciwiau diddiwedd a thrafferthion wrth archebu tocynnau oddi ar y wefan ‘simplistic’ Dismaland yn rhan o’r profiad... ac am ein bod yn ofni’r gwaethaf, ni fu’r un o’r ddau brofiad yn rhy wael, yn ein tyb ni. Cawsom fynd i mewn i’r parc yn weddol didrafferth a dod wyneb yn wyneb â phorth diogelwch cardfwrdd Bill Barminski, gyda dwy warchodwraig frawychus iawn yr olwg yn gwrthod gadael neb i fentro i’r parc nes eu bod yn edrych yn ddiflas. Fel mae’n digwydd, bu’n rhaid i mi aros deng munud go dda i’r person o ‘mlaen stopio chwerthin... ond ta waeth am hynny, roedd y campwaith cardbord yn werth ei weld.
I’r galeri yr aethom gyntaf, gofod a oedd yn cynnwys darnau gan amryw o artistiaid ac hefyd yn cynnwys model trawiadol o ddinas dystopaidd yn dilyn terfysgoedd anferthol gan Jimmy Cauty. Roedd y model, ‘Aftermath Displacement Principle’ yn rhyfeddol, gyda gymaint o fanylion bychan megis darluniau o graffiti gwreiddiol Banksy, goleuadau gleision yn fflachio a 3,000 ffigwr o heddweision bychan.
Tu allan i’r galeri, roedd y lle fel ffair go iawn, gyda stondinau amrywiol, gan gynnwys stondin saethu, merry-go-round (yn cynnwys bocsys o ‘gig lasagne’), hook a duck, cyfle i lywio cychod remote control a oedd yn llawn ffoaduriaid o Syria, a chyfle hefyd i daflu peli ping-pong mewn ymgais i fwrw anvil anferthol i’r llawr. Roedd hi fymryn yn rhy hwyr arnom yn dod ar draws yr arwydd ‘Winning is Strictly Prohibited’, a oedd yn rhan o ddarnau David Shrigley, a bod y tiniau oedd yn rhan o’r stondin saethu wedi cael eu gludo’n styc i’r silff...
Ar ôl treulio awr gron yn y ffair, aethom i fwynhau gem o crazy golf yn y ‘Crazy Gulf’, ac yna mentro i’r swyddfa ‘Pocket Money Loans’ a gynlluniwyd gan Darren Cullen. Wedi hynny, eistedd a gwylio ffilmiau byrion gan artistiaid amrywiol yn yr haul wedi i ni archebu drinc yr un o’r bar. Roedd hi’n braf iawn yno... Braf, mewn lle oedd i fod yn ddiflas.
Doedd gan Banksy ddim rheolaeth dros y tywydd, wrth gwrs, ond roedd y tywydd poeth yn sbwylio’r profiad. Rhywsut, wrth i mi grwydro, feddyliais fod hon arddangosfa fyddai wedi bod yn well mynd i’w gweld yn hwy yn y flwyddyn, yn y gwynt a’r glaw.
Uchafbwynt: heb os, Cinderella, yn y castell a adeiladwyd gan Block9. Roedd paralelau amlwg rhwng ‘Happy-ever-after’ y Cinderella hon a marwolaeth drasig y Dywysoges Diana. Dyma ddarn mwyaf dadleuol yr arddangosfa a theimlais lwmpyn yn fy ngwddf wrth gamu i mewn i’r castell. Serch hynny, ymunais a phawb arall a thynnu lluniau ar fy ffôn o gorff llipa’r dywysoges yn hongian allan o ffenest ei choets. Roedd cyfle hefyd am lun gyda’r digwyddiad hwn, a dyma ni:
Siom: Roedd bws yn cynnwys ‘Museum of Cruel Objects’ yn hynod siomedig, yn enwedig wedi i ni sefyll am awr gyfan mewn ciw er mwyn ei weld. Er bod y llinellau amser a oedd yn olrhain hanes nifer o ddyfeisiadau ‘creulon’ y byd modern - e.e speiciau i atal pobl ddigartref rhag cysgodi mewn alcofau a CCTVs - yn ddiddorol, gan fod y gofod mor gyfyng, nid oedd yna amser i wirioneddol edrych o gwmpas. Ac ni theimlai fel petai’n rhan o weddill Dismaland.
Wrth edrych ar billboard anferth o David Cameron â’i wydryn siampen yn cael ei sgrynshio gan yob blin wedi’i baentio ar y pren noeth, mae’n bosib fod neges y parc hwn wedi ei wastraffu braidd ar y gynulleidfa a aeth yno’n ddigon parod i dalu £5 am falŵn ‘I am an Imbecile’ a £20 am grys-T. Dyma arddangosfa oedd yn gwneud hwyl am ein pennau am wario arian ar crap diangen ac a geisiai bregethu fod angen chwarae teg i’r rhai a ystyrir yn ‘llai ffodus’. Drwy uchelseinydd, darllena lais diniwed ferch ifanc negeseuon gwleidyddol, megis ‘Inheritence should be abolished’, ac mae baner ‘Mind The Pay Gap’ a oedd i’w weld yn y Geodome yn crynhoi thema Dismaland i’r dim.
Serch hynny, roedd pawb yn ddigon parod i wario’u harian ar lywio’r ffoaduriaid yn y cychod remote control. Roedd y pwer yn eu dwylo nhw, a phawb yn chwerthin wrth i’r cychod fwrw mewn i’w gilydd. Mae’n deg i ofyn faint o’r pobl hynny mewn gwirionedd fyddai’n rhoi lle iddynt yn eu cartrefi clyd?
Y ‘Selfie Hole’ a danlinellodd obsesiwn ein cymdeithas fodern â ni ein hunain.
Roeddwn i wedi disgwyl i Dismaland fod llawer gwaeth. Er nad oedd yna ronnyn o frwdfrydedd yn perthyn i’r un o’r gweithwyr a oedd o gwmpas y lle yn eu siacedi oren llachar, teimlaf y gallent fod wedi gwthio’r elfen anghymdeithasol ymhellach. (Mae’n debyg fod hynny’n anodd i wneud gan fod gymaint o bobl wedi dod â’u plant i’r parc.) Gellid fod wedi gwthio’r elfen dystopaidd a wirioneddol herio ni ymwelwyr.
A oedd y parc i fod pigo fy nghydwybod? Mi adewais yno’n gymharol gysurus fy myd, a mynd yn syth i McDonalds, ac er mawr cywilydd, dweud wrth dyn digartref nad oedd gennyf unrhyw newid mân wedi i mi wario £10 ar boster. Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle prin i fynd i Dismaland, ond ni theimlaf ei fod wedi newid fy mywyd na fy ffordd o edrych ar y byd. Ie, dos go gref o realiti oedd y parc hwn, ond doedd e ddim yn mynd digon pell i chwalu’r ffantasi.
Felly Dismaland? Doedd e ddim wir yn ddigon ‘dismal’ i fi.